Dwi di cael llond bol efo diddordeb afiach y cyfryngau mewn llofruddiaethau. Mae Soham ac Ian Huntley yn enghraifft berffaith. Ymdrybaeddu ym manylion lladd y ddwy hogan bach, oriau o deledu heddiw nes ei bod bron yn amhosib ei osgoi, ac hyd yn oed yn holi rhai o gyfeillion y genod am eu teimladau. Ych a fi! Ac wrth gwrs, bydd rhieni plant bach yn mynd yn fwy paranoid byth, plant yn cael eu cadw adref, gan achosi mwy o broblemau iechyd a phwysau. Mae twf traffig yn llawer mwy o beryg i blant.
Ac er erchyllter y digwyddiad, dichon bod digwyddiadau pwysicach y gellid rhoi sylw iddynt yn y byd sydd ohoni.
Roedd fy mrawd yng nghyfraith o'r Almaen yn synnu pa mor blwyfol ydi newyddion Prydain. Ai gosod yr agenda mae'r newyddiadurwyr, 'ta oes gan y bobol wir ddiddordeb yn y fath sothach diraddiol?