Ro'n i mewn rhai darlithoedd yn ddiweddar yn trafod perthynas yr Amerig a Phrydain, ac yn dilyn dadl mewn edefyn arall, o'n i'n meddwl beth mewn gwirionedd yw'r berthynas yma?
Un theori sydd yn apelio ata i yw fod America, oherwydd eu 'hanes o berthynas arbennig' yn y gorffennol agos mae hi nawr yn defnyddio Prydain fel ei llais yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae America yn poeni am rym posib yr Ewro ac effaith Ewrop wirioneddol unedig - fel United States/Nations of Europe, ac yn ofni y byddai Ewrop o'r fath yn fygythiad i rym global yr Amerig.
Prydain felly, yn ol y theori yma, yw pyped America. Pe na byddai Blair a Phrydain yn fodlon cydweithio a'r Amerig yna buan iawn y byddwn ni'n gweld yr Amerig yn closio fwy-fwy at Sbaen neu'r Eidal.
Wrth gwrs gallau America fynd rhagddi yn rhwydd heb gymorth Prydain ym materion fel rhyfel Irac, ac yn y tymor byr byddai yna ddim problem, ond, dare i say it, mae nhw wedi bod yn ddigon hir-ben i weld bygythiad tymor hir Ewrop a c felly defnydd Prydain yn hynny o beth.
A oes rhinwedd i'r theori yma? atebion heb ymosodiadau os gwelwch yn dda