'Sdim esgus i bobl gael erthyliad jyst achos nad ydynt "eisiau" babi am rhesymau ariannol/personnol ac ati. Mae pobl yn son am "perygl i' fywyd y fam" ond yng Nghanada, "dim rheswm o gwbl" ydy'r rheswm mwyaf cyffredin am erthyliadau. Grêt. Mae 'na pwynt lle mae'r holl beth yn mynd yn rhy bell ac yma dan ni di cyrraedd y bwynt na.
Hoffwn i fod agor i ddadlau rhesymegol. Yn anffodus 'sdim unrhyw dadlau i'w weld: y problem ydy bod yr anti-lifers yn defnyddio dadlau ad-hominem a stereoteipiau negyddol i geisio distewi'r ochr arall, di nhw ddim
eisiau cylwed. Dyma'r prif rheswm i fi ddyfod yn gwrth-erthyliad- on i jest yn casau gweld y fath 'ma o beth. Dwi'm yn gwybod os ydy hyn yn gwir yn y DU ond yng Nghanada maen nhw'n
nucking futs. Y rheswm dros hyn yw oherwydd y credaf bod y babi yn rhan o gorff y fam tan ei fod yn cael ei eni.
Wel mae hyn yn dibynnu ar be ti'n ystyried yn "rhan ar wahan". Os dwi'n cofio'n iawn, roedd y rhufeinaidd yn credu mai "rhan" o'r dad oedd plant tan iddynt gyrraedd aeddfedrwydd (!)- tan hyn, oedd y dad yn gallu eu lladd yn gyfreithiol. Dwedwn i fod hwn yn mynd yn ôl i'r un proces rhesymegol...