Dr Gwion Larsen a ddywedodd:Ramirez a ddywedodd:Dr Gwion Larsen a ddywedodd:Fel person 14 oed fy hyn mae llawer o bobl fy oed i sydd ddim digon aeddfed ond ar y llaw arall mae llond llaw o unigolion sydd yn ddigon aeddfed a dylai y unigolion yna fod gyda'r hawl i bleidleisio dylant? Mae y pobl sydd ddim digon aeddfed yn fy marn i bleidleisio allai'm ei rhagweld nhw yn mynd i bleidleisio felly does ddim ots.
Ag Leusa os nad yw pobl un ar bumtheg yn ddigon aeddfed i bleidleisio a ydyn nhw yn ddigon hen i dalu trethi ag i ddifrodi ei iechyd drwy ysmygu? Wedi'r cyfan nid ydyn nhw ddigon 'aeddfed' i wneud penderfyniadau ei hunain.
Peth ydi- dio ddim yn beth anodd llwyddo i smocio pan ti'n bymtheg, neu 14, nag yfed chwaith, ond elli di DDIM pleidleisio tan ti'n 18.
Dwnim os ydi'r lot o bobol 16 efo'r aeddfedrwydd i bleidleisio, a dwi'n nabod llwyth o bobol 16 plentynaidd/ignorant (dwi hefyd yn nabod llwyth sydd ddim), a dwin siwr y basa na lot o fotio'n digwydd jysd achos bod na un boi di penderfynu fotio rhywun, a neb arall yn boddyrd i feddwl y peth drwodd ac yn gneud run fath.
Ma na hefyd lwyth o bobol 18 fel hyn.
Duw a wyr. 18 yn iawn amwni.
ma'n ddrwg geni ond dwim yn shwr bod dwin dallt bedir pwynt tin trio ei basio yn y paragraff yma alli di ei egluro yn well plis!
Be oni'n drio ddeud ydi dwi'n ama os ydi'r mwyafrif o bobol 16 oed yn ddigon aeddfed i bleidleisio (ond ar y llaw arall, gellir dadla nad ydi lot o rai 18 oed chwaith)
Hefyd, mi oddachdi'n dadla
...yn ddigon sefydlog ei mheddwl i ysmygu (ac talu y £1.40 o drethi ar y pac o ddeg sigaret)
ond mae'n ddigon hawdd prynu ffags cyn bo chdi'n 16 eniwe, a dal talu'r dreth, ond dwi'n ama braidd fod y pwynt yma yn amherthnasol.
Dwi ddim yn siwr ar pa ochor ydwi deud y gwir, ond os faswni'n cael fy ngwthio, dwin meddwl faswni'n deud fod 18 yn ddigon ifanc.
They say one of the few times a man pays full attention is when he’s talking about himself. Another is when blood is coming out of his penis.