Ysbytai meddwl

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ysbytai meddwl

Postiogan Lowri Fflur » Iau 01 Ion 2004 11:25 pm

Fe es i weld fy ffrind yn ysbytu meddwl Hergesd yn Bangor. Cefais ychydig o sioc oherwydd ei bod yn edrach fel ei bod ar blaned arall oherwydd ei bod yn drugged up to the eyeballs ar gyffuriau' r ysbytu. Ydi pobl yn meddwl bod o' n iawn rhoid llawer o gyffuriau i bobl sy' n sal yn feddyliol hydynoed os mae o' n erbyn ei hewyllus?
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Iau 01 Ion 2004 11:58 pm

Dibynnu faint o les mae'n gwneud i'r person, a i gadw'r staff yn saff. Mae yna dueddiad, dwi'n meddwl, i or-ddrygio mewn ysbytai meddwl jyst i gadw pawb yn dawel a dof.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan gronw » Gwe 02 Ion 2004 3:31 pm

Cytuno ag Ifan, mae ysbytai meddwl (ac i raddau llai ysbytai eraill) yn llawer iawn rhy barod i ddrygio pobl i'r cymylau jyst achos ei fod yn golygu llai o waith. Yn aml iawn dydy'r rhain yn gwneud dim lles i'r claf ei hun.
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Macsen » Sad 03 Ion 2004 1:13 am

Ond mae rhaid bod yn ofalus pam yn dweud hyn am ysbytai meddwl, am fod barn nifer o bobl amdanynt yn dod o lyfrau fel One Flew Over the Cuckoo's Nest, a Terminator 2. Dw i erioed wedi bod mewn ysbytu meddwl go iawn, felly allai i ddim wir ddweud.

Lowri Larsen, oedd dy ffrind wir angen cael ei drygio i nenfwd y nefoedd, ta ddim? Oedd hi'n debyg o ymosod ar y staff, ymosod arni hi ei hun, neu ceisio dianc?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Lowri Fflur » Sad 03 Ion 2004 3:58 am

Ifan Morgan Jones a ddywedodd:
Lowri Larsen, oedd dy ffrind wir angen cael ei drygio i nenfwd y nefoedd, ta ddim? Oedd hi'n debyg o ymosod ar y staff, ymosod arni hi ei hun, neu ceisio dianc?


Roedd fy ffrind yn paranoid scitsoffrenic. Dwi ddim yn meddwl o adnabod hi yn bersonol y byddai hi yn debygol o wneud unryw rai o' r pethau ti wedi ei restru ond efallai bod barn y sdaff yn yr ysbytu yn wahanol. Roedd hi yn meddwl bod pobl yn tynnu stumiau arni ac amdani mewn sefyllfaeoedd cymdeithasol ac yn meddwl bod pobl yn siarad amdani drwy sibrwd ag ati ac yn clywed lleisiau pam nad oedd nw yna. Dwi ddim yn meddwl y basa hi wedi neud dim byd perig ond mae' n siwr bod hyn yn HELL ac efallai y bod oedd o yn ffeindiach rhoi hi allan o' i misery ond ella ddim. :?
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Sad 03 Ion 2004 4:10 am

freaky
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Lowri Fflur » Sad 03 Ion 2004 4:23 am

RET79 a ddywedodd:freaky


Be ti' n feddwl freaky? Freaky a scary i hi oedda chdi' n feddwl? Ta i bobl eraill? Dwi ddim eisiau camddehongli be ti' n ddeud cariad :winc:

P.S: you would be correct in detecting a little hint of sarcasm sweaty pie
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Tami » Sad 03 Ion 2004 12:41 pm

Dwi yn ffeindio y drafodaeth yma yn ddiddorol gan fy mod ar hyn o bryd yn gweithio gyda oedolion a salwch meddwl.
Ennill profiad ydw i cyn mynd ymlaen i hyfforddi fel seicolegydd. Gobeithio.

Mae cael perspectif ffrind i un o'r cleifion wastad yn ddiddorol a defnyddiol.

R'on i yn hollol newydd a di-brofiad i'r system iechyd meddwl rili. A mae'n rhaid fi ddeud mod i wedi ffeindio weithiau mai blaenoriaeth y system yw arbed y cyhoedd (e.e. staff a.y.y.b.) a hyn, weithiau, ar draul be' fyddai o fudd i'r unigolyn ei hun.
Ar y llaw arall, mae gen i lot o waith dysgu am fanteision cyffuriau a.y.y.b. a does 'na byth ateb hawdd.

Efallai gallet drafod dy bryderon efo nyrs sy'n gweithio efo dy ffrind. Efallai y gallai fo/hi egluro pam fod y penderfynniad wedi ei wneud yn achos dy ffrind (?)
Ond, fel y deudais i , mae gen i lot i ddysgu eto. Efallai na fyddai gan y nyrs hawl i drafod hyn gyda ti.

Actually, dwi ar fin darllen llyfr allai fod yn berthnasol:

"Pure Madness: How fear drives the mental health system" gan Jeremy Laurance.

Croeso i ti anfon neges i mi os wyt ti eisiau trafod hyn yn bellach.
Gwn y bydd dydd yn dod
i wynebu'r anwybod
Rhithffurf defnyddiwr
Tami
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 20
Ymunwyd: Llun 10 Tach 2003 1:21 pm

Postiogan gronw » Sad 03 Ion 2004 1:01 pm

SiwanM a ddywedodd:R'on i yn hollol newydd a di-brofiad i'r system iechyd meddwl rili. A mae'n rhaid fi ddeud mod i wedi ffeindio weithiau mai blaenoriaeth y system yw arbed y cyhoedd (e.e. staff a.y.y.b.) a hyn, weithiau, ar draul be' fyddai o fudd i'r unigolyn ei hun.
Ar y llaw arall, mae gen i lot o waith dysgu am fanteision cyffuriau a.y.y.b. a does 'na byth ateb hawdd.

Dwi'n siwr y bydde'r system iechyd meddwl yn cytuno gyda ti bod gen ti "lot o waith dysgu am fanteision cyffuriau a.y.y.b. a does 'na byth ateb hawdd", h.y. dy brainwasho di i'r un meddylfryd â nhw. Wedi dweud hynny, falle bo fi'n annheg achos does dim profiad personol uniongyrchol gyda fi o'r system iechyd meddwl, jyst be dwi wedi'i ddarllen (a ddylen ni ddim credu mwy na hanner be ni'n ddarllen - ond pa hanner?). Mae darllen llyfre fel hwnna gan Jeremy Laurance yn swnio fel good move i fi beth bynnag.
Rhithffurf defnyddiwr
gronw
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1397
Ymunwyd: Mer 03 Rhag 2003 7:12 pm

Postiogan Macsen » Sad 03 Ion 2004 2:28 pm

Lowri Larsen a ddywedodd:Roedd hi yn meddwl bod pobl yn tynnu stumiau arni ac amdani mewn sefyllfaeoedd cymdeithasol ac yn meddwl bod pobl yn siarad amdani drwy sibrwd ag ati ac yn clywed lleisiau pam nad oedd nw yna.


Pwy sy ddim? Ond dwi'n meddwl mae fy mobile ffon sy'n gyfrifol am yr un olaf. Dw i'n tueddu i beidio clywed lleisiau pam bod nhw yna, sy'n waeth byth.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 29 gwestai

cron