gronw pebr a ddywedodd:Dwi'n siwr y bydde'r system iechyd meddwl yn cytuno gyda ti bod gen ti "lot o waith dysgu am fanteision cyffuriau a.y.y.b. a does 'na byth ateb hawdd", h.y. dy brainwasho di i'r un meddylfryd â nhw.
Hmmmm. Ie. Dwi'n gweld be' ti'n ddeud Gronw. Fyswn i ddim yn deud dy fod yn annheg. Mae angen drwgdybiaeth ar y byd am wn i.
O ran yr issue ynghylch a rhoi cyffuriau i bobl, mi dria i egluro be' o'n i'n drio ddeud mewn 'chydig mwy o fanylder:
Mi fyddwn, yn arwynebol, yn dueddol o deimlo y dylid trio pob triniaeth posib arall cyn rhoi cyffuriau i glaf (i.e. dylai "druggio pobl fyny" fod, o hyd, yn last resort). O ran y system iechyd meddwl presennol, ydi, mae'n bryder gen i fod cyffuriau yn ateb cyfleus ond di-angen mewn rhai achosion. Ond, mi ydw i hefyd yn agored i'r posibilrwydd fod manteision i gymeryd rhai cyffuriau o dan rhai amgylchiadau weithiau.
Ydw, (fel ddeudais i), dwi'n cyfadde' fod gen i lot o waith dysgu eto cyn sefydlu barn gwbl gadarn!
O ran yr issue o gael fy brainwasho, I guess fod hynny wastad yn berygl mewn unrhyw sefydliad. Dwi'n gobeithio fod darllen digon, cael profiadau amrywiol a newid fy swydd yn aml yn help i fi leihau'r risg yma.
Gallaf ond gobeithio, undydd, y byddaf wedi ffurffio barn soffistigedig, gwybodus, annibynnol a moesol gywir ar yr holl beth!!!