Dylan a ddywedodd:
hynny a'r egwyddor syml y dylai addysg fod yn rhad ac am ddim i bawb wrth gwrs
Dwi'n meddwl fod pobl yn symud i ffwrdd o'r syniad yna dyddie yma ac yn gweld addysg fel buddsoddiad. Pam ddylsai cwrs meddyg fod am ddim, pan ar ol graddio ti am fod ar uffar o gyflog neis weddill dy fywyd? Sdim rhyfedd fod pobl mewn gwaith pwysig, ond lle ti ddim angen gradd, fel gyrrwyr bysus, garddwyr, pysgotwyr yn meddwl fod o'n cymryd y p*ss fod rhan o'u trethi nhw'n mynd i dalu am addysg joni bach fydd yn enill cyflog lot mwy na nhw rhyw ddydd hyd weddill eu oes.
Dwi'n meddwl bydd ffioedd yn golygu bydd pobl yn meddwl lot mwy call am fynd i brifysgol au peidio. Er dweud hyna, mae'n rhaid cyfaddef dwi ddim yn rhy hoff o'r syniad o ffioedd: fy mholisi i fuasai lleihau nifer y bobl sy'n mynd i brifysgol yn y lle cyntaf, nid ceisio eu cynyddu fel mae Blair angen, wedyn ni fyddai angen ffioedd.
Beth ddiawl yw'r embarass yn mynd i ex-poly i wneud cwrs? Mae llawer mwy o angen pobl hefo sgiliau defnyddiol na phobl hefo graddau academaidd ar ein cymdeithas. Sbia faint o rogue traders a cowbois sydd o gwmpas y lle, buasai mechanic da, plumber da yn gwneud bywoliaeth argennig o dda dyddie yma.
Os buaswn i'n gorfod gwneud penderfyniad am fynd i brifysgol hefo'r gwybodaeth sgen i am y byd rwan, mae siawns da na fuaswn wedi dilyn y trywydd yna.