Garnet Bowen a ddywedodd:Ifan Morgan Jones a ddywedodd:Os ydi pobl yn y gwledydd arabaidd yn teimlo fod torri llaw y lleidr a torri tafod y celwyddgi yn ffordd gwell o redeg cymdeithas na pacio celloedd llawn pobl, pwy ydym ni i'w barnu nhw am feddwl y ffordd hynny?
Dwi'n gweld yr agwedd yma yn un sy'n adlewyrchu hilaeth is-ymwybodol llawer iawn o bobl asgell-chwith. Efallai dy fod di'n meddwl dy fod di'n bod yn deg wrth gyflwyno'r safbwynt uchod, ond dwi'n ei gweld hi mewn ffordd arall. Fyswn i byth yn caniatau i gosb mor farbaraidd gael ei defnyddio yn y wlad yma, hyd yn oed i gosbi fy ngelyn eithaf. Felly pam dyliwn i gau fy ngheg wrth i leidr Arabaidd gael ei drin yn y fath ffordd? Ydi'r lleidr yma yn haeddu llai o fy nhrugaredd, neu llai fy nghydymdeimlad, am ei fod yn Arab?
Y broblem gyda dadlau fod yna wahaniaeth "diwylliannol" sy'n ei gwneud hi'n dderbynniol i dorri dwylo lladron i ffwrdd ydi dy fod di, fel arfer, yn cefnogi syniadaeth
elite y diwylliant hwnw. Arf sy'n cael ei ddefnyddio gan lywodraeth gormesol i reoli poblogaeth y wlad ydi'r arfer o dorri dwylo, yn hytrach na elfen unigryw o ddiwylliant Mwslemaidd.
Mae'n rhaid i ni gofio fod y moesoldeb yr ydym ni yn arddel fel conglfaen i'n cymdeithas heddiw yn tarddio o Gristnogaeth a ddatblygodd yn y Dwyrain Canol. hynny yw rydym ni yma wedi mabwysiadu syniadau o rannau eraill y byd ai ddefnyddio fel best practice i ffurfio ein cymuned gwar ni heddiw.
Roedd arferion Celtaidd a Chymreig hefyd yn ffiaidd tan i'r Eglwys Fore wreiddio yma.
Am fod rhywbeth yn arferiad neu draddodaid nid yw hynny yn golygu ei fod yn gywir. Mae'n rhaid i ni ymgyrchu yn erbyn yr arferion yma pan y medrwn - a chenhadu ein syniadaeth yw hyn. Ond mae hynny ond yn canolbwyntio ar arferion negyddol nifer o wledydd. Mae gan 'y Gorllewin' arferion gwael y byddwn i'n hoffi eu gweld yn cael eu gwaredu.
Ond mae gwledydd a phobl Arabaidd yn cael 'bad press'. does ond angen edrych ar ffilmiau Hollywood ers y 90au i weld mai Arabiaid yw'r drwg nawr, ac nid y 'Sofietaid'.
Ac o ystyried pwyntiau RET am America, wy ddim yn dod ar draws erthyglau yn y wasg Brydeinig sy'n dweud fod yr Americaniaid yn ddim mwy na 'Mass-Murderers, limb-amputators,' ayb tebyg i beth wnaeth Kilroy yn ei golofn yn yr Express.