Dyled trydydd byd

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Dyled trydydd byd

Postiogan Lowri Fflur » Llun 12 Ion 2004 3:46 pm

Mae 1 plentyn yn marw bob 5 eiliad mewn gwledydd trydydd byd. A mae gwledydd trydydd byd yn gorfod talu 3 gwaith gymaint a be natha nw fenthig yn ol i wledydd gorllewinol. Oherwydd hyn mae gwledydd trydydd byd yn gorfod gwerthu eu cynyrch i wledydd eraill a gwario yr arian maent yn neud i dalu' r gwledydd gorllewinol yn ol. Oherwydd eu bod yn gorfod gwerthu eu cynyrch i wledydd eraill di nw byth yn mynd yn fwy cyfoethog ag yn cael y cyfle i ddefnyddio eu cynyrch i wneud eu gwledydd yn fwy cyfoethog. Dwi' n credu y dylau y ddyled yma gael ei ollwng i roi cyfle i' r bobl sy' n byw mewn gwledydd trydydd byd gael bywyd gwell. Beth mae pobl eraill yn meddwl?
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Llun 12 Ion 2004 3:49 pm

Byddai anghofio'r ddyled yn ddigon neis a lyfli ond mae'r broblem yn llawer dyfnach na hynny. Gydag amser bydd yr un peth jyst yn digwydd eto, ond yn waeth oherwydd fydd y problemau sy'n ei achosi yn y lle cyntaf ddim yn cael eu datrys.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Lowri Fflur » Llun 12 Ion 2004 3:51 pm

Be wy ti' n cynig fel ateb Dylan?
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dr Gwion Larsen » Llun 12 Ion 2004 3:53 pm

Roeddyn yn astudio y testyn hwn flwyddyn diwethaf yn y wers gymraeg. Penderfynais i bod na allwch roi bris ar fywyd felly dylid Prydain anghofio y ddyled. Os byddai Prydain mor dlawd na allant anghofio'r ddyled bydda nhw ddim yn ymosod ar wledydd eraill! A chostio'r wlad biliynau ar filiynau.
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan Dylan » Llun 12 Ion 2004 3:58 pm

Rhoi stop ar gymhorthdaliadau i ffermwyr y gorllewin yn un peth. Mae'n rhoi ffermwyr gwerinol y trydydd byd allan o fusnes wrth i'r gorllewin orfodi'r gwledydd yma i fewnforio ein cynnyrch.

"Fair trade"? Dim ond pan mae yn ein siwtio.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Lowri Fflur » Llun 12 Ion 2004 4:15 pm

Ia sa nw' n gallu neud huna a gwahardd dyled trydysdd byd
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Llun 12 Ion 2004 4:20 pm

A wedyn dyna ni! Pob dim yn sorted a lyfli yn y byd. Delwedd

pffft, petaent yn gadael y busnes gwleidyddiaeth 'ma i ni, buasai pob dim yn berffaith
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan garynysmon » Llun 12 Ion 2004 8:25 pm

Efallai na chael gwared ar y llog yw'r ateb. Does ddim angen i'r gwledydd yma feddwl eu bod yn cael y pres am ddim (wedi'r cyfan, mae llawer iawn ohono yn cael ei wario ar ryfeloedd cartref a.y.y.b) ond mae'r gyfradd llog y maent yn gorfod talu'n nol yn warthus o uchel.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Lowri Fflur » Llun 12 Ion 2004 8:37 pm

garynysmon a ddywedodd:Efallai na chael gwared ar y llog yw'r ateb. Does ddim angen i'r gwledydd yma feddwl eu bod yn cael y pres am ddim.


Pam ddim cael gwared ar y llog? Beth sydd o' i le ar y gwledydd tlawd yma yn cael ychydig o gymorth gan wledydd mwy cyfoethog. Dylai' r byd weithio efo' u gilydd. :winc:
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan garynysmon » Llun 12 Ion 2004 8:59 pm

Dyna o'n i yn drio'i ddweud yn fy ffordd fach 'Fonwysig' i o siarad.
Efallai na chael gwared ar y llog yw'r ateb.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 35 gwestai

cron