Oes, yn anffodus mae i Dori Bliar ddyfodol.
Bydd e wedi ei niweidio yn arw, ond ma'r ddawn gyda fe i addasu a esblygu i siwto'r ddelwedd angenrheidiol heb newid ei wleidyddiaeth centre right sylfaenol e.
Fi'n ame os gollith e'r bleidlais ar ffioedd.
bydd e'n agos - iawn - ond sai'n credu gollith e. ma nhw wedi neud gymaint o gonsesiynnau fel yn y diwedd y bydd e fwy fel pleidlais mewn enw ac ddim mewn gweithred. bydd ddim hanner digon o arian yn cael eu casglu, a bydd grantiau - diolch byth - ond gobaith y cynnig yw sefydlu cynsail. Hynny yw, o basio'r cynnig bydd meddylfryd pobl - yn enwedig gwleidyddion - yn fwy parod i dderbyn yr egwyddor o ffioedd, ac felly ymhen blynyddoedd (5, falle mwy) bydd y llywodraeth wirioneddol yn datblygu'r polisi.
Treni mawr. Dylid felly peidio a derbyn cyfaddawdu ac felly trin y bleidlais fel un o egwyddor sylfaenol - dim ots beth yw'r cynnwys - sef o blaid ffioedd uwch, neu yn erbyn. Yn anffodus mae gormod o wleidyddion hunan-bwysig yn cael eu prynnu gan gyfaddawdau tymor-byr - yn codi eu 'ego' nhw dros dro ("llwyddes i i ennill brwydyr yn erbyn Bliar" ayb) tra fod y tymor hir yn cael ei anwybyddu ac yn ffycd.
O ran Hutton, fi'n ame ei fod wedi edrych arno fe i gyd yn gymharol geidwadol - cadw'n itha ffyddlon at y gofynion, ac felly bydd yr holl gwestiwn ehangach o'r WMD yn cael ei anwybyddu i raddau helaeth. Byddai hyn yn sicr wedi difrodi Bliar, ond Hoon fydd yn cael ei feirniadu fwya. Fi'n ame y caiff Gilligan feirniadaeth, ond bu iddo fe ymddiheurio sawl gwaith a chydnabod bai sawl gwaith yn gynnar iawn, ac felly gallau pethau fod ychydig yn well arno.
Dylai Powell yn sicr cael ei feirniadu a chadeirydd y JIC - mae e wedi cyfaddawdu ei rol lot gormod - mae No.10 a'r Cabinet fod gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth a barn am-mhleidiol y JIC - yn anffodus roedd y JIC yn glwm i Campell a Powell, ac felly nhw oedd yn gosod yr agenda - drwg iawn.
Re-shyffl bach yn y cabinet a bydd Blair unwaith eto'n iawn. Cwpwl o ddatganiadau o newid trefn ac yn y blaen, ac erbyn y pasg byd y wasg yn canolbwyntio ar trethi cyngor oherwydd yr etholiadau lleol.