Rhys Llwyd a ddywedodd:Fe ennilloedd y llywodraeth o 5, ie 5 yn unig!!!!!!!!
£3,000 x 3 am ffioedd = £9,000
£2,000 x 3 am llety = £6,000
£1,500 x 3 i fyw = £4,500
CYFANSWM: £19,500 (oleiaf!!!!!!!!!!)
Mae hyn yn ddifrifol!
Rhaid gweithredu
Dwi'n un o'r rhai lwcus a aeth i fewn flwyddyn cyn i ffioedd ddod i fewn.
20k debt? Wel, mae hwn yn mynd i gymryd amser maith i'w dalu ffwrdd. Coeliwch fi, fe wnewch chi'n dda iawn i dalu ffwrdd 1k y flwyddyn pan gewch chi job. A sut mae nhw'n disgwyl i bobl ifanc safio i gael deposit am dy? Dim ots beth bynnag, mae prisiau tai yn bell o gyrraedd pobl ifanc y dyddie yma eniwe.
Fe fyddwn yn gweithio tan ein bedd, gyfeillion.
Un theori ddiddorol glywais heddiw oedd mai'r gwir reswm yw fod y llywodraeth am gadw pobl ifanc oddi ar y dol drwy fynd i brifysgolion, ac am gynyddu'r nifer hyn gan fod nhw am i bobl hyn weithio yn hirach ac ymddeol yn hwyrach mewn bywyd. Wedi'r cyfan, mae hyn yn gwneud synnwyr gan fod pobl yn byw yn hirach dyddie yma. Does dim angen llawer o ddeallusrwydd o bensiynau i wybod fod os yw pobl yn byw yn hyn yna rhaid i bobl weithio yn hwyrach mewn bywyd hefyd, neu bydd gormod o bensiynwyr a dim digon o weithwyr i'w cynnal.