Cymedrolwr: Mr Gasyth
Rhys Llwyd a ddywedodd:Boris a ddywedodd:Di-Angen a ddywedodd:Oes unrhywun yn gweld unrhyw fai ar yr MPs o'r Alban wnaeth bleidleisio ar hwn?
Mae hwn yn gyfraniad allwewddol ac eto wedi ei anwybyddu.
Fe basiodd y ddeddf neithiwr oherwydd pleidleisiau AS Llafur o'r Alban - gwlad fydd DDIM yn cael ei heffeithio gan y ddeddfwriaeth. Fe wnaeth Peter Duncan (unig AS Ceidwadol yr Alban atal ei bleidlais).
Beth mae hyn yn ddweud am y setliad cyfgansoddiadol a democratiaeth yng Nghymru a Lloegr?
dydy hynny ddim yn gwbwl deg oherwydd fod myfyrwyr or Alban yn mynd i golegau yn lloegr a myfyrwyr o loegr yn dod i golegau yn yr Alban.
Felly dwi'n meddwl fod hi'n bwysig fod aelodau seneddol yr Alban wedi cael pleidlais.
Di-Angen a ddywedodd:Oes unrhywun yn gweld unrhyw fai ar yr MPs o'r Alban wnaeth bleidleisio ar hwn?
Clarice a ddywedodd:Di-Angen a ddywedodd:Oes unrhywun yn gweld unrhyw fai ar yr MPs o'r Alban wnaeth bleidleisio ar hwn?
Mae hi mor eironig bod y Toriaid yn cwyno am hyn nawr. Doedden nhw ddim yn poeni pan oedd aelodau toriaidd o Loegr yn pasio deddfwriaeth i Gymru (e.e. Deddf Iaith 1993) er nad oedd e'n effeithio arnyn nhw o gwbl - ac roedden nhw'n anwybyddu'n llwyr y mwyafrif Cymreig oedd am weld deddf gryfach.
Ond wy yn credu bod y sefyllfa fel mae hi nawr yn fler yn arbennig gan nad yw'r Cynulliad â'r un pwerau â Senedd yr Alban.
A sa i'n credu bod y ffaith fod myfyrwyr o'r Alban yn mynd i brifysgolion Lloegr yn ddadl sy'n dal dwr - mae llwyth o fyfyrwyr o Malaysia yn mynd i'r Brifysgol yn Aberystwyth, ond dyw hwnna ddim yn meddwl dyle Malaysia ethol rhywun i'r Cynulliad.
Clarice a ddywedodd:Nes i ddim galw Di-angen yn Dori ....wedes i bod na eironi yn y ffaith bod y Toriaid yn cwyno am hyn nawr - sy'n wir.
Clarice a ddywedodd: Mae na gymhariaeth yna achos pan wy'n clywed y Toriaid yn cwyno fod gan aelodau seneddol yr Alban ddim hawl i bleidleisio ar fater sy ddim yn effeithio'u hetholwyr nhw, wy'n meddwl fod y peth yn eironig o styried pethe sy wedi digwydd yn y gorffennol.
Clarice a ddywedodd: Mae aelodau seneddol wastad wedi pleidleisio ar bethe sy ddim yn effeithio yn uniongyrchol ar eu hetholwyr nhw.
Ond dydw i ddim yn dweud fod hynny'n iawn, fel wedes i mae'r sefyllfa yn fler.
Boris a ddywedodd:Os dio ddim yn iawn, a dwi'n cytuno, yna pam mynd lawr y llwybr gwrth doriaidd hynod o predictable? Ac o ran etholwyr yn pledleisio ar bethau sydd ddim yn efeithio ar ei hetholwyr yn y gorffennol - be yn union sydd dan sylw fan yma?
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai