FFIOEDD! y gwirionedd

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Terry Jones

Postiogan Clarice » Mer 28 Ion 2004 2:26 pm

Finne hefyd yn cytuno 100% gyda Terry Jones. Mae'r ddadl na ddyle bobol dalu am addysg uwch yn eu treth oni bai eu bod nhw'u hunain yn derbyn yr addysg honno'n beryglus iawn. Be nesa? "Os yw Mrs Jones drws nesa yn cael clun newydd ar y gwasanaeth iechyd, dyw hynny ddim yn gwneud dim lles i fi, felly pam ddylen i dalu am y driniaeth...."
Rhithffurf defnyddiwr
Clarice
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 279
Ymunwyd: Iau 02 Hyd 2003 10:09 am
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Boris » Mer 28 Ion 2004 2:52 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:
Boris a ddywedodd:
Di-Angen a ddywedodd:Oes unrhywun yn gweld unrhyw fai ar yr MPs o'r Alban wnaeth bleidleisio ar hwn?


Mae hwn yn gyfraniad allwewddol ac eto wedi ei anwybyddu.

Fe basiodd y ddeddf neithiwr oherwydd pleidleisiau AS Llafur o'r Alban - gwlad fydd DDIM yn cael ei heffeithio gan y ddeddfwriaeth. Fe wnaeth Peter Duncan (unig AS Ceidwadol yr Alban atal ei bleidlais).

Beth mae hyn yn ddweud am y setliad cyfgansoddiadol a democratiaeth yng Nghymru a Lloegr?


dydy hynny ddim yn gwbwl deg oherwydd fod myfyrwyr or Alban yn mynd i golegau yn lloegr a myfyrwyr o loegr yn dod i golegau yn yr Alban.

Felly dwi'n meddwl fod hi'n bwysig fod aelodau seneddol yr Alban wedi cael pleidlais.


Ond mae 90% + o stiwdants yr Alban yn aros yn yr Alban i astudio, felly tydi hwn ddim yn fater o bwys yn yr Alban. Ai teg yw cael mwyafrif o blaid oherwydd pleidlais AS fydd DDIM yn gorfod gwynebu ei hetholwyr ynghylch y mater hwn?
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan eusebio » Mer 28 Ion 2004 3:00 pm

Dyma yw canlyniad datganoli, ond allwch chi ddychmygu Llafur yn ystyried peidio gadael eu hymerodraeth yng Nghymru bleidleisio ar rhywbeth fyddai'n effeithio Lloegr yn unig - heb yr AS o ymry a 'r Alban faint fyddai eu mantais yn San Steffan?
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

Postiogan Macsen » Mer 28 Ion 2004 3:31 pm

Sut fyset ti di fotio Boris?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Clarice » Mer 28 Ion 2004 3:43 pm

Di-Angen a ddywedodd:Oes unrhywun yn gweld unrhyw fai ar yr MPs o'r Alban wnaeth bleidleisio ar hwn?


Mae hi mor eironig bod y Toriaid yn cwyno am hyn nawr. Doedden nhw ddim yn poeni pan oedd aelodau toriaidd o Loegr yn pasio deddfwriaeth i Gymru (e.e. Deddf Iaith 1993) er nad oedd e'n effeithio arnyn nhw o gwbl - ac roedden nhw'n anwybyddu'n llwyr y mwyafrif Cymreig oedd am weld deddf gryfach.
Ond wy yn credu bod y sefyllfa fel mae hi nawr yn fler yn arbennig gan nad yw'r Cynulliad â'r un pwerau â Senedd yr Alban.
A sa i'n credu bod y ffaith fod myfyrwyr o'r Alban yn mynd i brifysgolion Lloegr yn ddadl sy'n dal dwr - mae llwyth o fyfyrwyr o Malaysia yn mynd i'r Brifysgol yn Aberystwyth, ond dyw hwnna ddim yn meddwl dyle Malaysia ethol rhywun i'r Cynulliad.
Rhithffurf defnyddiwr
Clarice
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 279
Ymunwyd: Iau 02 Hyd 2003 10:09 am
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Boris » Mer 28 Ion 2004 3:59 pm

Clarice a ddywedodd:
Di-Angen a ddywedodd:Oes unrhywun yn gweld unrhyw fai ar yr MPs o'r Alban wnaeth bleidleisio ar hwn?


Mae hi mor eironig bod y Toriaid yn cwyno am hyn nawr. Doedden nhw ddim yn poeni pan oedd aelodau toriaidd o Loegr yn pasio deddfwriaeth i Gymru (e.e. Deddf Iaith 1993) er nad oedd e'n effeithio arnyn nhw o gwbl - ac roedden nhw'n anwybyddu'n llwyr y mwyafrif Cymreig oedd am weld deddf gryfach.
Ond wy yn credu bod y sefyllfa fel mae hi nawr yn fler yn arbennig gan nad yw'r Cynulliad â'r un pwerau â Senedd yr Alban.
A sa i'n credu bod y ffaith fod myfyrwyr o'r Alban yn mynd i brifysgolion Lloegr yn ddadl sy'n dal dwr - mae llwyth o fyfyrwyr o Malaysia yn mynd i'r Brifysgol yn Aberystwyth, ond dyw hwnna ddim yn meddwl dyle Malaysia ethol rhywun i'r Cynulliad.


Ers pryd mae Di-Angen yn Dori?

A cywira fi os dwi'n anghywir ond oedd yna Senedd ddeddfu yn Nghymru yn 1993? Felly tydi dy gymhariaeth ddim yn dal dwr. Yn 1993, San Steffan oedd yn gyfrifol am ddeddfu dros Brydain. Yn 2004, Senedd yr Alban sy'n deddfu ar faterion addysg ar gyfer yr Alban. Mae yna wahanaiaeth felly, ac mae yna gwestiwn sylweddol fan hyn am natur y cyswllt rhwng etholwyr a'r rhai hynny sy'n llywodraethu.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Toriaid

Postiogan Clarice » Mer 28 Ion 2004 4:26 pm

Nes i ddim galw Di-angen yn Dori ....wedes i bod na eironi yn y ffaith bod y Toriaid yn cwyno am hyn nawr - sy'n wir. Mae na gymhariaeth yna achos pan wy'n clywed y Toriaid yn cwyno fod gan aelodau seneddol yr Alban ddim hawl i bleidleisio ar fater sy ddim yn effeithio'u hetholwyr nhw, wy'n meddwl fod y peth yn eironig o styried pethe sy wedi digwydd yn y gorffennol. Mae aelodau seneddol wastad wedi pleidleisio ar bethe sy ddim yn effeithio yn uniongyrchol ar eu hetholwyr nhw.
Ond dydw i ddim yn dweud fod hynny'n iawn, fel wedes i mae'r sefyllfa yn fler.
Rhithffurf defnyddiwr
Clarice
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 279
Ymunwyd: Iau 02 Hyd 2003 10:09 am
Lleoliad: Caerdydd

Re: Toriaid

Postiogan Boris » Mer 28 Ion 2004 4:57 pm

Clarice a ddywedodd:Nes i ddim galw Di-angen yn Dori ....wedes i bod na eironi yn y ffaith bod y Toriaid yn cwyno am hyn nawr - sy'n wir.


Y Toriaid oedd dy gyhuddiad a Di-Angen oedd yn cael ei ddyfynu.

Clarice a ddywedodd: Mae na gymhariaeth yna achos pan wy'n clywed y Toriaid yn cwyno fod gan aelodau seneddol yr Alban ddim hawl i bleidleisio ar fater sy ddim yn effeithio'u hetholwyr nhw, wy'n meddwl fod y peth yn eironig o styried pethe sy wedi digwydd yn y gorffennol.


Be sydd di digwydd yn y gorffennol felly? Aelodau Seneddol Gwladwriaeth Unedig yn pasio deddfau ar gyfer y Wladwriaeth honno. Be di dy bwynt?

Clarice a ddywedodd: Mae aelodau seneddol wastad wedi pleidleisio ar bethe sy ddim yn effeithio yn uniongyrchol ar eu hetholwyr nhw.
Ond dydw i ddim yn dweud fod hynny'n iawn, fel wedes i mae'r sefyllfa yn fler.


Os dio ddim yn iawn, a dwi'n cytuno, yna pam mynd lawr y llwybr gwrth doriaidd hynod o predictable? Ac o ran etholwyr yn pledleisio ar bethau sydd ddim yn efeithio ar ei hetholwyr yn y gorffennol - be yn union sydd dan sylw fan yma?

Mae'r Blaid Lafur yn yr Alban yn erbyn ffioedd ac wedi deddfu am system sydd ddim yn defnyddio ffioedd. Er gwaethaf hyn, mae aelodau seneddol Plaid Lafur yr Alban yn pledleisio o blaid cyflwyno mesur sy'n effeithio Cymru a Lloegr yn unig, mesur na fydd yn cyflwyno ffioedd amrywiol na dim arall yn yr Alban. Tydi hyn heb ddigwydd o'r blaen felly lle mae'r eironi fy mod i (ia tori) yn cwyno efo eraill (megis Di Angen sydd ddim)?
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Re: Toriaid

Postiogan Clarice » Mer 28 Ion 2004 5:35 pm

Boris a ddywedodd:Os dio ddim yn iawn, a dwi'n cytuno, yna pam mynd lawr y llwybr gwrth doriaidd hynod o predictable? Ac o ran etholwyr yn pledleisio ar bethau sydd ddim yn efeithio ar ei hetholwyr yn y gorffennol - be yn union sydd dan sylw fan yma?


Es i lawr y llwybr gwrth doriaidd am mai nhw oedd wedi codi'r ddadl yn y lle cynta. Ac yn bersonol wy'n ei gweld hi'n anodd gwrando arnyn nhw'n dadle hyn o styried eu bod nhw wedi llywodraethu Cymru a'r Alban o dan yr hen drefn heb fod ganddyn nhw fwyafrif yn y gwledydd hynny.
Ac yn enghraifft y ddeddf iaith fe wnaeth aelodau o Loegr basio'r ddeddf er nad oedd hi'n effeithio ar eu hetholwyr nhw o gwbl.
Wy'n derbyn dy bwynt ein bod ni'n son am sefyllfa wahanol nawr gyda'r ffioedd dysgu. Ond yn bersonol wy' dal yn gweld y gymhariaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Clarice
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 279
Ymunwyd: Iau 02 Hyd 2003 10:09 am
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan eusebio » Mer 28 Ion 2004 5:40 pm

Sori Clarice, ond mae'n rhaid i mi fynd efo Boris ar hyn.

Mae AS Llafur yr Alban yn gorfodi'r ffioedd ar fyfyrwyr Lloegr a Chymru er na fydd yn rhaid i'w etholwyr hwy ddioddef ffioedd ac yn waeth na hynny - polisi Llafur yn Yr Alban yw i beidio cael ffioedd :!:
Rhithffurf defnyddiwr
eusebio
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 7913
Ymunwyd: Gwe 11 Gor 2003 11:56 am
Lleoliad: Ynys Cybi

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 12 gwestai

cron