Pwy sydd yn mynd i dalu te. Ma raid i rwyn.
Dwi wedi clirio £2k overdraft mewn 4/5 mis a dwi ddim yn ennill cyflog bras iawn.
Cymedrolwr: Mr Gasyth
RET79 a ddywedodd:Lleihau y nifer sy'n mynd i brifysgol sydd angen. Mae gormod o bobl hefo gradd dyddie yma. Does dim galw am fwy o bobl hefo gradd yn y farchnad swyddi. Felly pam fod Blair am i 50%(!) o bobl y wlad fynd i brifysgol? Dim ond y graddau gorau sydd o unrhyw werth beth bynnag, mae'r cyflogwyr gorau yn taflu unrhyw CV hefo gradd llai na 2:1 i'r bin. Felly dylai llawer mwy o bobl fod yn realistic a deall nad oes dim siom nac embaras i beidio mynd i brifysgol a fod y pobl clefer dyddie yma yn mynd i wneud rhywbeth mae eu sgiliau'n siwitio'n well. Nid yw pawb yn academic, a diolch am hynny, felly pam gwthio pobl lawr trywydd fel hyn.
Di-Angen a ddywedodd:Oes unrhywun yn gweld unrhyw fai ar yr MPs o'r Alban wnaeth bleidleisio ar hwn?
Boris a ddywedodd:eusebio a ddywedodd:Aeth Sweaty Betty efo Tony yn y diwedd.
Dylid cofio hefyd fod Betty Williams wedi mwynhau derbyn gradd yn y Normal mor ddiweddar a chanol y nawdegau.
eusebio a ddywedodd:Boris a ddywedodd:eusebio a ddywedodd:Aeth Sweaty Betty efo Tony yn y diwedd.
Dylid cofio hefyd fod Betty Williams wedi mwynhau derbyn gradd yn y Normal mor ddiweddar a chanol y nawdegau.
Ac wrth gwrs, ni fydd y stiwdants meltith yn ei hetholaeth tro nesaf ...
Dr Gwion Larsen a ddywedodd:Credaf y dylid scrapio y ffioedd ond y cwestiwn wedyn yw pwy sy'n talu? Dyla nhw peidio gwario gymaint o arian a'r bethau fel cadw pobl fel Harold Shipman, Maira Hindley, Ian Huntley a.y.y.b yn ogystal a hyn dylid codi trethau y pobl sy'n ennill mwy na £50,000 y flwyddyn.
Boris a ddywedodd:Di-Angen a ddywedodd:Oes unrhywun yn gweld unrhyw fai ar yr MPs o'r Alban wnaeth bleidleisio ar hwn?
Mae hwn yn gyfraniad allwewddol ac eto wedi ei anwybyddu.
Fe basiodd y ddeddf neithiwr oherwydd pleidleisiau AS Llafur o'r Alban - gwlad fydd DDIM yn cael ei heffeithio gan y ddeddfwriaeth. Fe wnaeth Peter Duncan (unig AS Ceidwadol yr Alban atal ei bleidlais).
Beth mae hyn yn ddweud am y setliad cyfgansoddiadol a democratiaeth yng Nghymru a Lloegr?
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai