Tudalen 5 o 7

Re: Toriaid

PostioPostiwyd: Mer 28 Ion 2004 6:22 pm
gan Boris
Clarice a ddywedodd:Es i lawr y llwybr gwrth doriaidd am mai nhw oedd wedi codi'r ddadl yn y lle cynta. Ac yn bersonol wy'n ei gweld hi'n anodd gwrando arnyn nhw'n dadle hyn o styried eu bod nhw wedi llywodraethu Cymru a'r Alban o dan yr hen drefn heb fod ganddyn nhw fwyafrif yn y gwledydd hynny.


Ond un senedd oedd i Brydain gyfan pryd hynny. Nawr os oeddet ti'n derbyn y system neu ddim sy'n fater arall. Yn bersonnol fe ymgyrchais yn galed dros y Cynulliad er mwyn sicrhau fod pobl Cymru a phobl yr Alban yn cael dedfu ar faterion penodol oedd yn effeithio ar Gymru ar Alban.

Cyn sefydlu senedd yr Alban doedd DIM o'i le ar aelodau Prydain yn pledleisio ar faterion Prydeinig. Rwan beth sydd gyda ni yw senedd ddeddfwriaethol i'r Alban, polisi o wrthod ffioedd gan fwyafrif Llafur y sendd honno ac eto AS Llafur o'r Alban yn cario'r dydd yn San Steffan er nad oes gan aelodau Llafur Lloegr a Chymru unrhyw allu i newid y drefn yn yr ardal. Does dim cymhariaeth efo'r gorffennol.

Mae dy bwynt moesol am y ddeddf iaith yn gywir, ond yn gyfansoddiadol dyna fydd yn parhau i ddigwydd gan nad oes gan y Cynulliad hawliau deddfu. Senedd Prydain fydd yn deddfu dros Gymru gan nad oes gan Gymru senedd ddedfwriaethol. Dyna pam nad ydwyf wedi ymosod ar aelodau seneddol llafur Cymru yn cario'r dydd - mae'r polisi yn ei heffeithio nhw.

Mae'n ymddangos i mi dy fod yn ysgoi y gwirionedd yn syml oherwydd bod toriaid yn gwneud y pwynt.

Re: Toriaid

PostioPostiwyd: Mer 28 Ion 2004 6:38 pm
gan Clarice
Boris a ddywedodd:
Mae'n ymddangos i mi dy fod yn ysgoi y gwirionedd yn syml oherwydd bod toriaid yn gwneud y pwynt.


I'r gwrthwyneb, rwy'n gweld bod angen cael y drafodaeth ond wy'n dal i feddwl bod na eironi yn y ffaith mai'r toriaid sy wedi codi'r ddadl!

Re: Toriaid

PostioPostiwyd: Mer 28 Ion 2004 8:50 pm
gan eusebio
Clarice a ddywedodd:
Boris a ddywedodd:
Mae'n ymddangos i mi dy fod yn ysgoi y gwirionedd yn syml oherwydd bod toriaid yn gwneud y pwynt.


I'r gwrthwyneb, rwy'n gweld bod angen cael y drafodaeth ond wy'n dal i feddwl bod na eironi yn y ffaith mai'r toriaid sy wedi codi'r ddadl!


I fod yn onest dwi'n credu mai AS Plaid Cenedlaethol yr Alban sydd wedi codi'r pwynt yn wreiddiol - neu dyna pw nes i glywed ar Radio 4 wythnos diwethaf beth bynnag.

PostioPostiwyd: Mer 28 Ion 2004 10:26 pm
gan RET79
Betty, mae hynna'n warthus. Gobeithio golli di dy sedd.

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2004 10:30 am
gan Cardi Bach
Rhaid gweud mod i'n cydymdeimlo a Clarice yma.
Odd y Ceidwadwyr mewn grym ac yn pasio deddfau ar Gymru heb yr un cynrychiolydd Ceidwadol yma. O'n nhw'm yn cwyno bryd hynny. Ro'n nhw'n pasio deddfau ar yr Alban heb gynrychiolwyr yno - eto dim cwyn.

Dyw hon ddim yn ddadl newydd - mae'n barhad o'r West Lothian Question - ac mae'r Ceidwadyr yn ceisio rhoi fwy o gredibiliti arno ar y pwnc arbennig yma. Os yw'r Ceidwadwyr wirioneddol yn poeni am y sefyllfa onid y peth iawn fyddai iddyn nhw basio polisi o ddatganoli llwyr i'r Alban a Chymru - byddai hyn yn cael gwared o'r drafferth wedyn. 'Dyn nhw ddim yn gwneud hynny yn syml am eu bod nhw am gadw 'Prydain' (sef yw fod Lloegr yn cael gwneud penderfyniadau dros yr Alban a Chymru) ond ddim am roi'r un hawliau felly i Gymru a'r Alban. Rhagrith.
Bydden i feddwl fod dy gymhelliad di Boris, fel Ceidwadwr Cymreig sydd am weld fwy o ddatganoli, felly yn wahanol i gymhellion dy Blaid yn ganolog

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2004 10:46 am
gan Boris
Cardi Bach a ddywedodd:Rhaid gweud mod i'n cydymdeimlo a Clarice yma.
Odd y Ceidwadwyr mewn grym ac yn pasio deddfau ar Gymru heb yr un cynrychiolydd Ceidwadol yma. O'n nhw'm yn cwyno bryd hynny. Ro'n nhw'n pasio deddfau ar yr Alban heb gynrychiolwyr yno - eto dim cwyn.


Cardi, ffeithiau boi, ffeithiau.

Pryd yn union y bu'r Ceidwadwyr yn pasio deddfau heb gynrychiolaeth yn yr Alban a Chymru????????????????????? :?:

Yn ail, oedd yna seneddau deddfwriaethol eraill bryd hynny?

Os mai dy ddadl yw fod cael ffioedd dysgu yn ddial ar Doriaid Lloegr am reoli gwladwriaeth unedig yna mae hyn yn dweud mwy am dy flaenoriaethau nac am fy safbwynt i sy'n safbwynt cyson. Cyn datganoli, un senedd, deddfa cyffredin. Ar ôl datganoli, dwy senedd ddeddfwriaethol - y sefyllfa yn newid.

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2004 11:24 am
gan Dielw
Hanneru (o leia) y nifer sy'n mynd i coleg ydi'r peth cynta i neud. Gyda'r niferoedd presennol mae'n amlwg bod rhaid talu ffioedd llawer uwch.

Dydi addysg bellach ddim ar gyfer pawb, byddai lot o stiwdants heddiw wedi bod yn gweithio ar ôl TGAU 30 mlynedd yn ôl.

Dydi o ddim yn deg gorfodi dyledion o £25,000 ar raddedigion.

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2004 3:47 pm
gan Cwlcymro
Wel wel. Finna di gweld llun rhen Beti ar ffrynt yr Independent ddoe fel rebal, oni bron yn prawd oni! A rwan mai di neud abawt tyrn i Toni bach. Typical!

Be sy'n fy ngwylltio i fwya am hyn i gyd ydi'r FFORDD nath Bliar guro'r ddadl. Mi natho ei droi o'n fater o 'us against them' drwy ddeud wrth AS am bledleisio efo y llywodraeth ac nid y Toris. Ddylsa neb wedi pledleisio fel mai 'mets' nhw yn gwneud. Pwynt pleidlais ydi pledleisio dros Y PWNC a dim toris v llafur. Wrth gwrs dwi'n sylwi fod na lawer o rebals mond yn pledleisio er mwyn brifo Bliar, ond Tony odd yn pwsho'r 'peidiwch a chwalu ein parti ni', 'peidiwch a helpu'r toris' etc.

PostioPostiwyd: Iau 29 Ion 2004 3:48 pm
gan Dylan
Dyna pam mae gwleidyddiaeth yn drewi fel cachu

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ion 2004 9:13 am
gan Chris Castle
Y sawl sy'n cael gradd yn cael swyddi well gyda chyflogau gwych. Pam dylen nhw cael eu cyfleoedd am ddim? Dyna'r bolisi agosach at Dreth Graddedigion sy'n bosib ar hyn o bryd.

Y sawl sydd ddim yn ennill cyflog gwych, wedi graddio, fydd yn talu dim byd.

Yr unig "problem dyled" i fyfyrwyr byddai'r rhaid iddyn nhw fyw mewn ardal tlawd am ychydig yn bellach wedi graddio, yn hytrach na symud yn gyflym i'r sybwrbs. PW-YR DABS!

S.W. a ddywedodd:Betty Williams =
y bitch bach di-egwyddor
.

Plantos wedi eu sboilio, di-egwyddor, barus a hunanol ydy'r myfyrwyr?

Mae cefnogaeth helaeth i'r polisi yma yn y Wlad.

[/i]