Tudalen 6 o 7

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ion 2004 10:20 am
gan Huw T
Wrth gwrs, fyddai'r broblem hyn ddim wedi codi oni bai am y ffaith fod angen mwy o arian ar brifysgolion. Fe weles i restr o 50 prifysgol orau'r byd y dydd o'r blaen, ac roedd 8 o'r 10 uchaf yn dod o'r UDA. Yn amlwg dydy ni ddim am gael unrhwyfath o system tebyg yw un nhw, ond mae'n rhaid ystyried fod angen cadw'n Prifysgolion yn gystadleuol.

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ion 2004 1:25 pm
gan Dielw
Chris Castle a ddywedodd:Y sawl sydd ddim yn ennill cyflog gwych, wedi graddio, fydd yn talu dim byd.


Dydi hyn ddim yn wir. Dydi 15k/flwyddyn ddim yn gyflog gwych, a basa rhaid i berson ar 15k dalu'r ddyled yn ôl.

Llai o bobl i coleg ydi'r ateb, a talu'n llawn dros y rhai o safon sydd yn mynd.

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ion 2004 1:55 pm
gan Chris Castle
Dielw a ddywedodd:Dydi hyn ddim yn wir. Dydi 15k/flwyddyn ddim yn gyflog gwych, a basa rhaid i berson ar 15k dalu'r ddyled yn ôl.

Llai o bobl i coleg ydi'r ateb, a talu'n llawn dros y rhai o safon sydd yn mynd.


Mae YN Wych o le dwi'n eistedd a theipio hon.

Pam dylwn i (£14,500 yb pro rata)'n talu am dy radd di, iti ddweud pa mor dlawd yr wyt a dy fod di'n moyn cadw swyddi elît i'dy hun am dy fod di'n mor arbennig o alluog? :crechwen:

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ion 2004 2:26 pm
gan Dielw
Dydi 15k ddim yn wych i gymharu a chyflog cyfartalog Cymru. Fy mwynt ydi bydd y rhan fwyaf o raddedigion ar gyflogau reit cyffredin a dal yn gorfod talu trwy'i trwynau am eu gradd.

Mae graddau o safon yn talu drostyn nhw'i hunain felly does dim rhaid i ti boeni. :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ion 2004 4:45 pm
gan RET79
fuaswn i'n dweud fod 'median' cyflogau, yn hytrach na cyfartaledd, yn gwneud fwy o synnwyr gyda llaw.

Dielw, dwi'n cytuno, llai o bobl i'r coleg sydd angen.

Beth bynnag fuaswn i ddim yn dweud fod pobl hefo gradd yn gwneud yn well nac eraill dyddie yma. Mae llawer o grads ar gyflog gwael a buasai nhw wedi bod yn well off yn dysgu sgiliau llai academaidd.

PostioPostiwyd: Maw 03 Chw 2004 9:52 am
gan Chris Castle
Yn y bôn dwi'n meddwl mae addysg yn beth pwysig dros ben. Dylai pawb sy'n gallu gwneud gradd yn gwneud un. Mae'n dysgu sgiliau "pwyso a mesur" anghenrheidiol. A mae nifer o raddau'n ymarferol iawn - ychidig sy'n "jyst academaidd" y dyddiau 'ma.
Dwi'n credu hefyd "dylai addysg bod ar gael i bawb heb anfantais i neb. Ond dyw pobl y Wlad yma ddim yn fodlon talu amdani i bobl eraill.
Felly mae Llywodraeth yn iawn dros hynny. Yn erbyn fy egwyddorion ideolegol/moesol/gwleidyddol yw dweud hynny ond dyna'r unig modd Pragmatig i fynd ymlaen.

Ond i'r Marcsyddion - yntydi Bler yn creu Proletariate yma? sef Haen gweithiwyr dysgiedig fydd yn gallu gweld anhegwch eu sefyllfa? Yntydi hynny'n fwy debyg i greu'ch Chwyldro? Ai Ddylech chi ddim yn ei cefnogi? - discuss :winc:

PostioPostiwyd: Maw 03 Chw 2004 3:26 pm
gan Rhys Llwyd
RET79 a ddywedodd:
Dielw, dwi'n cytuno, llai o bobl i'r coleg sydd angen.



Cytunaf hefyd i raddau.

e.e dwi ddim am swnion elitaidd OND mae rhai cyrsiau prifysgol yn joc llwyr a does dim angen mynd i brifysgol o gwbl i ddilyn y ffasiwn bethau.

yr enghraifft orau ydy 'Media' - pan es i ar brofiad gwaith at avanti dysgais un peth pwysig os oeddechi isho mynd mewn i'r cyfryngau (rhwbeth nath fy mhrofiad gwaith yna brofi NAD oeddwn eisiau gwneud a fy mywyd) oedd i chi BEIDIO astudio cyfryngau yn coleg.

PostioPostiwyd: Maw 03 Chw 2004 5:05 pm
gan Dylan
heh, bydd Ifan wrth ei fod o glywed hynny

PostioPostiwyd: Maw 03 Chw 2004 5:38 pm
gan sbesh
ie,wrth gwrs bod angen gweithredu yn erbyn y llywodraeth ma. O'n i'n sefyll reit wrth ochr Nick Brown pan wnaeth e'r datganiad bod e'n cefnogi'r Llywodraeth ar ddydd mawrth dwetha, a wedodd e 'I must go to write my speech. It's a very taxing time for me'!!!!!! whatever. odd protestio mawr yn Llundain, ond cafodd hynny mo sylw oherwydd y sosialists eithafol odd o, ac mae NUS yn rhy barchus i brotestio yn erbyn dim nawr( Mandy Telford tawel ar Question Time, aelod o Lafur..oes angen gweud mwy.....)

mae'r holl sefyllfa yn hurt, a rhaid ystyried hyn- ni'n dadlau am arian fan hyn, dadlau am diffyg grantiau i'r tlawd,ond be sy angen yw i newid cymdetihas yn gyfan gwbl. Dyle na ddim fod sector mawr o bobl 'tlawd' ym Mhrydain i ddadlau yn eu cylch ta beth. Y baich sydd ar y llywodraeth nawr, gan mai nhw sydd yn achosi problemau'r tlawd- diffyg cyflogaeth, diffyg cyfleuon gwaith, diffyg cwmniau o Gymru, diffyg trefn yn gyffredinol, diffyg egwyddorion sylfaenol sosialaidd cymunedol.
waeth i ni beidio cefnogi'r toris chwaith. Ma nhw yn hollol o blaid system marchnad i addysg, ac roedd gwrthwynebu y mesur yn ymosodiad ar Llafur a Blair yn bersonol.
Mae national shut down ar Chwefror 25- mwy o brotestio weda i. Dyw Lobio jyst ddim yn gweithio.

PostioPostiwyd: Maw 03 Chw 2004 6:36 pm
gan RET79
Welais i raglen frawychus ar ITV2 neithiwr: house of horrors(?) lle roedd nhw'n ffilmio'n gudd tradesmen yn twyllo'u cwsmeriaid a codi crocbris am waith nad oedd angen ei wneud o gwbl.

Os byddaf yn riant ryw ddydd dwi'n meddwl buaswn yn annog fy mhlantos i beidio cymryd addysg mor o ddifri, gan dwi'n meddw mai kop out ydi mynd i'r coleg i lot o bobl beth bynnag, ac i nhw ystyried dysgu trade ac adeiladu enw da gonest i nhw eu hunain. Mae mor anodd ffeindio pobl gonest i wneud gwaith caib a rhaw ar eich ty etc. dyddie yma, bydd o'n fywoliaeth dda i bobl gonest gweithgar gan fod gymaint o gowbois o gwmpas y lle.

Mae'r link rhwng pasio arholiadau yn dda, a job dda, dim ond yn bodoli i ychydig iawn o bobl dyddie yma. Supply demand : digonedd o bobl hefo graddau da, felly gall cyflogwyr fforddio talu llai gan fod digon ar gael. Mae cannoedd, os nad miloedd, o raddedigion yn trio am swyddi bob blwyddyn yn y cwmni dwi'n gweithio ynddo. God knows pam? gan dwi methu disgwyl i gael neidio oddi yno i rywbeth mwy diddorol, ond felna mae hi. Mae lot o grads a dim lot o jobs addas i grads, felly sgen i ddim syniad pam fod Blair eisiau mwy o grads ar y farchnad.