Chris Castle a ddywedodd:Pam nad yw CREFFT yn maes addysg addas i radd?
O achos y fath rhagfarn ti'n ymddangos swn i dweud.
Mae'n bosib astudio i fod yn saer coed yn llawn amser tra'n gweithio (hynny yw, y sefyllfa perffaith - addysg a chyflog). Be fase pwrpas gradd? Dim pwrpas o gwbl - ond am ffwcio'r saer coed drosodd mewn dyled.
Nid yw'n bosib astudio mathemateg, cemeg, cymraeg neu ffrangeg fel rhan o swydd oherwydd ei bod nhw'n bynciau academaidd. Mae'n bwysig bod cyfle i'r gorau yn y meysydd hynny wneud gradd - a mae'r ffioedd hyn yn atal hynny.
Nid yw'n bosib dysgu meddygaeth na deintyddiaeth 'on the job', mae angen blynyddoedd o hyfforddiant caled - a'r trethdalwyr dylai fod yn talu am hyn. Be dylai run trethdalwr orfod talu am ydi'r sdiwdants cyrsiau dim byd o'r prifysgolion gachu, sydd ddim yn helpu neb, yn enwedig nhw'i hunain.
Cyn sgrechian "rhagfarn" at bob dim a phopeth, falle sa fo'n syniad defnyddio ychydig bach o synnwyr cyffredin.