Tudalen 7 o 7

PostioPostiwyd: Iau 05 Chw 2004 3:47 pm
gan Dielw
Chris Castle a ddywedodd:Dylai pawb sy'n gallu gwneud gradd yn gwneud un.


Dyna'r broblem - mae pawb yn gallu gwneud gradd o ryw fath achos bod y safon mor isel.

Dwi'n cytuno fo RET, os swn i fo plant swn i'n eu hannog i neud aprentisiaeth a dysgu crefft yn lle claddu'i hunain mewn dyled - os nad bod nhw wir yn academaidd hynny yw....

PostioPostiwyd: Sul 08 Chw 2004 11:12 am
gan Chris Castle
Dielw a ddywedodd:[Dyna'r broblem - mae pawb yn gallu gwneud gradd o ryw fath achos bod y safon mor isel.

Dwi'n cytuno fo RET, os swn i fo plant swn i'n eu hannog i neud aprentisiaeth a dysgu crefft yn lle claddu'i hunain mewn dyled - os nad bod nhw wir yn academaidd hynny yw....


Pam nad yw CREFFT yn maes addysg addas i radd?
O achos y fath rhagfarn ti'n ymddangos swn i dweud.

Mae saer coed gydag ei bapurau i gyd yn gwbod cymaint am ei faes ag yw Gwyddonydd am ei faes ef. Ond "Leihau safonau" bydd cynnig gradd mewn pensaeriaeth coed.

PostioPostiwyd: Llun 09 Chw 2004 11:44 am
gan Dielw
Chris Castle a ddywedodd:Pam nad yw CREFFT yn maes addysg addas i radd?
O achos y fath rhagfarn ti'n ymddangos swn i dweud.


Mae'n bosib astudio i fod yn saer coed yn llawn amser tra'n gweithio (hynny yw, y sefyllfa perffaith - addysg a chyflog). Be fase pwrpas gradd? Dim pwrpas o gwbl - ond am ffwcio'r saer coed drosodd mewn dyled.

Nid yw'n bosib astudio mathemateg, cemeg, cymraeg neu ffrangeg fel rhan o swydd oherwydd ei bod nhw'n bynciau academaidd. Mae'n bwysig bod cyfle i'r gorau yn y meysydd hynny wneud gradd - a mae'r ffioedd hyn yn atal hynny.

Nid yw'n bosib dysgu meddygaeth na deintyddiaeth 'on the job', mae angen blynyddoedd o hyfforddiant caled - a'r trethdalwyr dylai fod yn talu am hyn. Be dylai run trethdalwr orfod talu am ydi'r sdiwdants cyrsiau dim byd o'r prifysgolion gachu, sydd ddim yn helpu neb, yn enwedig nhw'i hunain.

Cyn sgrechian "rhagfarn" at bob dim a phopeth, falle sa fo'n syniad defnyddio ychydig bach o synnwyr cyffredin. 8)

PostioPostiwyd: Llun 09 Chw 2004 12:16 pm
gan S.W.
S.W. :
Betty Williams =
y bitch bach di-egwyddor
.

Plantos wedi eu sboilio, di-egwyddor, barus a hunanol ydy'r myfyrwyr?

Mae cefnogaeth helaeth i'r polisi yma yn y Wlad.


[/quote]

Sori Chris ond dydw i ddim yn fyfyriwr bellach felly bydd y ffioedd ychwanegol hyn ddim effeithio arnai o gwbl. Ond, mi rydw in gallu gweld bod y ffioedd dysgu hyn yn gam mawr ar fyfyrwyr ac yn rhywbeth a ddylid ei wrthwynebu ar bob cyfrif.

Os ydy'r ffioedd dysgu hyn yn syniad mor dda, dylai pob aelod seneddol a bleidleisiodd o'u plaid dalu yn nol am eu addysg nhw. Byddai hynny'n ei wneud ychydig yn degach!

PostioPostiwyd: Llun 09 Chw 2004 12:17 pm
gan Chris Castle
Dielw a ddywedodd: Be fase pwrpas gradd i Saer Coed?


Cydnabod y wybodaeth sydd ganddo

Dielw a ddywedodd:Nid yw'n bosib astudio mathemateg, cemeg, cymraeg neu ffrangeg fel rhan o swydd oherwydd ei bod nhw'n bynciau academaidd.

Sgiliau defnyddiol ydyn nhw megis Saerniaeth Coed

Dielw a ddywedodd:Cyn sgrechian "rhagfarn" at bob dim a phopeth, falle sa fo'n syniad defnyddio ychydig bach o synnwyr cyffredin.


Mae yna dwy fath o Elît -
Yr un sy'n cydnabod sgiliau gwell/gorau ac yn rhoi gwobrau amdanynt
A'r naill sy'n cadw Statws i'w hunain trwy gwrthod cyfleoedd a chydnabyddiaieth i bawb sy'n "israddol"

Yr ail fath o elît ydy'r un ti'n amddiffyn. Dyna rhagfarnllyd yn fy marn i.

PostioPostiwyd: Llun 09 Chw 2004 12:20 pm
gan Chris Castle
S.W. a ddywedodd:Os ydy'r ffioedd dysgu hyn yn syniad mor dda, dylai pob aelod seneddol a bleidleisiodd o'u plaid dalu yn nol am eu addysg nhw. Byddai hynny'n ei wneud ychydig yn degach!


Dwedais yr un peth ar ddechrau y sgwrs yma. Fatha "treth raddedigion" ydy'r peth degach ond does modd ymarferol i'w chael. Dyna pam dwi o blaid y gynnig hon - yr opsiwn ymarferol agosaf at dreth brogresif yw hi.

PostioPostiwyd: Llun 09 Chw 2004 1:14 pm
gan S.W.
Dydy'r mesur o flaen y senedd rwan ddim byd yn debyg i treth graddedigion! Byddai treth graddedigion yn golygu byddai PAWB sydd wedi graddio o Prifysgolion Prydain yn talu % o'u cyflog yn nol i'r llywodraeth.

Mae'r system hwn yn golygu bod y pwysau o ariannu'r sector addysg uwch yn disgyn ar ysgwyddau nifer llai o bobl - felly'n gorfod talu llawer iawn mwy wrth reswm.

PostioPostiwyd: Llun 09 Chw 2004 2:03 pm
gan Dielw
Chris Castle a ddywedodd:
Dielw a ddywedodd: Be fase pwrpas gradd i Saer Coed?

Cydnabod y wybodaeth sydd ganddo


Bolycs ydi hynny. Be sa well gan saer? £30k o ddyledion a "Cydnabyddiaeth" neu swydd a gwir gydnabyddiaeth ei gyflogwyr a'i gwsmeriad?

Dwi'n ailadrodd - sgiliau defnyddiol yw mathemateg, cymraeg, meddygaeth ayb na ellir eu dysgu i'r lefel uchel honno fel rhan o swydd. Ni ddylai'r goreuon yn y meysydd hynny orfod talu ffioedd.

Ffordd o gael gwaith er mwyn ennill pres ydi neud gradd. Dydi o ddim byd i neud fo cydnabyddiaeth, yr elît rwyt ti'n sôn amdano, nag unrhyw gynllwyn dieflig yn erbyn y dosbarth gweithiol.