Cwlcymro a ddywedodd:Mi oedd rhannau o waith Gilligan yn hollol anghywir
wy ddim yn deall hyn. Pam fod pawb yn cymryd hynny fel efengyl? Beth oedd mor anghywir?
Mi ddywedodd e fod Alistair Campell wedi 'sex-up' y dossier.
Wedodd e fod y llywodraeth yn gwybod fod yr honiad am 45munud yn anghywir.
Beth sy'n anwir?
Roedd y llywodraeth yn gwybod fod yr honiad am 45 munud yn anghywir am fod aelod o'r llywodraeth - Campbell - wedi addasu'r geiriad, a fodScarlett wedi cydsynio hyn.
Ma Hutton ei hunan wedi cydnbod y gellir dehongli 'sex-up' mewn ffyrdd gwahanol, ac mae e wedi cymryd y dehngliad sy'n ffafriol i'r Llywodraeth. Iawn falle fod beirniadaeth am ddefnyddio 'slang' yn lle'r 'Queen's English', ond a yw hyn yn ddigon i gael gwared o Davies a Dyke? As iff!
Ac, fel dywed Cwl, o dderbyn fod ymddiswydiadau yn y BBC o ganlyniad i gamgymeriadau - os mai hynny yw'r cynsail a'r drefn, yna pwy o'r Llywodraeth neu'r MI5/6 sydd am ymddiswyddo, achos mi nethon nhw 'the mother of all' camgymeriade!
(Cytuno gyda Eus fyd, Hislop ddim yn ffwl).