Mae amser yn cyrraedd pan fo rhaid dweud "digon yw digon"
Mae'r wancars Llafur newydd efo'u siwtiau smart a'u sbin wedi cymryd eu cefnogwyr yn ganiataol ac wedi cachu ar rhai o hoelion wyth yr adain chwith unwaith yn ormod.
Maent wedi gorfodi nifer o bolisiau Toriaidd ar y wlad a hyn gyda mwyafrif yn San Steffan fyddai'n eu caniatau i wneud unrhywbeth oeddynt eisiau wneud, felly nid pwysau gwleidyddol sydd wedi gorfodi'r fath ymddygiad
Yn nyddiau duon 18 mlynedd o lywodraeth y Toris, o leiaf roedd gan lefties fel fi obaith fod modd newid y llywodraeth gan fod Llafur (go iawn) yn wrthblaid, ond rwan yr unig ddewis arall yw parti Michael Howard â'i cronies.