Tudalen 1 o 3

pleidleisio ar lein..

PostioPostiwyd: Maw 03 Chw 2004 5:17 pm
gan sbesh
jyst yn awyddus i weld beth yw barn pobl ar bleidleisio ar lein yn gyffredinol. sai'n siwr os mai fan hyn yw'r lle, ond na ny...
ydy e'n mwy ddemocrataidd, yn cyrraedd y bobl, yn fwy accessible??
barn.............

PostioPostiwyd: Maw 03 Chw 2004 6:53 pm
gan Rhys
Amau os wneith o unrhyw wahaniaeth o gwbwl i'r nifer sy'n pleidleisio. Y dewis o fobl i bleidleisio drostynt sy'n turn off, nid y modd o bleidleisio. Dwi'n pleidleisio mwy allan o ddyletswydd na dim arall.
Er credaf byddai gwefan i bob etholaeth yn ddefnyddiol, ble mae modd i bob ymgeisydd lenwi gofod eu hunain a gobeithio rhoi ryw fath o safbwynt ar bethau ac o bosib ateb cwestiynnau ar lein fel bod modd cymharu'r ymgeiswyr. Ychydig iawn o'r cyhoedd sydd ar amser/awch i fynd i unrhyw gyfarfodydd cyhoeddus i wrando ar bob ymgeisydd

Re: pleidleisio ar lein..

PostioPostiwyd: Maw 03 Chw 2004 6:58 pm
gan RET79
sbesh a ddywedodd:jyst yn awyddus i weld beth yw barn pobl ar bleidleisio ar lein yn gyffredinol. sai'n siwr os mai fan hyn yw'r lle, ond na ny...
ydy e'n mwy ddemocrataidd, yn cyrraedd y bobl, yn fwy accessible??
barn.............


Buasai o lot haws gen i. Dwi wastad yn cwyno pan dwi angen mynd yn bersonol i'r banc, yr un peth hefo fotio. Trafferth braidd. Byddai'n neis sortio fo allan arlein.

PostioPostiwyd: Maw 03 Chw 2004 8:20 pm
gan Dr Gwion Larsen
mmm pleidleisio ar lein? na agor drws i 'hackers' os mae rhywyn yn medru hacio windows wel dwin shwr y gallant hacio gwefan bleidleisio yn ddigon hawdd a chwarae a'r ffigyrau!

PostioPostiwyd: Mer 04 Chw 2004 2:38 pm
gan garynysmon
Ddim yn licio'r syniad, ddim digon diogel yn fy marn i. Os mae pobl yn rhy ffycin ddiog i godi oddi ar eu tinau, unwaith bob 2 flynedd i roi croes ar bapur, yna mae problem.

PostioPostiwyd: Mer 04 Chw 2004 2:40 pm
gan Chwadan
Dwi'n licio'r syniad - dwi'm adre adeg pob etholiad ar hyn o bryd a sa'n llai o hasl na phleidleisio drwy'r post.

PostioPostiwyd: Mer 04 Chw 2004 2:41 pm
gan Sleepflower
garynysmon a ddywedodd:Ddim yn licio'r syniad, ddim digon diogel yn fy marn i. Os mae pobl yn rhy ffycin ddiog i godi oddi ar eu tinau, unwaith bob 2 flynedd i roi croes ar bapur, yna mae problem.


Cytuno. Hefyd, fi'n cael hwyl yn pleidleisio o dan y system traddodiadol. Mynd i neuadd y pentre, croesi'r bocs ayb

PostioPostiwyd: Mer 04 Chw 2004 2:45 pm
gan Chwadan
Dio'm llawer o hwyl os oes rhaid ti dreulio 8 awr ar dren ac awr ar fys jyst i gal mynd i neuadd bentre ac yn ol :P

PostioPostiwyd: Mer 04 Chw 2004 3:25 pm
gan garynysmon
dyna lle mae pleidleisio post yn dod i fewn yli. :winc:

PostioPostiwyd: Mer 04 Chw 2004 3:31 pm
gan Wilfred
Heb fod yna braf pendant fod pleidleisio ar lein yn mynd i fod yn gwbl saff dwi'n teimlo ei fod yn beth peryglus dros ben. Ma na ddigon o wahanol ffurdd i bleidleisio yn barod. Tydio ddim yn beth anodd i neud.