DEISEB 'British government hands off Bobby Sands Street'

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

DEISEB 'British government hands off Bobby Sands Street'

Postiogan Prysor » Maw 03 Chw 2004 10:40 pm

Dwi ddim yn gwybod sut i gael y linc i fyny ond copiwch a pastiwch y cyfeiriad isod


http://www.PetitionOnline.com/BSands81/
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan Prysor » Maw 03 Chw 2004 10:41 pm

o...OK, so dwi YN gwybod sut i roi linc i fyny...!
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan pogon_szczec » Maw 03 Chw 2004 11:32 pm

Mae'n od bod Iran yn enwi eu strydoedd ar ol llofruddwyr :ofn: , ond os na beth maen nhw'n ishe, gallem eich helpu trwy gynnig enwau gwell.

Yn bersonol dwi'n meddwl bod y syniad o newid yr enw (Stryd Bobby Sands) yn dda am fod llofruddwyr Gwyddleg wedi cael digon o sylw yn barod.

Dwi o blaid dathlu bywyd llofruddwyr mor ddiweddar ac llwyddiannus fel Harold Shipman a Fred West.

Rhaid cofio Myra Hindley hefyd am nad oes stryd wedi'i henwi ar ei hol hi ac y mae lot fwy enwog nag unrhyw aelod yr I.R.A..
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Madrwyddygryf » Maw 03 Chw 2004 11:56 pm

Cytuno Pogon.

Os bysai rhwyun wedi cael syniad o enwi stryd Osama Bin Laden, bysai dipyn o storm wedi digwydd.

Ond ar y llaw, oherwydd y rhamanteg sydd wedi'w gysylltu gyda IRA. Mae hynny yn gwneud yn iawn i rai bobl.

Mae lladdwyr yn lladdwyr, beth bynnag yw'r gwleidyddiaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Madrwyddygryf
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2230
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 6:32 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Dan Dean » Mer 04 Chw 2004 3:03 am

Sori am ddeud hyn bois, ond nid oedd Bobby Sands yn "llofruddiwr".

Mae siwr rydych yn ei gyhuddo i fod yn "llofruddiwr" oherwydd ei fod yn yr IRA.
Cafodd ei arestio yn 1972 am "arms charge". Oedd hyn chydig ar ol Bloody Sunday. Pwy alla feio unrhyw wyddel o Ogledd Iwerddon aeth ymuno a'r IRA ar ol Bloody Sunday? Ar ol i 13 o bobl diniwad eu lladd ganddo "ni"?

In October 1972 he was arrested. Four hand-guns were found in a house he was staying in and he was charged with possession. He spent the next three years in the cages of Long Kesh, where he had political prisoner status.


Released in 1976, Bobby returned to his family in Twinbrook. He reported back to his local unit and straight back into the continuing struggle: "Quite a lot of things had changed, some parts of the ghettoes had completely disappeared and others were in the process of being removed. The war was still forging ahead although tactics and strategy had changed. The British government was now seeking to 'Ulsterise' the war, which included the attempted criminalisation of the IRA and attempted normalisation of the war situation."
Bobby set himself to work tackling the social issues which affected the Twinbrook area. Here he became a community activist. According to Bernadette: "When he got out of jail that first time our estate had no Green Cross, no Sinn Féin, nor anything like that. He was involved in the Tenants' Association…. He got the black taxis to run to Twinbrook because the bus service at that time was inadequate. It got to the stage where people were coming to the door looking for Bobby to put up ramps on the roads in case cars were going too fast and would knock the children down."
Within six months Bobby was arrested again. There had been a bomb attack on the Balmoral Furniture Company at Dunmurry, followed by a gun-battle in which two men were wounded. Bobby was in a car near the scene with three other young men. The RUC captured them and found a revolver in the car.
The six men were taken to Castlereagh and were subjected to brutal interrogations for six days. Bobby refused to answer any questions during his interrogation, except his name, age and address.


A dyna fo hanes o'r "llofruddiwr" Bobby Sands. Triwch eto bois.
Tegid easy, I may owe you 150 Euros, Bedwyr Hefin fun, and as the Welsh say, "mae bob dim yn Llifon esmwyth"

PWSI! PWSI! PWSI!
Fy ngofod
Rhithffurf defnyddiwr
Dan Dean
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1399
Ymunwyd: Llun 12 Ion 2004 2:13 pm
Lleoliad: Sarn Siro, Pane Kleen

Postiogan S.W. » Mer 04 Chw 2004 9:02 am

Er bod gennai barch mawr ar ymladdwyr Gwyddeleg yn Iwerddon ar hyn y maen wedi ei wneud, a bod yn rhaid iddynt eu cofio ellaim meddwl bod cael enw ymladdwr Gwyddeleg ar stryd yn Iran yn beth anghywir.

Oni fyddai'n well bod strydoedd yn Iran yn cael eu henwi ar ol ffigyrau 'arwrol' o Iran?Neu o yn gysylltiedig a'r ardal. Sut byddai rhai ohonoch chi yma yng Nghymru yn teimlo o weld 'Stryd Ayatollah' neu rhywbeth tebyg yma yng Nghymru yn hytrach nag stryd sydd a ystyr i ni'r Cymru - Stryd Glyndwr, neu hyd yn oed Stryd Dafydd Iwan :D. Wan byddai hynny'n dda!

Just meddwl dwi bod rhoi enwau sydd a naws Saesneg ar strydoedd gwlad arall yn beth anghywir a na ddylid cefnogi hynny heb eithriad.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Boris » Mer 04 Chw 2004 9:45 am

Dan Dean a ddywedodd:Sori am ddeud hyn bois, ond nid oedd Bobby Sands yn "llofruddiwr".


Fel y gwyddoch, dwi ddim yn ffrind i'r IRA. Serch hynny, dwi erioed wedi darllen unrhyw beth sy'n nodi fod Bobby Sands yn llofrudd. Oni bai fod yna wybodaeth nad ydwyf yn ymwybodol ohono mae'n rhaid i mi gytuno efo Dan fan hyn.

Mae yna resymau da dros fod yn ysgafn o'r syniad o Bobby Sands street yn Iran, ond o'r wybodaeth sydd gennyf am Iwerddon / IRA tydi cyhuddo Bobby Sands o fod yn llofrudd ddim yn un ohonynt.

Nawr ei gyhuddo o fod yn aelod o fudiad oedd yn llofruddio mewn gwaed oer? Wel mi fyddai hynny'n gywir.
Rhithffurf defnyddiwr
Boris
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 549
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 4:03 pm
Lleoliad: Y Gogledd

Postiogan Eamon » Mer 04 Chw 2004 11:01 am

Os wy'n cofio'n iawn, cafodd BS ei ddedfrydu i 14 blynedd oherwydd bod llaw ddryll mewn car roedd yn ei ranu gyda 3 arall.
Cyn hyn roedd yn Long Kesh am rai blynyddoedd ar 'internment'.
Rhithffurf defnyddiwr
Eamon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 126
Ymunwyd: Mer 28 Ion 2004 7:33 pm
Lleoliad: Dros y Dwr

Postiogan nicdafis » Mer 04 Chw 2004 12:06 pm

Nid trafodaeth am hawliau pobl Iran i enwi stryd ar ôl Sands yw hwn (<a href="http://uk.news.yahoo.com/040123/323/ek4w4.html" title="stori Yahoo">wnaethon nhw hynny dros 20 mlynedd yn ôl</a>) ond am hawl Llywodraeth Prydain i'w <strike>gorfodi</strike> dwyn perswâd arnyn nhw i newid yr enw i rywbeth mwy "addas".

Sut fyddech chi bobl Caerdydd yn teimlo 'sai llywodraeth India yn gofyn am enw newydd ar Clive Rd, neu'r un De Affrica yn cymryd offens ar enw Churchill Way?

[gol. "gorfodi" yn gor-ddweud]
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan nicdafis » Mer 04 Chw 2004 12:29 pm

Mae'n werth darllen y stori Yahoo 'na, gyda'r llaw.

In addition, Irish visitors are sometimes greeted at Tehran airport's passport control with a smile from normally gloomy-faced staff, a raised clenched fist and the statement: "Bobby Sands, no food. Welcome to Iran".


Gobeithio dyn nhw ddim yn wneud hyn i bobl sy'n gwisgo hetiau bowler.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron