pogon_szczec a ddywedodd:Os nad oes unrhywbeth da ti yn erbyn y syniad, fyddi di'n ddigon hapus i'r Iranians enwi strydoedd ar ol Lenny Murphy na Myra Hindley?
Unwaith rhagor, ti'n conffiwsed pogon. Does dim ots beth yw fy marn personol am Bobby Sands, naci am chwaith gwleidyddol pobl Iran. Nid hwnna yw'r pwynt. Beth sy'n poeni fi yw'r ffaith bod fy llywodraeth innau, yr un sydd i fod i'm gynrychioli, yn defnyddio ei ddylanwad diplomatig i effeithio polisi mewnol gwlad arall.
Nid ein busnes ni yw e beth mae pobl Iran yn galw eu strydoedd.
Yr unig peth sy mewn cyffredin rhwng Sands a Hindley yw bod y ddau wedi bod yn fwci-bos i'r wasg Prydeinig. Wyt ti'n tanseilio dy ddadl dy hunan gan drial awgrymu eu bod nhw'n gyfartal yn foesol. Mae'n annodd dychmygu unrhyw wlad bod yn ddigon cras i enwi stryd ar ôl Hindley, sydd heb unrhyw arwyddocâd gwleidyddol o gwbl.
pogon a ddywedodd:Beth os wyt ti'n berthyn i rywun a laddwyd gan yr I.R.A.?
Dw i <i>yn</i> berthyn i rywun a laddwyd gan yr I.R.A.
O'r gorau, nad yw hynny'n wir, ond wyt ti'n gweld pa mor amherthnasol yw'r cwestiwn? Ydyn ni am i'n llywodraeth ddilyn polisiau rhyngwladol sy'n seiliedig ar "gyfiawnder yr iard ysgol" (<i>he started it!</i>) neu ar rywbeth mwy aeddfed? Dw i ddim yn dweud nad oes rheswm gan bobl a gollodd perthnasau yn y rhyfel yng Ngogledd Iwerddon fod yn grac bod 'na stryd yn enw Bobby Sands yn Tehran, jyst bod hi'n anymarferol i lywodraeth Prydain esgus seilio polisïau ar eu teimladau nhw.