Tudalen 1 o 5

Swyddi

PostioPostiwyd: Llun 09 Chw 2004 9:40 pm
gan RET79
Beth yw'ch profiad chi o ffeindio swydd ers gadael addysg? Hawdd cal un? Anodd? Gorfod cymryd swydd crap?

PostioPostiwyd: Llun 09 Chw 2004 11:29 pm
gan Lowri Fflur
Be di dy brofiad di. Gorfod symud i Loegr i gal gwaith ella?

PostioPostiwyd: Llun 09 Chw 2004 11:37 pm
gan Geraint
Gwaith gwirfoddol am chwe mis, dwy fis yn Laura Ashley's yn llwytho palets a sgertiau blodeuog mewn i loriau, mis yn glanhau ffermydd efo clwy'r traed ar gennau. Cwpl o fisoedd ar y dol. Dim yn trefn. Yna ges i y job o ni ar ol. A symud i wlad y Gogleddwyr.

PostioPostiwyd: Llun 09 Chw 2004 11:46 pm
gan RET79
Wnes i drio am nifer fawr o swyddi pan oeddwn yn coleg, canran isel iawn ohonynt ges i gyfweliad ac yn diwedd ces gynnig swydd funud olaf i ddechrau'n syth o'r postgrad. Heblaw am y cynnig yna gallwn fod wedi bod ar y dol am amser hir. Mae'r farchnad swyddi yn anodd iawn dyddie yma dwi'n teimlo, dwi eisiau symud i swydd arall fwy diddorol ond mae'n anodd iawn. Gafodd fy CV ei droi lawr heddiw gan un cwmni, pam dwn i ddim gan roedd gen i'r holl quals a phrofiad roedd nhw'n gofyn am.

Yn aml dwi'n cwestiynu os yw y drafferth wnes i i wneud yn dda yn lefel a, gradd a postgrad wedi bod werth o gan dyw'r cyfleodd ddim yno fel yr hoffwn.

PostioPostiwyd: Llun 09 Chw 2004 11:50 pm
gan Geraint
Yn aml mae angen fwy na phrofiad academaidd. Nes i brofiad gwaith yn ystod fy ngwyliau tra ym mrhifysgol, ac yna am gyfnod ar ol gadael. Ond ma hi'n anodd byw heb gyflog, odd rhaid i mi fyw nol adre efo fy rhieni. Ond roedd o werth e yn y diwedd.

PostioPostiwyd: Llun 09 Chw 2004 11:54 pm
gan RET79
Oes, mae profiad gwaith yn cael ei gyfri'n bwysig, yn bersonol dwi'n meddwl fod o'n cael ei wneud allan yn fwy pwysig na beth mae o werth ond mae'n debyg fod o'n un ffordd o ddewis un person cyn un arall.

Dwi'n ffeindio fo yr un mor anodd, os nad yn fwy anodd, i gael yr ail swydd hyd yn oed hefo profiad ok o'r swydd gyntaf.

Rhaid i mi gyfaddef yr hoffwn weithio i fi fy hun lot mwy na gweithio i eraill. Un dydd fe gaf syniad, pwy a wyr.

PostioPostiwyd: Maw 10 Chw 2004 12:02 am
gan RET79
lowri larsen a ddywedodd:Be di dy brofiad di. Gorfod symud i Loegr i gal gwaith ella?


Ddim gorfod ond wnes i drio am swyddi yn bob man, rhan fwyaf ohonynt yn mynd yn Lloegr wrth reswm, a gymrais un.

PostioPostiwyd: Maw 10 Chw 2004 12:10 am
gan Lowri Fflur
O felly sa chdi' n deud bod o' n haws cal gwaith yn Loegr nag yn Ngfhymru?

PostioPostiwyd: Maw 10 Chw 2004 12:13 am
gan RET79
lowri larsen a ddywedodd:O felly sa chdi' n deud bod o' n haws cal gwaith yn Loegr nag yn Ngfhymru?


Wel mae lot mwy o swyddi yn mynd yn Lloegr na Chymru wrth reswm... talu'n uwch hefyd ond mae'n costio mwy i fyw yno hefyd. Ddim n siwr os ti'n well off yn pendraw o gwbl. A ti'n colli'r gwyrddni.

PostioPostiwyd: Maw 10 Chw 2004 12:14 am
gan Lowri Fflur
Gwyrddni?