Tudalen 2 o 5

PostioPostiwyd: Maw 10 Chw 2004 12:18 am
gan RET79
lowri larsen a ddywedodd:Gwyrddni?


... the green green grass, of hoooome

PostioPostiwyd: Maw 10 Chw 2004 12:33 am
gan Lowri Fflur
o dwi' n deall wan. Ti' n colli siarad Cymraeg hefyd?

PostioPostiwyd: Maw 10 Chw 2004 12:34 am
gan RET79
lowri larsen a ddywedodd:o dwi' n deall wan. Ti' n colli siarad Cymraeg hefyd?


Wel, ydw. Mae'n un o'r pethau ma ti'n aberthu. Ond ti'n gwerthfawrogi pethau fel hyn pan ti ffwrdd o adref. Gorau cymro cymro oddi cartref etc.

PostioPostiwyd: Maw 10 Chw 2004 12:38 am
gan Dylan
Wel, 'dw i dal yn stiwdant blewog budr ar y funud felly 'dydw i heb orfod mynd mewn i chwilio o ddifri. Ond 'dw i'n gweithio yng Nghofi Roc yng Nghaernarfon pan 'dw i adref.

PostioPostiwyd: Maw 10 Chw 2004 12:39 am
gan Lowri Fflur
So be sa chdi' n ddeud ti' n gorfod aberthu i gyd yn symud oddi cartref. Gyda llaw dwi ddim really yn gallu deud bod dwi' n cytuno efo gora cymro oddi catra achos dwi' m yn meddwl bod na lawer ti' n gallu neud dros y Gymraeg yn Loegr.

PostioPostiwyd: Maw 10 Chw 2004 12:40 am
gan Lowri Fflur
Dylan a ddywedodd:Wel, 'dw i dal yn stiwdant blewog budr ar y funud felly 'dydw i heb orfod mynd mewn i chwilio o ddifri. Ond 'dw i'n gweithio yng Nghofi Roc yng Nghaernarfon pan 'dw i adref.


O ia nes i glywed y stori hynod ddigri yna am dy noson cyntaf o training yna :winc:

PostioPostiwyd: Maw 10 Chw 2004 12:58 pm
gan Dylan
ahem :wps:

PostioPostiwyd: Mer 11 Chw 2004 11:57 am
gan Madrwyddygryf
Roeddwn wedi cynllwynio mynd i LLundain fy hyn ar ol gadael Coleg. Ond mi benderfynais aros yng Nghymru. Ydio'n dewis ddoeth ? Wel cawn gweld.

Ers i mi ddod i Gaerdydd, dwi wedi cael nifer fawr o waith dros dro, rhai da, rhai gawel a rhai gythreulig o wael. Mi gefais fy sacio dwywaith blwyddyn diwethaf, a gwario cryn dipyn o amser ar y dol. Roedd hynny yn dipyn o cic yn ddy nyts i mi mewn ffordd, ond mae di wneud i mi ddysgu cymaint am fy hyn.

Ar ol gwario bron iawn ugain mlynedd o fewn system addysg, lle mae targedau yn glir a rydych gyda rhywfath o syniad pa ffordd rydych yn cymeryd, mae'n anodd i rai i gynefino gyda'r bywyd gwaith.

PostioPostiwyd: Mer 11 Chw 2004 12:04 pm
gan Madrwyddygryf
Dyma erthygl diddorol yn y Economist sydd yn dangos sut mae'r byd wedi newid i graddedigion.

Employers themselves say much the same thing. “What our members want is office and personal skills rather than more advanced education,” says Matthew Knowles, policy adviser at the British Chambers of Commerce, a group for small and medium-sized businesses. “You see a lot of people from university who take three to six months to pick up the skills for an office job. They could do that by the age of 19 and start moving up. Instead they spend three years at college and then take a job they would have taken anyway.”

PostioPostiwyd: Mer 11 Chw 2004 12:13 pm
gan Dielw
Mae hi'n anodd iawn cael gwaith ar ôl graddio. Tua 4 mis oeddwn i, sydd ddim rhy ddrwg. Mae bod ar y dôl yn brofiad gwerthfawr ddo, wrth edrych yn ôl.