Ymgeiswyr Lloches

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ymgeiswyr Lloches

Postiogan Dielw » Iau 12 Chw 2004 10:55 am

{Datblygodd y drafodaeth yma o'r edefyn am Dafydd Iwan - arweinydd neu Eicon, ym Materion Cymru, ond mae'n drafodaeth yn ei hun - Gweinydd]

Prydain ydi'r wlad mwya croesawgar i ffoaduriaid yn y byd! Trueni nad yw Blunkett llai croesawgar i ffoaduriaid dwi'n ddeud.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan S.W. » Iau 12 Chw 2004 1:55 pm

Un o celwyddau mawr y Daily Mail a'u sort ydy bod Prydain yn cymryd mwy nag unrhyw wlad arall o ffoaduriaid. Mae'r canran mae hin ei gymryd o'i gymharu a phoblogaeth y wlad yn canran bychan dros ben.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Dielw » Iau 12 Chw 2004 2:46 pm

Un o celwyddau mawr y Daily Mail a'u sort ydy bod Prydain yn cymryd mwy nag unrhyw wlad arall o ffoaduriaid


Wyt ti efo'r ffigurau i fy nghywiro i felly? Roeddwn i dan yr argraff bod Prydain yn derbyn mwy o ffoaduriaid na America, Ffrainc a'r Almaen - 3 gwlad llawer mwy gyda dwysedd poblogaeth llawer llai. O'r safbwynt yna, swn i'n deud bod Blunkett yn fwy na chroesawgar.
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan S.W. » Iau 12 Chw 2004 5:02 pm

Sori does gennaim mohonynt nhw ar dop fy mhen. Ond dwi newydd ddechrau gwaith gyda 'Rhwydwaith Cydraddoldeb Hil Gogledd Cymru' ers ychydig dros fis. Ac un o'r pethau cyntaf dwi wedi ei ddysgu ydy hynny. Dwin gwneud dipyn o waith gyda ffoaduriaid a ceiswyr lloches yma yn y Gogledd a mae'r deal mae nhw'n ei gael yn ddiawledig.

E.e. Mewn ymgynghoriaeth yn ddiweddar roedd na tri surgeon, ac anethatist wedi eu hyfforddi yn llawn yn yr ymgynhoraeth a doedd yr un ohonynt yn cael gweithio er eu bod eisiau gweithio a bod Ysbyty Maelor yn brin o staff yn y lle cyntaf. Hurt bost
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Machlud Jones » Iau 12 Chw 2004 5:22 pm

Dwi'n meddwl mae'r Almaen sy'n cael y nifer uchaf o fewnfudwyr ond nad yw'r rhain yn asylum seekers - nid yw'r 'Guest Workers' o Dwrci sy'n byw yna yn eu miloedd yn cyfri fel dinasyddion Almaenig. Mae'r un yn wir am y bobl o ddwyrain Ewrop o dras Almaenig sy'n cael symud i'r Almaen yn sgil cytundeb ar ol rhyfel dwi'n meddwl - nid yw'r rhain yn gorfod gwneud cais am asylum.

O ran asylum yn y DU - mae hwn wedi saethu fynny'n ddiweddar. Ond mae'n bwysig cofio bod ffactorau eraill pam mae mwy eisio dod i Brydain. Mae mwy ohonynt yn siarad Saesneg na'r ieithoedd Ewropeaidd eraill. Mae llawer o bobl gyda chysylltiadau teuluol ym Mhrydain yn enwedig pobl o Pakistan, India, Srilanca a Bangladesh a'n gynyddol y Twrciaid.
Machlud Jones
 

Postiogan S.W. » Iau 12 Chw 2004 5:48 pm

Dwin siwr ddylai hwn i gyd fod mewn edefyn gwahanol ond dwim gyda mynedd gweithio allan sut i wneud hynny gan fy mod dal yn y swyddfa yn ffeindio allan gwybodaeth diddorol am gelwyddau'r Adain dde yma ym Mhrydain (a Cymru iw wneud yn berthnasol i'r hafan yma). Dyma'r newyddion dydy'r Daily Mail ddim yn dweud

Mae mwy o pobl wedi gadael Prydain i fyw ers 1964 nag sydd wedi dod yma i fyw

Dim ond 5.5% o boblogaeth Prydain sydd ddim yn wyn

Dim ond 1.5% o boblogaeth Cymru sydd yn leiafrif ethnig

Cafodd 80% o sydd ddim yn wyn yma ym Mhrydain eu geni yma

Mae yna 30 iaith gwahanol yn cael ei siarad gan blant yn ysgolion Fitzalan

Mae'r tywysog Charles yn fab i immigrant a mae Clif Richard YN immigrant (o India) a Freddy Mercury (o Zanzibar)

Mae 'immigrants' eraill i Brydain yn cynnwys Karl Marx

Yr 'immigrants' mwyaf niferus sydd yn dod yma i fyw ydy'r Gwyddelod
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Machlud Jones » Gwe 13 Chw 2004 12:39 pm

S.W. a ddywedodd:Dwin siwr ddylai hwn i gyd fod mewn edefyn gwahanol ond dwim gyda mynedd gweithio allan sut i wneud hynny gan fy mod dal yn y swyddfa yn ffeindio allan gwybodaeth diddorol am gelwyddau'r Adain dde yma ym Mhrydain (a Cymru iw wneud yn berthnasol i'r hafan yma). Dyma'r newyddion dydy'r Daily Mail ddim yn dweud

Mae mwy o pobl wedi gadael Prydain i fyw ers 1964 nag sydd wedi dod yma i fyw

Dim ond 5.5% o boblogaeth Prydain sydd ddim yn wyn

Dim ond 1.5% o boblogaeth Cymru sydd yn leiafrif ethnig

Cafodd 80% o sydd ddim yn wyn yma ym Mhrydain eu geni yma

Mae yna 30 iaith gwahanol yn cael ei siarad gan blant yn ysgolion Fitzalan

Mae'r tywysog Charles yn fab i immigrant a mae Clif Richard YN immigrant (o India) a Freddy Mercury (o Zanzibar)

Mae 'immigrants' eraill i Brydain yn cynnwys Karl Marx

Yr 'immigrants' mwyaf niferus sydd yn dod yma i fyw ydy'r Gwyddelod

Yn union - be am i Sbaen gwyno am y mewnfudwyr seisnig sy'n mynd yno yn eu cannoedd o filoedd heb wneud unrhyw ymgais i gymhathu a dysgu'r iaith (na chyfranu at yr economi drwy weithio). Mae tua 300,000 o Brydeinwyr yn byw ar y costa del sol yn unig gyda dau bapur newydd a nifer o sianeli radio saesneg ar eu cyfer. Be am Ffrainc - mae Saeson wedi cymryd drosodd yn Profons ac mewn nifer o bentrefi yn Llydaw. A wedyn beth am Gymru?
Machlud Jones
 

Postiogan Dielw » Gwe 13 Chw 2004 1:51 pm

Yn union - be am i Sbaen gwyno am y mewnfudwyr seisnig sy'n mynd yno yn eu cannoedd o filoedd heb wneud unrhyw ymgais i gymhathu a dysgu'r iaith (na chyfranu at yr economi drwy weithio).


Dylai Sbaen gwyno am y Saeson hyn yn yr un modd a dwi'n cwyno am mewnfudwyr i Gymru/Prydain sy'n gwneud yr un peth. Bai Sbaen (a ni) am eu derbyn, nid bai y mudwyr. Yr unig wahaniaeth yw bod y saeson hynny yn dod a arian i Sbaen (cyfrannu at yr economi drwy brynu pethe) tra bod nifer helaeth y mudwyr i fan hyn yn gorfod derbyn budd-daliadau gan y trethdalwyr.

Dylai bod croeso cynnes i ffoaduriaid go iawn (hynny yw, rheswm dilys am beidio bod yn eu gwlad nhw), ond dylid gwahaniaethu rhwng ffoaduriaid a mudwyr economaidd. Does dim angen gymaint o fudwyr economaidd, mae'r cyhoedd yn sylwi hynny - a dyna pam mae hi mor hawdd i'r Mail gynhyrfu'r dyfroedd. (papur shocking o ddrwg gyda llaw)
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Cwlcymro » Gwe 13 Chw 2004 2:45 pm

Ma Prydain yn cymeryd llai o ffoaduriaid na'r gwledydd mawr eraill yn Ewrop (Ffrainc, Almaen, Sbaen etc). Fel SW sgenaim y ffigyra na'r mynadd i chwilio amdany nhw, dwi'n gobeithio neith riwyn llai diog wneud hynnu drosda fi (rywun?)

Yr unig wahaniaeth yw bod y saeson hynny yn dod a arian i Sbaen (cyfrannu at yr economi drwy brynu pethe) tra bod nifer helaeth y mudwyr i fan hyn yn gorfod derbyn budd-daliadau gan y trethdalwyr.


Nifer helaeth? Ti'n siwr o hynnu. Ma na ddigon o fewnfudwyr yn gweithio'n aruthrol o galad yma. Ma'r boi sy'n bia'r siop rownd gornol, boi sy bia'r siop arall rownd gornol,m boi sy bia'r siop kebabs, y Fish bar, ein agency tai ni, y tacsi sy'n dod a fi adra. A rheini di jusd y rhei dwi'n sylwi ar o ddydd i ddydd. Ma na filoedd eraill yn gweithio mewn jobsys gwell, da ni jusd ddim yn ei gweld nhw o ddydd i ddydd.
Wan sgenaim clem os di'r 'mwyafrif' o fewnfudwyr yn gweithio, ond ma geni deimlad ei bod nhw.
Y peth ydi ma'r unig fewnfudyr nawn ni glwad amdany nhw ar y newddion ac yn y papura ydi'r rheini sydd ddim yn gweithio, achos nhw sy'n gwneud 'newyddion'.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dielw » Gwe 13 Chw 2004 3:22 pm

Dylai mudwyr economaidd sydd ddim yn gweithio ddim bod yma - dyna pam ma nhw'n gwneud 'newyddion'. Ti'n iawn mae'r mwyafrif o mudwyr yn gweithio - ond mae mwy na dylai fod sydd ddim.

Gyda llaw, wyt ti'n byw ar Salisbury Road? :winc:
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 30 gwestai

cron