Ma Prydain yn cymeryd llai o ffoaduriaid na'r gwledydd mawr eraill yn Ewrop (Ffrainc, Almaen, Sbaen etc). Fel SW sgenaim y ffigyra na'r mynadd i chwilio amdany nhw, dwi'n gobeithio neith riwyn llai diog wneud hynnu drosda fi (rywun?)
Yr unig wahaniaeth yw bod y saeson hynny yn dod a arian i Sbaen (cyfrannu at yr economi drwy brynu pethe) tra bod nifer helaeth y mudwyr i fan hyn yn gorfod derbyn budd-daliadau gan y trethdalwyr.
Nifer helaeth? Ti'n siwr o hynnu. Ma na ddigon o fewnfudwyr yn gweithio'n aruthrol o galad yma. Ma'r boi sy'n bia'r siop rownd gornol, boi sy bia'r siop arall rownd gornol,m boi sy bia'r siop kebabs, y Fish bar, ein agency tai ni, y tacsi sy'n dod a fi adra. A rheini di jusd y rhei dwi'n sylwi ar o ddydd i ddydd. Ma na filoedd eraill yn gweithio mewn jobsys gwell, da ni jusd ddim yn ei gweld nhw o ddydd i ddydd.
Wan sgenaim clem os di'r 'mwyafrif' o fewnfudwyr yn gweithio, ond ma geni deimlad ei bod nhw.
Y peth ydi ma'r unig fewnfudyr nawn ni glwad amdany nhw ar y newddion ac yn y papura ydi'r rheini sydd ddim yn gweithio, achos nhw sy'n gwneud 'newyddion'.