Postiwyd:
Gwe 13 Chw 2004 4:05 pm
gan Cwlcymro
Gyda llaw, wyt ti'n byw ar Salisbury Road?
Basdad clefar
Ond dim digon clefar! Dwi ddim yn byw ar Salisbury Road, ond ar Miskin Street (un stryd lawr). Ond ia, T&A's oni'n siarad am!
Postiwyd:
Gwe 13 Chw 2004 4:17 pm
gan Machlud Jones
Dielw a ddywedodd:Dylai mudwyr economaidd sydd ddim yn gweithio ddim bod yma - dyna pam ma nhw'n gwneud 'newyddion'. Ti'n iawn mae'r mwyafrif o mudwyr yn gweithio - ond mae mwy na dylai fod sydd ddim.
Ia ond di nw i'm yn gweithio am bo nw ddim yn cal.
Postiwyd:
Sad 14 Chw 2004 12:24 pm
gan S.W.
Dydy ymgeiswyr lloches ddim yn cael gweithio ym Mhrydain dim ond ffoaduriaid, mae nhw'n cael eu gorfodi i welithio'n anghyfreithlon neu i drio byw ar budd daliadau - mae unrhyw berson sydd wedi bod ar y dôl yn gwbod pa mor anodd ydy hynny!
Beth sydd ei angen ydy system 'visa' fel sydd yn America ble mae gennych hawl i weithio am gyfnod o amser. Roedd yr ymgeiswyr lloches dwi wedi cwrdd a nhw yn dweud eu bod eisiau gweithio a cyfrannu i'r gymuned ac i economi eu hardaloedd newydd ond bod y llywdraeth yn eu atal.
Mae'r pobl hyn wedi cael eu gorfodi allan o'u gweldydd, doedd yr un ohonynt nhw eisiau gadael, ond y dewis oedd hynny neu marw.