Nick Griffin ar Radio 5

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Macsen » Sul 22 Chw 2004 2:05 pm

RET79 a ddywedodd:OK beth os buasai dy frawd neu ffrind i ti yn dwyn dy wraig. Sut fuaset ti'n teimlo wedyn?


Mi fysai fy nghleddyf yn darganfod pwrpas i'w fodolaeth.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan jimkillock » Sul 22 Chw 2004 6:30 pm

Iawn, mi ydach chi isio amddiffyn yr hawl i siarad, hyo os mae'n hiliol neu'n homoffobic, ond dach chi'n yn erbyn y syniadau yna.

Ond, beth am yr effaith y BNP / NF yn ymgyrchu ar sail y syniadau yna? Trosedd yn erbyn pobl o dras Asiaidd yng Ngogledd lloegr llynedd? Neu trosedd yn erbyn pobl hoyw gan aelodau / pobl efo cyswllt i'r BNP?

Mae rheini'n pethau sy'n digwydd.

Beth ydych chi am wneud amdano fo? Buaswn i am un peth gwahardd pobl o ddosbarthu pethau sy'n awgrymu neu'n ceisio perswadio pobl i ymosod yn gorfforol ar bobl eraill, o unrhyw safbwynt.

Stwff fel hyn:

National Front a ddywedodd: Due to the insanity of mass immigration, foreigners already outnumber us in many of our major towns and cities. Whether the white race together with our culture and religion survives is of no importance to them.

They will vote for whoever offers them the best deal. So far, the old major parties have given them our land, houses, jobs, social security benefits, free hospital treatment and dealt with them as though they were the entitled British, and treated us like refugees seeking handouts.

.... Currently our enemies are working on the race-mixing theme in order to destroy our race.

They are also attempting to turn as many of our youngsters as they can towards homosexuality, thus creating a non-child- bearing class who will vote Labour, as the latter are seen as the party, which caters for them.


Beth yw pwrpas hyn ond i greu teimladau ymosodol? Dyma'r cam cyntaf tuag at greu amgylchiadau addas i drais hiliol a homoffobic.

A dyna be maen nhw'n wneud - ydych chi o wirionedd isio rhoi'r cyfle iddyn nhw?

Defnyddio pob dull posib i'w atal nhw dweda i. Yn gynnwys y Gyfraith a'r Llysoedd. mae'n bwysig eto rhoi'r neges i gymuedau lleafrifol bod ein cymdeithas yn barod i'w addiffyn nhw - nid y Ffasgwyr a'u "hawl i siarad".

[Dwi di meddwl yn ddwfn am roi hyn ar y safle yma. Mae'n anodd Bydda i ddim yn cwyno os mae rhywun yn tynnu fo i lawr]
Rhithffurf defnyddiwr
jimkillock
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Gwe 15 Tach 2002 10:54 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan SbecsPeledrX » Sul 22 Chw 2004 7:31 pm

Yn union dyna pam na ddylai'r dosbarth gweithiol adael i'w gelynion yn y pleidiau ffasgaidd gael yr hawl i siarad a lledaenu casineb. Gallen nhw ddim cynnal cyfarfod yn Nhreffynnon dwi'n gwbod hynna a byddwn yn gobeithio fod ymateb tebyg gan genedlaetholwyr a sosialwyr ymhob un on trefi.

Dim llwyfan i ffasgwyr ledaenu eu neges ac fe ddylai'r undebau yn y BBC fod a polisi ar hyn. Byddai Nic Griffin ai blaid yn chwalu undebau gweithwyr y BBC petai'n cael unrhyw ddylanwad felly dyma eu cyfle nhw trau bod llawer cryfach nai blaid chwydlyd i sicrhau nad yw'n tyfu.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Garnet Bowen » Llun 23 Chw 2004 10:17 am

Er mod i'n meddwl fod syniadaeth y BNP yn gwbwl atgas, mi ydw i'n credu'n gryf fod gan y bobl yma'r hawl i leisio eu barn. Beth bynnag fo'ch safbwynt ar y mater, fedrwch chi ddim gwadu fod yna bobl ym Mhrydain sydd yn credu mewn syniadau hiliol, a'r unig ffordd o ddatrys hyn ydi drwy drafod a rhesymegu efo nhw, nid drwy eu gwahardd rhag siarad. Drwy eu rhwystro rhag cymeryd rhan ym mywyd gwleidyddol Prydain, mi yda ni'n gadael i'w syniadau nhw dyfu heb reolaeth. Mi fydda nhw'n dal i ddod o hyd i ffordd o gyfarthrebu gyda phobol gyffredin Burnley- drwy bostio tafleinni drwy ddrysau, er enghraifft - ond y tro yma, fydd gohebydd y BBC ddim yn bresenol i'w holi, ac i gynnig gwrthbwynt.

Ac mi ydw i hefyd yn credu fod gan RET bwynt teg i'w wneud ynglyn a'r modd y mae hil a rhywioldeb yn cael ei drafod ar adegau. Nid deud oedd o fod rhaid beirniadu pobol am fod yn hoyw/lleifarif ethnig. Deud oedd RET fod yna ddiwylliant yn bodoli lle mae rhai pobl hoyw ac o leiafrif ethnig yn haeddu cael eu barnu, ond fod pobl ofn gwneud hynny rhag ofn iddyn nhw gael eu galw yn homoffobig neu hiliol.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan SbecsPeledrX » Llun 23 Chw 2004 12:10 pm

Dwi wedi bod ar strydoedd Glannau Dyfrdwy yn eu rhwystro rhag rhoi pamffledi drwy drysau hefyd. Dyna ddylswn ni i gyd fod yn ei wneud pob tro mae'r Hitlers bach yma yn codi eu penau prydeinig twatlyd uwchben y parapet.

Does dim rheswm dros gadael i'r bobl yma lledaenu eu hiliaeth tra bo trwch y boblogaeth yn eu gweld yn gwbl atgas. Fel y dywedais yn fy neges flaenorol dylsai'n hundebau fod yn llunio polisiau cryf ar hyn ac yn defnyddio rhan o'u cronfeudd gwleidyddol i ymladd y gelyn yma i ni yn hytrach nac ariannu plaid pwdr sy'n pasio deddfau hiliol i atal pobl rhag symyd i'r wlad yma ac yn dilyn yn wasaidd arweiniad y wasg gwter efo'u polisiau ar geiswyr lloches ayb.

Bwydo'r Ffasgwyr mae'r Blaid Lafur trwy ildio o'i gwerthoedd traddodiadol gan adael gwacle i'w lenwi a thrwy rhoi hygrededd i ddadleuon y BNP a'r NF drwy pasio deddfau hiliol.

Dangosodd yr Almaen a'r Eidal beth fydd yn digwydd i'r dosbarth gweithiol ac i'w sefydliadau pan geiff y ffasgwyr ddylanwad. Dwi'm isio mynd i auschwitz diolch yn fawr felly tra fy mod i yn y mwyafrif dwi am fwlio bwgwth a slappio ffasgwyr.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Garnet Bowen » Llun 23 Chw 2004 12:22 pm

SbecsPeledrX a ddywedodd:Dwi wedi bod ar strydoedd Glannau Dyfrdwy yn eu rhwystro rhag rhoi pamffledi drwy drysau hefyd. Dyna ddylswn ni i gyd fod yn ei wneud pob tro mae'r Hitlers bach yma yn codi eu penau prydeinig twatlyd uwchben y parapet.


Ond fe ddawn nhw o hyd i ffordd o ledaenu eu neges. Os nad ydy nhw'n medru rhannu eu taflenni, mae nhw'n medru siarad efo pobol o ddydd i ddydd. Fedri di ddim rhwygo eu tafodau allan. O leia' ar y BBC mae eu safbwyntiau yn cael eu herio gan bobol sy'n ddigon deallus i chwalu eu dadleuon.


SbecsPeledrX a ddywedodd:Dangosodd yr Almaen a'r Eidal beth fydd yn digwydd i'r dosbarth gweithiol ac i'w sefydliadau pan geiff y ffasgwyr ddylanwad. Dwi'm isio mynd i auschwitz diolch yn fawr felly tra fy mod i yn y mwyafrif dwi am fwlio bwgwth a slappio ffasgwyr.


Ond a na fyddai cyfundrefn ryddfrydol gadarn, sy'n gwarantu hawl pawb i fynegi eu barn yn fwy effeithiol? Wedi'r cyfan, mae 'na sawl un fyddai'n defnyddio gulag Stalin i ddadlau yn erbyn gadael i eithafwyr ar y chwith gael lleisio eu barn.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan RET79 » Llun 23 Chw 2004 7:11 pm

Ac mi ydw i hefyd yn credu fod gan RET bwynt teg i'w wneud ynglyn a'r modd y mae hil a rhywioldeb yn cael ei drafod ar adegau. Nid deud oedd o fod rhaid beirniadu pobol am fod yn hoyw/lleifarif ethnig. Deud oedd RET fod yna ddiwylliant yn bodoli lle mae rhai pobl hoyw ac o leiafrif ethnig yn haeddu cael eu barnu, ond fod pobl ofn gwneud hynny rhag ofn iddyn nhw gael eu galw yn homoffobig neu hiliol.


Diolch Garnet. Neis gweld fod rhywun wedi deall beth oeddwn yn drio ei ddweud. Dwi'n cytuno 100% hefo dy bwynt blaenorol hefyd fod yn well holi'r pobl BNP a cynnig gwrthbwynt yn hytrach na smalio fod nhw ddim yn bodoli.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Chwadan » Llun 23 Chw 2004 10:12 pm

Ma hynna'n ddigon gwir - sbiwch ar be ddigwyddodd efo'r Front National yn Ffrainc yn 2001 pan nath y llywodraeth a'r parchusion anwybyddu'r hilioldeb a'r agasedd tuag at fewnfudwyr yn y de, neu ar be ddigwyddodd yn Awstria flwyddyn ynghynt :ofn:.

Does na'm pwynt trio anwybyddu'r peth neu wnaiff cefnogaeth i bleidiau ffasgaidd ddim ond tyfu ymhlith pobl sydd mewn sefyllfaoedd sy'n ansefydlog (boed yn gymdeithasol neu economaidd). Diolch byth, roedd gan y Ffrancwyr a'r Awstraid ddigon o synnwyr cyffredin i weld fod partion ffasgaidd yn beryg, ond mae angen gofyn be fasa'n digwydd petai'r sefyllfa yn fwy eithafol - fyddai pobl sy'n arfer bod yn resymegol yn pleidleisio drostyn nhw?
Rhithffurf defnyddiwr
Chwadan
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2578
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 12:24 am
Lleoliad: :dailoelL

Postiogan Dylan » Maw 24 Chw 2004 12:49 pm

'Dw i yn chwyrn yn erbyn sensorio o unrhyw fath. Dyma pam (mae rhai o'r pwyntiau wedi'u trafod eisoes):

- y ffordd gorau o chwalu syniadaeth atgas ydi i'w gael allan yn agored a'i rwygo yn ddarnau gyda cyfuniad o ddadlau rhesymegol a dychan. Dyma'r unig ffordd o ddangos i bobl pa mor hurt ydi'r fath gredodau.
- mater o egwyddor. Dylai pawb gael yr hawl i leisio barn, dim ots pa mor eithafol a hurt
- mae sensoriaeth yn wrth-gynhyrchiol yn y tymor byr, 'dw i'n meddwl, achos y cwbl mae yn ei gyflawni ydi creu rhyw fath o ddrwg-deimlad ymysg y mudiad bod "y sefydliad yn eu herbyn" a bod ganddynt gynllwyn ar waith er mwyn atal y grwp rhag "lledaenu'r gwirionedd". Mae hyn yn apelio at lawer o bobl. Maent yn ei weld yn gyffrous, yn un peth. 'Does ond angen edrych ar y nifer o "conspiracy theorists" sydd o gwmpas.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan SbecsPeledrX » Maw 24 Chw 2004 1:14 pm

Ond nid son am sensoriaeth ydw i. Son am i'r dosbarth gweithiol defnyddio'u grym i chwalu mudaid o'r fath ac atal iddi y cyfle i drefnu. Petaent yn cael unrhyw grym fydde nhw'n defnyddio dulliau eithafol iawn i'n chwalu ni felly mae'n dyletswydd arnom i'w wneud yn gorfforol amhosib iddynt gynnal unrhyw weithgaredd.

Rhaid curo'r diawled off y strydoedd a rhaid i'r undebau sicrhau na chant gyfle i ddefnyddior sefydliad (BBC ayb) i ledaenu ffasgiaeth.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 33 gwestai