Nick Griffin ar Radio 5

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Garnet Bowen » Maw 24 Chw 2004 1:35 pm

SbecsPeledrX a ddywedodd:Ond nid son am sensoriaeth ydw i. Son am i'r dosbarth gweithiol defnyddio'u grym i chwalu mudaid o'r fath ac atal iddi y cyfle i drefnu. Petaent yn cael unrhyw grym fydde nhw'n defnyddio dulliau eithafol iawn i'n chwalu ni felly mae'n dyletswydd arnom i'w wneud yn gorfforol amhosib iddynt gynnal unrhyw weithgaredd.

Rhaid curo'r diawled off y strydoedd a rhaid i'r undebau sicrhau na chant gyfle i ddefnyddior sefydliad (BBC ayb) i ledaenu ffasgiaeth.


Pam fod gan yr undebau hawl i benderfynnu be ydi polisi darlledu'r BBC? Mae'r BBC yn sefydliad democrataidd sydd yn fod i adlewyrchu pob safbwynt, yn hytrach na dim ond darlledu yr hyn sy'n dderbyniol i undebwyr llafur sosialaidd.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dylan » Maw 24 Chw 2004 1:39 pm

Ond fel 'o'n i'n dweud, y ffordd orau o drechu'r fath fudiad ydi trwy ddadlau rhesymegol ac adeiladol. A hwyrach yn well byth, trwy ddychan. Mae gwneud hwyl am ben rhyw syniadaeth yn ffordd hynod effeithiol o ddangos pa mor nonsenslyd ydi o. Lot gwell na dulliau budr fel eu rhwystro rhag lleisio'u barn yn y lle cyntaf.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dielw » Maw 24 Chw 2004 1:51 pm

Dylai bod yn bosib siarad am ofnau dilys heb alw rywun yn hiliol. Ar hyn o bryd mae hi'n anodd iawn i wleidyddion drafod materion fel mewnfudo, diogelu diwylliant a gor-boblogaeth heb i rywun eu cyhuddo o hiliaeth.

Y mwya bydd gwleidyddion yn osgoi'r materion hyn, y mwya o bleidleisau bydd y BNP yn ennill (sydd a perffaith hawl i siarad yn gyhoeddus oni bai bod nhw'n torri deddf casineb hiliol).
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan jimkillock » Maw 24 Chw 2004 4:15 pm

Dielw a ddywedodd:Dylai bod yn bosib siarad am ofnau dilys heb alw rywun yn hiliol. Ar hyn o bryd mae hi'n anodd iawn i wleidyddion drafod materion fel mewnfudo, diogelu diwylliant a gor-boblogaeth heb i rywun eu cyhuddo o hiliaeth.

Y mwya bydd gwleidyddion yn osgoi'r materion hyn, y mwya o bleidleisau bydd y BNP yn ennill (sydd a perffaith hawl i siarad yn gyhoeddus oni bai bod nhw'n torri deddf casineb hiliol).


Anodd siarad am fewnfudo? Os ti'n siarad am Gymru, efaillai. Ond Prydain? Prin iawn.

Y problem ydy bod hi'n dderbyniol i slagio'r ffoadurwyr, Albananiaid, rwmaniaid. Bod hi'n dderbyniol i'r BNP ymgyrchu ar sail hiliaeth ac wedyn bod pobl yn amddiffyn eu hawl i siarad.

Dwi ddim isio bod yn sarhaus i'r pobl yn trafod yma, ond mae'n ymddangos i mi fel rhywbeth naïf iawn i amddiffyn pobl fel hyn.

Dydi hi ddim yn gwestiwn am atal yr hawl i siarad - ond cyfyngu ryuwn trio pryfocio trais hiliol. Pethau gwahanol iawn.

Ar y cwestiwn o staff y BBC - mae gan bawb dyletswydd atal Ffasgaeth. Os mae hynny'n golygu peidio darlledu stwff ar y BBC yn eu barn nhw - mae gynnon nhw'r hawl yna, yn fy marn i.
Rhithffurf defnyddiwr
jimkillock
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Gwe 15 Tach 2002 10:54 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Dielw » Maw 24 Chw 2004 4:20 pm

Dydi hi ddim yn gwestiwn am atal yr hawl i siarad - ond cyfyngu ryuwn trio pryfocio trais hiliol.


Mae na ddeddfau yn ymwneud â pryfocio trais hiliol. Os roedd Griffin yn gwneud hyn pam na chafodd ei erlyn?
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Garnet Bowen » Maw 24 Chw 2004 4:31 pm

jimkillock a ddywedodd:Anodd siarad am fewnfudo? Os ti'n siarad am Gymru, efaillai. Ond Prydain? Prin iawn.


Wyt ti wedi gweld Guardian heddiw? Mae 'na erthygl hir o gylchgrawn Prospect wedi ei chyhoeddi, yn trafod yr her y mae cymdeithas aml-ddiwyllianol yn ei chynnig i'r wladwriaeth les. Mae hi'n erthygl gytbwys, gall, wedi ei sgwenu o safbwynt asgell chwith. Ac unig ymateb Trevor Philips ydi galw'r awdur yn Powellite. Nid trafod yn aeddfed ydi hyn.

Jimkillock a ddywedodd:Dydi hi ddim yn gwestiwn am atal yr hawl i siarad - ond cyfyngu ryuwn trio pryfocio trais hiliol. Pethau gwahanol iawn.


Ond mae cyfraith yn bodoli sy'n rhwystro hyn. Toes 'na neb yn son am adael i'r BNP dorri'r gyfraith ar incitment to racial hatred. Ond mae 'na wahaniaeth rhwng hyn a rhwystro rhywun rhag mynegi safbwynt sy'n disgyn tu allan i'r sbectrwm gwleidyddol cymhedrol. Unwaith ti'n dechra pasio barn ar yr hyn sydd yn dderbyniol i rywun ei ddeud mi wyt ti dy hun yn agor y drws i ffasgaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan jimkillock » Maw 24 Chw 2004 4:46 pm

Dielw a ddywedodd:
Dydi hi ddim yn gwestiwn am atal yr hawl i siarad - ond cyfyngu ryuwn trio pryfocio trais hiliol.


Mae na ddeddfau yn ymwneud â pryfocio trais hiliol. Os roedd Griffin yn gwneud hyn pam na chafodd ei erlyn?

Mae o, o dro i dro, fel dwi'n dallt.

Ond mae cyfraith yn bodoli sy'n rhwystro hyn. Toes 'na neb yn son am adael i'r BNP dorri'r gyfraith ar incitment to racial hatred. Ond mae 'na wahaniaeth rhwng hyn a rhwystro rhywun rhag mynegi safbwynt sy'n disgyn tu allan i'r sbectrwm gwleidyddol cymhedrol. Unwaith ti'n dechra pasio barn ar yr hyn sydd yn dderbyniol i rywun ei ddeud mi wyt ti dy hun yn agor y drws i ffasgaeth.

Gwir, ond, yn fy marn i, mae rhaid cadw'r bwyso ar y BBC ayyb, oherwydd bod Griffin ayyb gwastad isio croesi a blyrio'r llinell rhwng incitement to racial hatred a 'mynegi barn."
Dwi'm isio gweld Griffin ayyb cael dweud eu dweud heb sialens cryf yn syth atynt. maenn nhw'n beryglus, oherwydd maen nhw'n croesi'r llinellau o be sy'n derbyniol ac achosi dadleuon fel hyn - ac yn agor y drws i hiliaeth fel rhywbeth derbynniol.
Rhithffurf defnyddiwr
jimkillock
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Gwe 15 Tach 2002 10:54 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan huwwaters » Maw 24 Chw 2004 11:16 pm

Cytunaf gyda RET efo rhan o be mae o'n ei ddweud.

Mae pobl sydd ddim yn WASP yn cael ryw fath o driniaeth arbennig ac yn cael eu exemptio.

Enghraifft da o hyn yw ffrind i mi a oedd tipyn yn ddu. Beth bynnag, roedd o'n gallu tynnu pob math o linynau. Dwedodd rhywyn rywbeth wrtho unwaith, ac yn gellweiriog dwedodd "is it because I'm black?" trodd yr un arall mewn siom a deud na na a cherdded i ffwrdd.

Mae rhyw fath o imiwnedd ble mae pobl yn i defnyddio eu hil neu rhywioldeb fel rheswm.

Enghreifftiau da o hyn yw, os ydych yn gwrth-Israel, cewch eich galw'n Anti-Semitic, neu yn meiddio gwneud hwyl ar ben Islam, chi'n hiliol, er ei fod ddim yn hil yn y lle cyntaf.

Tydi hyn ddim yn digwydd yn unig gyda duon, ond efo pobl gwyn. Cewch enghraifft o hyn mewn ardaloedd ble mae canran uchel o duon, a rhai gwynion yn digon parod i'w galw nhw'n hiliol.

Gyda Nick Griffin a'r BNP, credaf y dylai cael leisio ei farn ond ddim annog yr un syniad i bobl eraill.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Nôl

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron