Nick Griffin ar Radio 5

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Nick Griffin ar Radio 5

Postiogan SbecsPeledrX » Iau 19 Chw 2004 4:31 pm

Mae'r boi newydd fod ar y radio yn siarad am ei blaid. Os dech chi eisiau cwyno am y ffaith fod ffasgydd ync ael mynd ar y BBC i ledaenu ei gasineb yna cliciwch fama ....

http://www.ofcom.org.uk/contact_ofcom/tv_radio_concern

Roedd y ffasgydd diawl yn siarad am tua 4.20 heddiw.

A gwarth ar yr undebau technegol am ddarlledu'r twat.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan SbecsPeledrX » Iau 19 Chw 2004 4:32 pm

Er fod y ddogfen cwyno yn uniaith saesneg dybiwn i fod berffaith hawl gennych i'wm lenwi yn y Gymraeg achos does neb yn ateb y rhif ffon cwyno cymraeg. 02079813042
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Dielw » Gwe 20 Chw 2004 9:23 am

Mae o efo plaid ma pobl yn fotio am felly pam na chaiff o siarad yn gyhoeddus fel pawb arall? Democratiaeth de? Os mae pobl digon twp i fotio dros y boi, problem nhw...um...ni..di hynny.

Mae o'n byw lawr y ffordd i fi adre. Nath y New Statesman sgwennu erthygl hollol bolycs am Trallwm - deud bod na pyb lle roedd y locals yn gwrando i ganeuon marchio Almaenig ac yn neud Nazi salutes (as if) - mae'n debyg achos bod o'n byw gerllaw! Anodd yw pardduo enw Trallwm ond mae nhw wedi llwyddo!
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan RET79 » Gwe 20 Chw 2004 7:17 pm

Mae o efo plaid ma pobl yn fotio am felly pam na chaiff o siarad yn gyhoeddus fel pawb arall?


Yn union, beth yw'r obsesiwn sgen y bobl ma hefo sensro pobl mae nhw'n anghytuno hefo?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan garynysmon » Sad 21 Chw 2004 3:54 pm

Mewn cymdeithas ddemocrataidd, allwch chi ddim mynd allan a sensro neb, ddim ots pa mor eithafol eu safwbyntiau. Falle wir fod llawer o bobl wedi gweld Plaid Cymru, yn ogystal a sawl plaid arall, ar y cychwyn cyntaf, yn eithafol. Nid mod i'n cymharu'r Blaid efo'r BNP mewn unrhyw ffordd wrth gwrs.
Os mae pobl yn cytuno efo'r BNP ddigon i bleidleisio drostynt, yna eu problem nhw yw hynny. Swyddogaeth y pleidiau eraill yw perswadio pobl fel arall.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan jimkillock » Sad 21 Chw 2004 8:22 pm

Ond mae sensro yn bodoli ar bynciau fel hyn yn barod - ac am resymau digon call.

Er enghraifft: allwch chi ddim cyhuddo neb o greu conspiraci neu lygredd heb fod yn barod o amddiffyn eich hun mewn llys .. sy'n fel arfer yn ffarfrïo'r person (hy "libel")

Enghraifft arall: allwch chi ddim dweud bod hil neu cymuned arbennig ar fai am hyn neu'r llall mewn termau tebyg i bryfocio pobl i ymosod arnynt. (hy "incitement of racial hatred")

Enghraifft arall: allwch chi ddim ymosod ar enw'r Duw Cristnogol (hy "blasphemy", sy dal yna yng Gnhfraith Prydain)

Mewn unrhyw gymdeithas y gwirionedd yw bod terfynnau ar y rhyddid i siarad yn gyhoeddus. Yny gorffenol, enw'r Brenin a Duw oedd y prif achosion, rwan, enw'r unigolyn a rhannau cymdeithas sy'n bwysig yng olwg y Gyfraith.

Dwi ddim o reidrwydd gweld problem efo hyn. er dwi'n teimlo bod libel yn achosi problemau i'r Wasg erbyn hyn yn fwyaf. Ond dwi ddim am amddiffyn hawl Nic griffin i berswadio pobl i ymosod ar bobl du - fel oeddynt rhai flynyddoedd yn ôl a buasaent rwan os cafon nhw'r cyfle
Rhithffurf defnyddiwr
jimkillock
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Gwe 15 Tach 2002 10:54 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan huwwaters » Sad 21 Chw 2004 11:53 pm

Dwi'm di clwed be ddwedodd o, ond ar y llaw arall does gan neb yr hawl "to incite hatred" o unrhyw fath.

Dyle nhw o leiaf ddim ei wneud yn fyw, ac unrhyw beth annerbyniol cael ei wahardd. Tydw i ddim yn credu dylai neb cael eu sensro, ond dylai neb cefnogi ymdeimlad o gasineb.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan RET79 » Sul 22 Chw 2004 12:11 am

Y broblem yw fedri di ddim cael dadl gall am hil, neu rywioldeb etc. gan fod pawb am y cyntaf i dy alw yn hiliol neu'n homophobic.

Mae hyn yn golygu fod llawer o bynciau yn cael eu sgubo dan y carped - dwi o'r farn mae llawer o bethau mae pobl o hil neu rywioldeb arall yn ei wneud mewn cymdeithas ddim yn bethau neis ond os dwi'n trio cael trafodaeth dyw o byth yn digwydd gan fod pobl yn byhafio OTT i ddileu'r sgwrs. Dwi ddim yn meddwl pam fod rhai pobl mewn cymdeithas yn cael eu gwarchod fel hyn tra mae eraill yn agored i bob math o gyhuddiadau heb gwestiwn.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Sul 22 Chw 2004 12:16 am

O dan y diffiniad yn y geiriadur, ti yn hiliol a homoffobic, RET79. Ond dw i ddim yn galw pobl yn hynna fel 'insult', ond fel disgrifiad o'i barn nhw.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan RET79 » Sul 22 Chw 2004 12:33 am

Macsen a ddywedodd:O dan y diffiniad yn y geiriadur, ti yn hiliol a homoffobic, RET79. Ond dw i ddim yn galw pobl yn hynna fel 'insult', ond fel disgrifiad o'i barn nhw.


Dwi ddim yn meddwl fod o'n iawn fod rhai grwpiau ethnic a rhai grwpiau lleiafrifol fel hoywon etc. yn 'exempt from question and criticism' tra mae eraill mewn cymdeithas yn cael eu barnu'n hallt tro ar ol tro.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 35 gwestai

cron