Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod hyn ychydig yn anheg efo'r BBC. Mae lleoliadau'r rhaglen yn cael eu hysbysebu wythnosau o flaen llaw, a mae gan unrhywun hawl i fod yn rhan o'r gynulleidfa. A fel arfer, mae nhw'n cysylltu gyda'r pleidiau gwleidyddol lleol, a grwpiau pwyso fel CYI, Cymuned etc., i estyn gwahoddiad iddyn nhw i fynychu'r recordiad. Efallai mai di-faterwch pobol Aber sydd ar fai yn fama, a nid y BBC?
Dyw hyn ddim yn wir.
Mi wnath y Blaid gysylltu a'r rhaglen yn 'cwyno' nad oedd gwahoddiad wedi dod mas i'r Blaid i ddanfon cynrychiolwyr (fel Pawb a'i Farn yn neud). Wedodd Alison Fuller (neu beth bynnag yw enw'r fenyw sy yng ngofal ymchwilio QT) fod dethol a dewis y gynulleidfa yn broses bron yn wyddonol a theg ac fod traws doriad eang o bob lliw, llun, cefndir gwleidyddol, ayb yn mynychu i gael cydraddoldeb. Bolycs. Pan o'n i'n gweithio yn yr Undeb Myfyrwyr flynyddodd yn ol mi nath hi gysylltu yn uniongyrchol a fi yn estyn gwahoddiad i fi a tua deg o fyfyrwyr i fynychu.
Serch hynny mae'r cwyn am gwestiynnau ynghylch materion Cymreig yn ddigon teg. mi wnath criw da o blaid cymru gyfrannu nithwr - yn gall fyd
, ond rodd rhaid iddyn nhw gyfrannu at bynciau a osodwyd trwy gwestiwn. fi'n gwbod y bu iddyn nhw gynnig cwestiynnau Cymreig, neu rhai oedd a naws Cymreig, ond mae'n amlwg y bu iddyn nhw gael eu gwrthod.
Laura Ann Jones yn pathetic druan. Odd e'n amlwg fod Dimbelby yn twmlo treni drosti achos gath hi fawr ddim o gyfraniadau erbyn diwedd. Odd Dims yn dueddol o anwybyddu Darcus How hefyd, o'n i'n meddwl, a Weston yn hoff oi lais ei hunan.