Postiwyd: Gwe 20 Chw 2004 12:58 pm
Cardi Bach a ddywedodd:Garnet Bowen a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod hyn ychydig yn anheg efo'r BBC. Mae lleoliadau'r rhaglen yn cael eu hysbysebu wythnosau o flaen llaw, a mae gan unrhywun hawl i fod yn rhan o'r gynulleidfa. A fel arfer, mae nhw'n cysylltu gyda'r pleidiau gwleidyddol lleol, a grwpiau pwyso fel CYI, Cymuned etc., i estyn gwahoddiad iddyn nhw i fynychu'r recordiad. Efallai mai di-faterwch pobol Aber sydd ar fai yn fama, a nid y BBC?
Dyw hyn ddim yn wir.
Mi wnath y Blaid gysylltu a'r rhaglen yn 'cwyno' nad oedd gwahoddiad wedi dod mas i'r Blaid i ddanfon cynrychiolwyr (fel Pawb a'i Farn yn neud). Wedodd Alison Fuller (neu beth bynnag yw enw'r fenyw sy yng ngofal ymchwilio QT) fod dethol a dewis y gynulleidfa yn broses bron yn wyddonol a theg ac fod traws doriad eang o bob lliw, llun, cefndir gwleidyddol, ayb yn mynychu i gael cydraddoldeb. Bolycs. Pan o'n i'n gweithio yn yr Undeb Myfyrwyr flynyddodd yn ol mi nath hi gysylltu yn uniongyrchol a fi yn estyn gwahoddiad i fi a tua deg o fyfyrwyr i fynychu.
Ella bod petha wedi newid erbyn rwan, ond mi ydw i'n gwbod eu bod nhw wedi bod yn cysylltu efo grwpiau pwyso lleol yn y gorffenol. Ond mi ydw i'n teimlo bod pobol yn bod ychydig yn anheg. Mae lleoliadau'r rhaglenni'n cael eu hysbysebu 3 wythnos ymlaen llaw, ac mae gwahoddiad agored i unrhyw un fynychu. Mi ges i gyfle i fod yn y gynulleidfa y tro ola' oedd y rhaglen yng Nghaernarfon.