Ystadegau diddorol am farwolaethau yng Ngogledd Iwerddon:

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ystadegau diddorol am farwolaethau yng Ngogledd Iwerddon:

Postiogan pogon_szczec » Sad 06 Maw 2004 9:47 pm

Mae'r ffigyrau i gyd yn dod o'r wefan CAIN, o waith Malcolm Sutton "Database of Deaths"

Nifer o Babyddion a laddwyd yng Ngogledd Iwerddon gan:

Gweriniaethwyr parafilwrol 446
Gwasanaethau diogelwch 304

Nifer o sifiliaid pabyddol a laddwyd gan:

Gweriniaethwyr parafilwrol 227
Gwasanaethau diogelwch 164

Nifer o aelodau mudiadau parafilwrol gweriniaethol a lladdwyd gan:

Gweriniaethwyr parafilwrol 170
Gwasanaethau diogelwch 140

(Mae mudiadau gweriniaethol yn fwy llwyddiannus yn lladd eu gilydd na'r fyddin Prydeinig): :lol: :lol: :lol: :lol: :lol:

Nifer o blant a laddwyd gan:
Gweriniaethwyr parafilwrol 61
Gwasanaethau diogelwch 39

Yn son am y Provos yn unig fan hyn, y maent wedi'u lladd:
Targedau damweiniol 151
(saethu'r person anghywir)
Bomio eiddo 215
Llofruddiaethau sectarianaidd 133
Sifiliaid ym Mhrydain 46
Informers 64


Diddorol hefyd bod 50 aelod o fudiadau parafilwrol gweriniaethol wedi marw mewn feuds mewnol :crio:
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Macsen » Sad 06 Maw 2004 10:05 pm

Pogon a ddywedodd:(Mae mudiadau gweriniaethol yn fwy llwyddiannus yn lladd eu gilydd na'r fyddin Prydeinig): :lol: :lol: :lol: :lol: :lol:


Pogon, ti'n gi sal iawn a ddylsai gael ei roi i lawr.

Beth bynnag, pam dechrau edefyn arall am hyn? Pam ddim jyst tackio hwn mlaen i'r Tower of Babel size Bobby Sands edefyn?
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan pogon_szczec » Sad 06 Maw 2004 10:33 pm

Macsen a ddywedodd:
Beth bynnag, pam dechrau edefyn arall am hyn? Pam ddim jyst tackio hwn mlaen i'r Tower of Babel size Bobby Sands edefyn?


Am dy fod yn gymeredolwr, sdim ots i fi os wyt ti'n symud e i'r 'Tower of Babel size Bobby Sands edefyn'.

O'n i'n meddwl bod yr edefyn hynod o ddiddanol na yn mynd yn rhy hir ..............
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan gwern » Sad 06 Maw 2004 10:44 pm

Pogon lle ti yn gael yr ystadegau ma o. Pam wy ti yn meddwl pogon mae yr IRA efo gymaint o gefnogaeth yn ardaloedd pabyddion.
Rhithffurf defnyddiwr
gwern
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 500
Ymunwyd: Maw 27 Ion 2004 3:12 pm

Postiogan pogon_szczec » Sad 06 Maw 2004 11:31 pm

gwern a ddywedodd:Pogon lle ti yn gael yr ystadegau ma o.


Edrych ar dop y tudalen.

Pam wy ti yn meddwl pogon mae yr IRA efo gymaint o gefnogaeth yn ardaloedd pabyddion.


Ti'n gofyn i'r person anghywir.

Mae'n drist iawn.

Pam na'th 43% o Almaenwyr bleidleisio dros y Nasiaid?
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Macsen » Sul 07 Maw 2004 1:21 am

Wir, dwi ddim yn gwybod digon am y sefyllfa yn Iwerddon. Ond pa bynnag reswm sydd gan y pobl yma am chwythu ei gilydd i deilchion, bydd rhaid iddo fod yn uffar o un da i fy mherswadio i.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan pogon_szczec » Sul 07 Maw 2004 9:42 am

Macsen a ddywedodd:Wir, dwi ddim yn gwybod digon am y sefyllfa yn Iwerddon. Ond pa bynnag reswm sydd gan y pobl yma am chwythu ei gilydd i deilchion, bydd rhaid iddo fod yn uffar o un da i fy mherswadio i.


Sdim rheswm da Macsen.

Ffanatigiaeth, casineb hurtrwydd ac anwybyddiaeth yw'r rheswm ar yr ochr gwereniaethol a theyrngarol.

Jyst oherwydd bod typsinod a ffanatigs yn fodlon marw dros achos, dyw hynny ddimyn meddwl bod yr achos yn iawn.

Fel dwi di gweud o'r blaen, dwi ddim yn meddwl bod un ochr Oren/Gwyrdd yn well na'r llall, mae'n ddigon bosibl cytuno i anghytuno heb ddefnyddio trais o gwbl.
Play Up Pompey !!!
pogon_szczec
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 755
Ymunwyd: Sad 09 Awst 2003 10:41 pm
Lleoliad: szczecin, gwlad pwyl

Postiogan Eamon » Sul 07 Maw 2004 10:36 am

Macsen a ddywedodd:Beth bynnag, pam dechrau edefyn arall am hyn? Pam ddim jyst tackio hwn mlaen i'r Tower of Babel size Bobby Sands edefyn?


Syml Macsen. Addasiad ydi hwn o tacteg Pogon o newid ei stwff ar ol i pobl ateb nhw. Mae o wedi cael ateb i llawer o stwff yma ar y Babel size Bobby Sands edefyn. Felly mae o yn dechra eto. Felly efo y risc o borio pobl i farw dwi yn dyfynnu fy hun o'r edefyn Bobby Sands.


Eamon a ddywedodd:Dwi dim yn cymyd rhan yn dadl Pogon am Nazis a IRA – wedi deud digon yn barod. Distraction ydi o am bod dydi dadlau eraill Pogon dim yn gryf. Mae Pogon yn gneud cyfeiiad at IRA a Nazis – ond dim yn deud dim am cysylltiad lot nes Toris efo Nazis a Franco cyn Rhyfel Byd 2, neu cysylltiad Fine Gael efo Nazis neu Royal Family Brits efo Nazis. Son dim am IRA yn curo y Blueshirts oddi ar strydoedd Iwerddon.

Dwi efo rhywbeth i ddeud am numbers game Pogon. Pan mae Brits yn chwarae'r numbers game mae nhw pob tro yn dechrau yn 69 fel tasa hanes Iwerddon wedi dechrau yn 1969. Os ydan ni yn dechra cyn y Black & Tan War, neu cyn y Fenian Uprising, neu cyn arwr Pogon - Cromwell, neu yn unrhyw le arall bron rydym yn gweld mai'r Brits sydd wedi lladd y mwyaf o ddigon.

Hyd yn oed o chware numbers game Pogon, so what? Nath yr Americans ladd lot mwy o Germans na vice versa (y rhan fwya o lot yn civilians). Dydi Pogon ddim yn deud mai'r Germans oedd yn iawn felly.

Hefyd mae numbers game Pogon yn anonest. 198 o Catholics caeth eu lladd gan PIRA - rhai trwy damwain (be mae USA yn galw yn friendly fire) rhai o fwriad - informers, judges etc.

Mae y rhan fwya o pobl gafodd eu lladd gan y Brits yn civilian - i gyd just yn Catholics.

Lladdodd UDA/UFF/UVF etc mwy na 1000 o pobl - Catholics i gyd bron. Gan bod y Brits yn rhedeg paramilitaries Protestant o canol yr 80au ymlaen y Brits sy yn cyfrifol am lot o rhain.

Hefyd mae ffigyra Pogon am IRA yn lladd IRA yn stupid. Pobl yn chwythu eu hunain i fyny trwy damwain, hunger strikers etc ydi rhan fwya o rhain.

Mae ffigyra fi wedi eu cymryd o 'Lost Lives' McKitterick, Kelters, Feeney a Thornton. Yr unig casgliad hollol non biased o ffeithiau am marwolaethau yn Gogledd Iwerddon.

Un peth bach arall - os ffyliad ydi'r IRA, sut nath ni cadw 50,000 o Brits, UDR, RUC, Special Forces, FRU, MI6 etc yn pinned down yn eu steel reinforced bases am 25 blynedd? Mae'n rhaid bod Brits yn mwy o ffyliad





Eamon a ddywedodd:
Pogon a ddywedodd:Nid camarweiniol yw fy ffigyrau o bell ffordd. Dod o'r wefan CAIN maen nhw, o'r Database of Deaths
Y FFAITH mae'r provos wedi'u lladd mwy o Gatholigs na'r fyddin Prydeinig yn dangos nad oes parch da chi tuag at neb, hyd yn oed y bobl ych chi i fod i 'amddiffyn'.

Mae byddin Brits + RUC wedi lladd 164 civilian Catholic. Mae PIRA wedi lladd 198. Rhai o rhain yn informers, rhai yn building contractors, prison warders, judges etc a rhai mewn damwain. Beth oedd y rheswm o'r 164 - nifer o rhain yn plant?


Pogon a ddywedodd:Diddorol iawn hefyd yw'r FFAITH bod dy arwyr hynod o competent dewr wedi'u lladd mwy o'u cyd-derfysgwyr gweriniaethol na'r so-called loyalist death squads.



Ti yn cynwys pobol fel Frank Stagg nath farw ar hunger strike neuSeamus Harvey neu Gerald McGlynn gafodd eu lladd gan eu bom nhw eu hunain. Math yma o sefyllfa ydi'r rhan fwya o lawer o'r 149 yn y categori yma.

Mae'n posibl dadlau ar stretch bod na IRA sy yn gyfrifol - er byddai teulu a ffrindiau pobl hyn ddim yn gweld o fel yna.

Ond os ti yn gneud y dadl yma, lle mae hyn yn gadael ti efo Brits ac Americans yn Gulf War 1 (a 2 efallai). Nath nhw ladd lot mwy o eu hunain a'u gilydd na wnaeth yr Iraqis. Gollwng cluster bombs ar ben eu gilydd rhan amlaf. Hefyd nath mwy marw trwy damwain - damwain helicopter etc na nath yr Iraqis lladd yn GW 1. Wyt ti felly yn gyrfod lluchio yr un insults atyn nhw. Os ti yn lluchio y stwff yma at PIRA rhaid i ti cymryd o efo Iraq hefyd.


Pogon a ddywedodd:Gobeithio dy fod yn falch o'r casgliad rhyfedd o ffyliaid a ffasgwyr disfunctional sy'n dy gefnogi fan hyn.

Byddwn yn meddwl 'cymorth' dy ffrindiau anwybyddus yn niweidio dy achos aflan yn fwy na ymosodiadau dy elynion.

Dylet ti fod yn gyfarwydd a'r sefyllfa na am fod gweriniaethwyr mor hoff o asasinato'u gilydd/chwythu eu hunain lan.



Dydi lluchio insults byth yn cymyd lle dadlau yn gall.
Rhithffurf defnyddiwr
Eamon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 126
Ymunwyd: Mer 28 Ion 2004 7:33 pm
Lleoliad: Dros y Dwr

Postiogan Eamon » Sul 07 Maw 2004 10:45 am

Os ydi rhywun arall efo diddordeb Pogon efo Body Counts ewch i http://www.iraqbodycount.net/bodycount.htm
Neu
http://pubpages.unh.edu/%7Emwherold/
Mae rhain braidd yn fawr.
Rhithffurf defnyddiwr
Eamon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 126
Ymunwyd: Mer 28 Ion 2004 7:33 pm
Lleoliad: Dros y Dwr

Postiogan Eamon » Sul 07 Maw 2004 9:32 pm

pogon_szczec a ddywedodd:
Macsen a ddywedodd:Wir, dwi ddim yn gwybod digon am y sefyllfa yn Iwerddon. Ond pa bynnag reswm sydd gan y pobl yma am chwythu ei gilydd i deilchion, bydd rhaid iddo fod yn uffar o un da i fy mherswadio i.


Sdim rheswm da Macsen.

Ffanatigiaeth, casineb hurtrwydd ac anwybyddiaeth yw'r rheswm ar yr ochr gwereniaethol a theyrngarol.

Jyst oherwydd bod typsinod a ffanatigs yn fodlon marw dros achos, dyw hynny ddimyn meddwl bod yr achos yn iawn.

Fel dwi di gweud o'r blaen, dwi ddim yn meddwl bod un ochr Oren/Gwyrdd yn well na'r llall, mae'n ddigon bosibl cytuno i anghtuno heb ddefnyddio trais o gwbl.


Dyma ydi analysis Pogon o'r rhesymau am rhyfel yn Iwerddon - am bod Gwyddelod yn hurt, anwybodus etc, etc. Mae hyn yn analysis handy i'r Brits - tydi y problem yn dim i neud efo nhw - just anlwcus i fyw nesa at Micks anwybodus, twp, fanatical - you poor, poor lambs.

Felly dim eisiau i chi poeni am ymosod y Normans, y plantations, dwyn tir y Catholics i gyd bron a'i roi i Protestants, y penal laws, Cromwell, difa'r 1798 Rebellion, difa senedd Iwerddon, y gentleman's genocide 1847 - 1849, lladd arweinwyr 1916, y Black & Tans, rhwygo gwlad yn dau, gadal i Stormont sathru hawliau Catholics, saethu'r Civil Rights Movement oddi ar strydoedd y Gogledd, yr SAS, rhoi arfau i a rheoli UFF a UVF a'u gyru i lladd Catholics. Handy ofnadwy.

Zero culpability i Brits, 100% culpability i Gwyddelod.

Unig beth ydi Pogon sy'n credu y nonsens yma - di llywodraeth Brits ddim. Os bysa nhw fydda na ddim Cytundeb y Groglith, dim rhyddhau POWs yn fuan, dim newid RUC am PFNI, dim chwalu UDR, dim cross bordef bodies - dim byd.

Tyfa fyny Pogon.

Pogon a ddywedodd:mae'n ddigon bosibl cytuno i anghtuno heb ddefnyddio trais o gwbl.


Mmm dwi dim yn siwr bod dwi isio cymyd y pregeth yma gan pobl sy wedi bod mewn rhyfel efo rhywun neu rhywun arall am y rhan fwya o'r 700 mlynedd dwethaf.
Rhithffurf defnyddiwr
Eamon
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 126
Ymunwyd: Mer 28 Ion 2004 7:33 pm
Lleoliad: Dros y Dwr

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai

cron