Tudalen 1 o 1

Y ddeddf Llys Goruchaf bresennol.

PostioPostiwyd: Llun 08 Maw 2004 12:38 pm
gan Ffinc Ffloyd
Mae yna rywbeth yn ddychrynllyd iawn, iawn am hyn - mae'r llywodraeth yn bygwth lleihau grymoedd y Lords a gwthio'r ddeddf trwodd hyd yn oed os ydy'r Lords yn ei hatal hi. Dyfyniad gan Peter Hain (Cont #3, ar ol Blair a Blunkett) ynd dweud nad oes gan y Lords hawl trio stopio 'Flagship Bill'.

(I'r rhai sy ddim yn gwybod, gyda llaw, mae'r ddeddf yn dweud y bydd llys goruchaf newydd yn cymryd lle'r Lords, ond a fydd yn atebol i'r Senedd; bydd tribiwnlys newydd yn cael ei apwyntio i drafod materion immigration a fydd penderfyniadau y llys yna ddim yn gallu cael eu herio gan adolygiad barnwrol.)

Mae hyn yn beth anghredadwy bron, hyd yn oed gan lywodraeth control freak Blair - y byddai unrhyw lywodraeth yn meiddio trio ffidlan efo cyfansoddiad anysgrifenedig Prydain yn y fath fodd. Mae rheolaeth y gyfraith a gwahaniad pwerau yn ddau syniad hollol hanfodol i gyfansoddiad gwlad - fedar y llywodraeth ddim gwneud hyn. Ond mae nhw.

Mae hyn yn bendefyniad llawer, llawer mwy difrifol na ffioedd prifysgol. Os pasith y ddeddf yma, a fod y Lords ddim yn gallu gwneud dim byd am y peth, mi fydd yna greisis cyfansoddiadol. Alla i ddim gor-ddeud faint mor ddifrifol ydi o.

PostioPostiwyd: Llun 08 Maw 2004 6:43 pm
gan Chwadan
Ond sgan yr Arglwyddi fawr o rym eniwe - ma'r llywodraeth yn pasio pob un deddf a fynnon nhw. Oce, ma'r Arglwyddi yn cael rhwystro pasio deddf am gyfnod o amser, ond does dim rhaid cymyd sylw o'u hargymhellion nhw. Felly dim y ffaith fod y peth yn cael ei basio yn erbyn dymuniadau'r Arglwyddi sy'n bwysig, ond y ffaith ei fod o'n mynd i gael ei basio yn sydyn a heb ddigon o sgrwtini.

Ar y llaw arall, er bo fi'm yn meddwl fod y peth yn iawn, ma gan y llywodraeth y gallu cyfansoddiadol i basio deddfau drwy'r Parliamentary Act. Ma hyn er mwyn galluogi deddfa i gael eu pasio yn fuan ac heb sgrwtini, sydd ddim yn anemocrataidd nac anghyfansoddiadol yn anffodus.

Dwi'm yn meddwl fod mwyafrif y 12(?) barnwr uchaf yn cytuno efo'r syniad, ac mi fydd y llys yn gorfod ufuddhau i'r Senedd. Ond fydd o ddim yn cymyd lle Ty'r Arglwyddi, dim ond trosglwyddo dyletswyddau Arglwyddi'r Gyfraith o Dy'r Arglwyddi. A hwre i gael gwared o swydd yr Arglwydd Ganghellor uda i. Dwi'm yn meddwl fod y syniad yn ddrwg i gyd (er fod angen dipyn o waith arno fo), mond y ffaith fod y llywodraeth mor awyddus i'w basio fo. Be ma hyn yn ddangos ydi gwallau'r cyfansoddiad Prydeining. Ma gan y llywodraeth y gallu i neud fwy neu lai fel ag y mynnon nhw, ond fod na ryw gynsail democrataidd a "theg" yn bodoli yma ers cyn cof. Ma llywodraeth Blair yn defnyddio'r grymoedd yma'n uffernol a mae o'n gwilydd, ond does na rioed ddim byd di bod i rwystro llywodraethau rhag newid y cyfansoddiad, e.e. mi arweiniodd penderfyniad i gynnal refferndwm ar ddatganoli at newidiadau cyfansoddiadol mawr (a waeth i neb drio deud mai dewis y bobl oedd hynny, y llywodraeth oedd yn rhoi'r gallu i ni ddewis).

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 10:12 am
gan Cwlcymro
Dwi'n meddwl bod unrhyw ddeddf sy'n lleihau pwer Ty'r Arglwyddi yn wych. Ddylsa'r ffycars ddim bod yna yn y lle cynta.

PostioPostiwyd: Maw 09 Maw 2004 12:40 pm
gan Ffinc Ffloyd
Awgrym: Darllen y ddeddf. Darllen y ddeddf eto. Meddwl be mae'r ddeddf yn feddwl. Wedyn meddwl os bysa chdi'n deud hynna.

Di hyn DDIM BYD i wneud efo'r ddadl y dylai'r ail siambr fod yn etholedig. Di'r system bresennol ddim yn iawn, ond be mae y ddeddf yn effeithio arni ydi'r darn llysol o Dy'r Arglwyddi, ddim y darn gwneud cyfreithiau.

PostioPostiwyd: Iau 11 Maw 2004 1:55 pm
gan Cwlcymro
Dwi heb ddarllen y ddedf naddo Ffinc. Ond be ydi'r broblam efo rhannu'r llysoedd a'r system ddeddfwrio? Fel ti'n deud dy hun ma gwahanu pwerau yn hanfodol. Ar y funud ma'r bobl sy'n cymeryd rhan yn gwneud y cyfreithiau (Yr Arglwyddi Cyfreithiol) hefyd yn dyfarnu arnynt. Rhywbeth dwi ddim yn cytuno gyda o gwbwl.

Dwi'm yn cin ar y syniad o 'atebol i'r senedd' ddo. Ni ddylsai Uchel Lys fod yn atebol i neb (heblaw Llys Ewrop ar faterion Ewrop). Be ma hynnu'n olygu Ffinc:
Fydd gan y Senedd yr hawl i newid penderfyniada y Llys?
Fydd gan y Senedd yr hawl i ddiswyddo Barnwr am benderfyniad nad ydynt yn cytuno efo?
Esbonia be ma'r ddeddf yn olygu drwy 'atebol', achos os ydi'r un o'r ddau gwestiwn uchod yn wir, yna dwi'n cytuno fod hi'n uffernol o ddeddf.

PostioPostiwyd: Gwe 12 Maw 2004 12:20 pm
gan Ffinc Ffloyd
Fedra i'm deud sut y bydd y ffaith y bydd y llys yn atebol i'r senedd yn gweithio in practice, achos dwi'm yn gwbod - cwbl welais i ar y mater yna oedd darn yn y Guardian oedd yn deud y bydda fo'n atebol. Dwi'n cymryd y bydd o'n golygu y bydd gen y llywodraeth hawl i gymryd pwerau oddi ar y llysoedd fel y mae nhw'n neud efo'r tribiwnlys immigration newydd, a hefyd y bydd y llys ddim yn gallu herio be mae'r senedd yn wneud. Eek.

PostioPostiwyd: Gwe 12 Maw 2004 1:40 pm
gan Cwlcymro
Dydi llys ddim yn cal herio beth ma'r senedd yn ei wneud rwan. Ti'n gwybod hynnu. Ma'n amhosib herio y senedd (heblaw am bethau Ewrop, ond hyd yn oed wedyn, ops di'r senedd yn glir ac yn expressly torri deddf Ewrop, fedrith y llysoedd ddim ei herio)