Ydi hi' n anheg ar yr illegal immigrants?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydi mewnfudwyr anghyfreithlon yn ei chael hi' n anodd ar y cyfan?

Ydi
6
46%
Na
5
38%
Weithiau
2
15%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 13

Postiogan RET79 » Sad 03 Ebr 2004 4:54 pm

1, Mae' r illegal immigrants yn aml yn denig o amgylchiadau ofnadwy, dydi Saeson ddim- eisiau byw mewn lle a golygfa neis mae nw.

2, Dydi' r illegal immigrants ddim yn gallu bwlio neb oddi ar y farchnad dai am bod nhw ry dlawd- gyrfod cael y fflatiau does neb eisiau.

3, Mae illegal immigrants yn weld i ddysgu Saesneg lot amlach na be mae Saeson yn dysgu Cymraeg.

4, Nid yw Saesneg yn iaith lleafrifol sydd yn debygol i gael ei ladd gan mewnfudwyr.


1. sori, ddim yn deall beth sgen hynna i'w wneud hefo hyn
2. mae digon o bobl di-gartref ar gael yn ein gwlad fel mae hi fuasai'n gwerthfawrogi'r fflatiau
3. mae'r pwynt yna'n nonsens. Mae'n angenrheidiol dysgu Saesneg ym Mhrydain. Nid yw hi'n angenrheidiol dysgu Cymraeg yng Nghymru (yn anffodus)
4. Na, ond mae 'identity' y cymunedau Saesneg yn cael eu newid yn syfrdanol. Mae'n siwr fuaset ti'n disgrifio y Saeson yma'n hiliol ond eto ti'n meddwl fod o'n iawn i bobl Cymraeg fod yn anhapus os yw Saeson yn symud fewn i newid 'identity' eu cymunedau nhw.

Beth am fod yn gyson Lowri?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Lowri Fflur » Sul 04 Ebr 2004 2:22 am

RET79 a ddywedodd:
1, Mae' r illegal immigrants yn aml yn denig o amgylchiadau ofnadwy, dydi Saeson ddim- eisiau byw mewn lle a golygfa neis mae nw.

2, Dydi' r illegal immigrants ddim yn gallu bwlio neb oddi ar y farchnad dai am bod nhw ry dlawd- gyrfod cael y fflatiau does neb eisiau.

3, Mae illegal immigrants yn weld i ddysgu Saesneg lot amlach na be mae Saeson yn dysgu Cymraeg.

4, Nid yw Saesneg yn iaith lleafrifol sydd yn debygol i gael ei ladd gan mewnfudwyr.


1. sori, ddim yn deall beth sgen hynna i'w wneud hefo hyn
2. mae digon o bobl di-gartref ar gael yn ein gwlad fel mae hi fuasai'n gwerthfawrogi'r fflatiau
3. mae'r pwynt yna'n nonsens. Mae'n angenrheidiol dysgu Saesneg ym Mhrydain. Nid yw hi'n angenrheidiol dysgu Cymraeg yng Nghymru (yn anffodus)
4. Na, ond mae 'identity' y cymunedau Saesneg yn cael eu newid yn syfrdanol. Mae'n siwr fuaset ti'n disgrifio y Saeson yma'n hiliol ond eto ti'n meddwl fod o'n iawn i bobl Cymraeg fod yn anhapus os yw Saeson yn symud fewn i newid 'identity' eu cymunedau nhw.

Beth am fod yn gyson Lowri?


1, Bob dim i wneud efo fo dwi ddim yn deall syd ti ddim yn deall hwn.

2, - "Homlessness is not caused by a shortage of empty flats but by a multitude of different social and personal problems. The U.k' s homless population is not being put at a disadvantage because a small number of homes are being used to re- house asylum seekers" (Yn y Big Issue)

3, Wrth gwrs bod illegal immigrants yn dysgu Saesneg yn fwy aml na beth mae Saeson yn dysgu Cymraeg. Mae' r Cymry yn medru Saesneg. Dydi Saeson ddim yn medru pa bynag iaith leafrifol mae' r illegal immigrant yn siarad. Mae illegal immigrants yn deall bod nw mewn gwlad arall dydi llawer o Saeson ddim.

4,Syd mae identity y cymunedau yn newid? newid i fod yn fwy o gymysgedd? Does dim bygythiad o' r iaith Saesneg yn marw nagoes?
Does bosib dy fod yn awgrymu bod yr holl bobl ma o dras ethnic gwahanol sy' n byw yn y cymunedau yn illegal immigrants beth bynag?
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Sul 04 Ebr 2004 1:35 pm

1. Lowri fedr ni ddim helpu pawb sydd hefo trafferth yn y byd trwy eu gadael i ymgartrefu yma am ddim
2. Mae 'bwlio' pobl oddi ar y farchnad dai yn gyfreithlon. Os oes fflatiau does neb angen yna beth am dynnu nhw lawr neu rhoi defnydd arall iddyn nhw sydd o fudd i'r gymdeithas
3. Mae Saesneg yn iaith swyddogol yng Nghymru. Nid oes rheidrwydd ar Saeson i ddysgu Cymraeg yng Nghymru. Does dim gofyn i Saeson ddysgu ieithoedd lleiafrifol y mewnfudwyr anghyfreithlon yn eu gwlad eu hun, ti'n siarad nonsens.
4. Felly ti ddim yn meddwl fod identity nifer o ddinasoedd Lloegr heb newid ar ol i filiynau o bobl o Pakistan, India, China etc. symud i fewn? Mae'r ardaloedd yn newid yn syfrdanol. Mae mwy i 'identity' ardal na iaith Lowri. Mae pobl yn dod a'u diwylliant a'u crefydd hefo nhw sydd yn gweddnewid yr ardal mae nhw'n symud iddo. Does dim syndod felly fod amryw o Saeson yn teimlo'n fwy gartrefol mewn stad dai dosbarth canol yn Gaernarfon - yr unig downer yw fod pobl yn siarad Cymraeg ond mae nhw'n medru Saesneg so beth yw'r ots?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Lowri Fflur » Llun 05 Ebr 2004 12:40 am

1,Dwi ddim yn dweud y dylid helpu pawb yn y byd drwy ei gadael i mewn i Brydain- dwi' n siwr nad oes gan llawer o bobl awydd gadl eu gwlad. Son ydw i am yr illegal immigrants sydd yn dod mewn i' r wlad lle mae trafferthion. Dwi ddim yn cynnig y dylid nw ddod yma i wneud dim- i weithio de.

2,Dwi ddim yn gweld rheswm pam y dylid tynnu fflatiau pam mae yna bobl y gellid ei llenwi.

3, Lle dwi wedi dweud y dylid Saeson ddysgu ieuthoedd lleafrifol y mewnfudwyr?

4, Dydi y nifer o fewnfudwyr sydd yn dod mewn i' r wlad ddim yn uchel mewn gwirionedd ond y cyfryngau sydd yn gwneud stori allan o rywbeth bach. Mae Prydain yn derbyn 1.4 o geisiau mewnfudwyr o 1000 o' r population (ffigyrau gan UNHCR). Mae llawer o' r bobl groendywyll ti' n gweld wedi bod yma ers cenedlaethau a wedi ei geni yma- dim bron yn illegal immigrants.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Llun 05 Ebr 2004 1:17 am

Lowri, mae fy marn i am fewnfudo yn eitha syml.

Mewnfudwyr anghyfreithlon? Dim diolch, ewch nol adref.

Fe fuaswn i'n croesawy ceisiadau am basport Prydeinig os buasai'r pobl hynny yn dod a sgiliau mewn i'r wlad sydd yn rhedeg yn brin yn ein economi. Hefyd fe fuaswn i'n croesawy ceisiadau gan bobl sydd eisiau agor ffactrioedd neu dod a gwaith call i fewn i'r wlad.

Buaswn i'n dweud dim diolch i'r gweddill. Dylsen ni ond gadael pobl ymgartrefu yma os yw nhw o fudd i'r wlad ac yn llenwi gwagleuon.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Lowri Fflur » Llun 05 Ebr 2004 1:32 am

Mae llawer o illigal immigrants efo sgiliau dim ond nad ydynt yn cael y cyfle i' w defnyddio am hir ar ol dod i Brydain. Dydi illigal immigrants ddim yn cael gweithio nes eu bod ny cael statws refugee- gellir hyn gymud misoedd neu blynyddoedd. Dydi' r ffaith bod rhywin yn illegal immigrant ddim yn meddwl ar ahengraid nad yw' r person yn mynd i fod o fudd i' r wlad.
"It's better to light a candle than to curse the darkness"
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dielw » Llun 05 Ebr 2004 8:25 am

Ath 80 i'r carchar yn wrecsam, pob un yn wyn. Rwy ti'n rhoi'r cwbl lawr i hiliaeth. Swn i'n awgrymu bod cenfigen yn ffactor mwy pwysig. Dychmyga di dy fod ti'n byw yn ty cyngor tlota Wrecsam, dy fod ti'n gweithio llawn amser yn llafurio a dy fod ti'n talu dy drethi. Sut ma hi'n teimlo iddyn nhw pan mae'r fflatiau crand lawr y ffordd yn mynd i ryw fewnfudwyr anghyfreithlon? Dydi hyn ddim yn gwneud unrhyw synnwyr. Mae'r wlad ma di mynd yn nyts.

Rho dy hun yn sgidie y bobl hyn a dwi'n meddwl mai anhegwch sy'n gyrru nhw i weithredu.

Gan bod yr ymgeiswyr lloches yn ymladd yn ôl ac yn rhannol gyfrifol am y riots dwi'n synnu mai dim ond pobl gwyn ath i'r carchar. Mae'n debyg nad yw anfon pobl na ddylai fod yma i'r carchar yn gyhoeddusrwydd da iawn i'r llywodraeth.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan S.W. » Llun 05 Ebr 2004 8:41 am

Os wyt ti'n meddwl bod ymgeiswyr lloches yn cael y fflatiau gorau yn yr ardal wyt ti'n hynod naive. Mae'r fflatiau mae nhw'n ei gael yn 'dumps', y fflatiau mae'r cyngor yn gwrthod ei rhoi i'r trigolion arferol ydynt nhw.

Dwin bron yn sicr bod un neu 2 person o'r gymuned Kwrdaidd wedi eu carcharu am eu rhan yn yr helynt yn Parc Caia.

Paid coelio popeth mae'r Evening Leader yn Wrecsam yn ei ddeud a'r tabloids Prydeing eraill.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Dielw » Llun 05 Ebr 2004 9:18 am

Yn Wrecsam dwi reit siwr bod rhai o'r fflatiau a roddwyd iddynt yn rai o safon, dyma oedd un o'r cwynion o'n i'n clywed.

Yn Queens Park ddechreuodd yr helynt gyda llaw.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan S.W. » Llun 05 Ebr 2004 9:36 am

Enw newydd Queens Park ydy Parc Caia / Caia Park

Dwi wedi bod yn gweithio gyda'r ymgeiswyr lloches a'r ffoaduriaid yn Wrecsam ac allai addo i ti bod y tai mae nhw wedi eu cael yn uffernol. Os yden nhw'n well nag tai pobl 'lleol' y stad yna mae ne broblem mawr gyda'r cyngor. Paid coelio pethau wyt ti'n glywed am y pobl yma yn cael y tai gorau - scare mongering ydy hynny gan pobl sydd yn clywed hanner stori ac yn gwneud yr hanner arall i fyny - newyddadurwyr yn bennaf. Un enghraifft ydy nad ymgeiswyr lloches oedd yn yr helynt yn Wrecsam mewn gwirionedd ond ffoaduriaid, ond mi ddywedodd y papurau mae ymgeiswyr lloches oedden nhw oherwydd y 'conotations' sydd gan hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 16 gwestai

cron