Mae PAWB ti'n nabod yn Wrecsam yn eu casau gan bod eu meibion yn y carchar am yr helynt ym Mharc Caia? Dydy hynny ddim yn dweud llawer am y cwmni ti'n ei gadw! Nhw dorrodd y gyfraith a cafodd nhw eu cosbi am yr helynt, mae'r un yn wir am y sawl hynny o leiafrifoedd ethnig oedd yng nghanol yr helynt (coelia neu beidio).
Dydw i ddim yn dweud bod staff ysbytai Gogledd Cymru yma yn anghyfreithlon ond maent yn pobl sydd wedi dod o wledydd eraill yma i weithio.
Dydyn nhw ddim yn mynd i dafarndai? So what? Mae llawer ohonynt yn Fwslemiaid a dydyn nhw ddim yn yfed! Mae llawer eraill ohonynt yn byw bywyd sydd yn golygu eu bod yn gweithio'n galed iw teuluoedd felly nid ydynt yn mynd i dafarn. Roedd llawer ohonynt yn dweud nad ydyt yn meiddio mynd allan ar ol iddi dywyllu gan eu bod yn gwbod gawn nhw helynt - mae nhw'n cael digon o helynt gan bobl yn y golau dydd heb son am fentro allan yn y nos.
Mae yna brinder pob math o staff yma ym Mhrydain ar pob lefel felly os ydynt eisiau gweithio (mae nhw) pam ddylem ni eu hatal pan mae ein gwlad ni angen y staff yne.