Ydi hi' n anheg ar yr illegal immigrants?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydi mewnfudwyr anghyfreithlon yn ei chael hi' n anodd ar y cyfan?

Ydi
6
46%
Na
5
38%
Weithiau
2
15%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 13

Postiogan S.W. » Maw 06 Ebr 2004 12:21 pm

Mae PAWB ti'n nabod yn Wrecsam yn eu casau gan bod eu meibion yn y carchar am yr helynt ym Mharc Caia? Dydy hynny ddim yn dweud llawer am y cwmni ti'n ei gadw! Nhw dorrodd y gyfraith a cafodd nhw eu cosbi am yr helynt, mae'r un yn wir am y sawl hynny o leiafrifoedd ethnig oedd yng nghanol yr helynt (coelia neu beidio).

Dydw i ddim yn dweud bod staff ysbytai Gogledd Cymru yma yn anghyfreithlon ond maent yn pobl sydd wedi dod o wledydd eraill yma i weithio.

Dydyn nhw ddim yn mynd i dafarndai? So what? Mae llawer ohonynt yn Fwslemiaid a dydyn nhw ddim yn yfed! Mae llawer eraill ohonynt yn byw bywyd sydd yn golygu eu bod yn gweithio'n galed iw teuluoedd felly nid ydynt yn mynd i dafarn. Roedd llawer ohonynt yn dweud nad ydyt yn meiddio mynd allan ar ol iddi dywyllu gan eu bod yn gwbod gawn nhw helynt - mae nhw'n cael digon o helynt gan bobl yn y golau dydd heb son am fentro allan yn y nos.

Mae yna brinder pob math o staff yma ym Mhrydain ar pob lefel felly os ydynt eisiau gweithio (mae nhw) pam ddylem ni eu hatal pan mae ein gwlad ni angen y staff yne.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan S.W. » Maw 06 Ebr 2004 12:43 pm

Sori dwi ddim yn neud fy hun yn glir iawn yma gan fy mod i'n trio sgwennu rhain heb i'r bos fy ngweld ond mae hi wedi mynd allan felyl mae gennai fwy o amser.

Mae'r wasg ym Mhrydain yn hoff o greu darlun o Ymgeiswyr Lloches/Ffoaduriaid/Mewnfudwyr fel bod yr un peth a'u gilydd. Pobl sydd wedi dod yma i fyw ermwyn cael budd-daliadau gan y wladwriaeth. Mae hyn yn hollol hyrt, ond yn anffodus o'r hyn sydd wedi'w ddweud ar y wefan hwn dyma mae pobl yn ddewis ei gredu.

Dydy Prydain DDIM yn cael ei 'swampio' gan pobl o wledydd eraill - mae'r mwyafrif o wledydd eraill Ewrop yn cymryd mwy o bobl i fewn nag y mae Prydain yn ei wneud.

Mae mwy o bobl YN gadael Prydain nag sydd yn dod yma i fyw - mae'r mwyafrif yn mynd i fyw i'r hen drefedigaethau Prydeinig gwyn.

Y mewnfudwyr mwyaf sydd yn dod i Brydain ydy'r Gwyddelod dim pobl mewn gefn loriau yn 'wannabe terrorists' ydyn nhw. Ar ol y Gwyddelod mae pobl o'r hen drefedigaethau gwyn.

Mae'r canran o boblogaeth Prydain sydd yn dod o leiafrif ethnig (gan gynnwys Gwyddelod a Trafeliwyr) yn hynnod bychan - llai nag 5%.

Dydy Mewnfudwyr anghyfreithlon ddim yn costio llawer i'r wlad o gwbl - gan nad ydynt gyda unrhyw hawl cael budd daliadau oherwydd diffyg rhif social security does ganddynt ddim hawl cael ty nag dim gan y wlad. Mae'r nifer o bobl sydd yn dod i fewn i'r wlad yn anghyfreithlon yn hynnod isel bellach oherwydd bod y llywodraeth wedi dweud bod yn rhaid i pobl sydd am geisio gael lloches ofn amdano o fewn oriau i gyrraedd y wlad (mae'r llefydd i wneud hyn yn agos at y porthladdoedd).

Nid oes gan Ymgeisydd Lloches ddim hawl i weithio yn y wlad hon, felly maent yn GORFOD byw ar budd-daliadau (sydd gyda'r llaw yn llai na'r lleiafswm o dole gallwn ni ei gael (£46)). Mae'r pobl yma GYDA sgiliau, boed yn feddygon, athrawon, neu labrwyr. Maent i gyd eisiau gweithio, cyfrannu at y gymdeithas y maent wedi cael ei roi ynddo, ond oherwydd natur xenophobic Prydain does ganddynt ddim yr hawl i wneud hyn. Maent yn cael eu gorfodi i fewn i fywyd o dlodi - mae llawer felly yn dewis gweithio yn anghyfreithlon. Mae'r pobl sydd yn eu cyflogi yn rhoi swyddi iddynt sydd yn aml ddim yn fodlon cael ei wneud gan y bobl lleol, mae nhw hefyd yn talu llai nag £1 yr awr iddynt.

Os ydy person yn cael loches mae o wedyn yn dod yn 'ffoadur' mae hyn yn golygu ei fod yn cael gweithio a cyfrannu at y gymuned. Ond oherwydd y paranoai sydd yma am y pobl 'gwahanol' yma sydd wedi dod yma i fyw at ein canol ni gyda eu ffordd gwahanol o neud pethau dydyn nhw dal ddim yn teimlo fel rhan o'r gymdeithas. Mae gennai ofn mae NI sydd ar fai am hynny nid nhw.

Mae Ysbytai Gogledd Cymru yn dibynnu'n fawr ar sgiliau ffoaduriaid i gadw eu gwasanaeth i fynd - gallai hyn fod ar y lefel uchaf - llaw feddygon ac ati, i lawr at y gwaelod porthorion ac ati. Mae llawer mwy o bobl sydd yn aros am loches gyda;r sgiliau hyn ond oherwydd agwedd Prydain dydyn nhw ddim yn cael.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Dielw » Maw 06 Ebr 2004 12:57 pm

mae nhw'n cael digon o helynt gan bobl yn y golau dydd heb son am fentro allan yn y nos

Yn union. Nid yw hyn yn sefyllfa sy'n dderbyniol oherwydd mae'n arwain at drais. Nid yw'n deg ar y ffoaduriad go iawn yn enwedig. Y ffordd faswn i yn delio gyda'r broblem fasa delio'n llym iawn gyda mewnfudo ac atal y mewnfudo anghyfreithlon - dylse hi ddim yn anodd atal rywun rhag dod i'r wlad os dydyn nhw ddim efo pasport.

Os sa'r cyhoedd yn gwbod mai ffoaduriad go iawn oedd y bobl hyn ni fasa pawb yn eu casau. Dim ond pobl hiliol fasa yn erbyn cymryd ein siâr o ffoaduriaid.

Mae PAWB ti'n nabod yn Wrecsam yn eu casau gan bod eu meibion yn y carchar am yr helynt ym Mharc Caia? Dydy hynny ddim yn dweud llawer am y cwmni ti'n ei gadw!

Ydi mae Iraqis/Kurds yn cael ei ddefnyddio fel rheg lle dwi'n byw (lojo). Does dim byd yn bod fo'r cwmni, mae ambell un yn hiliol, ond ma nhw gyd yn gynrychiolaeth reit dda o bobl gweddol tlawd cyffredin "dosbarth gweithiol", os oes ffasiwn beth. Dyna sut dwi'n ymwybodol bod y sefyllfa yn un beryglus iawn.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan S.W. » Maw 06 Ebr 2004 1:15 pm

Mae'r llywodraeth eisoes wedi dleio gyda mewnfudo anghyfreithlon, does dim gymaint o sôn am hynny wan - pryd oedd y tro diwethaf i ti weld stori ar y newyddion yda pobl yn dianc trwy'r twnel ayyb? Mae o dal yn bodoli ydy, ond nifer bychan iawn sydd yn gwneud hyn rwan. Roedd lot o beth oeddet ti yn ei ddadlau yn ymwneud a chymryd ymgeiswyr lloches i fewn i'r wlad (mae nhw yn gyfreithlon).
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Ivan Campo » Maw 06 Ebr 2004 1:16 pm

S.W. a ddywedodd:Bydde dy bwynt wedi bod yn gryf nes i ti ddenfyddio'r Times fel dy ffynhonnell!

Ia - y Sun mawr.
Use your English!!!
Ivan Campo
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 82
Ymunwyd: Llun 19 Ion 2004 4:57 pm
Lleoliad: Fyny dy ffocin tin.

Postiogan Dielw » Maw 06 Ebr 2004 1:45 pm

Mae'r llywodraeth eisoes wedi dleio gyda mewnfudo anghyfreithlon

Do - mae'n ymddangos bod nhw wedi delio gyda'r sefyllfa drwy neud o'n gyfreithlon i bawb sy'n ymgeisio! :lol: :lol: Ffordd wych o ddelio gyda'r ffigyrau, ond beth am y broblem wreiddiol?!

Baswn i yn hoffi system llym ond teg ar gyfer ymgeiswyr lloches. Byddai'r rhai na fyddai'n ffitio'r criteria yn gorfod mynd yn ôl i gwlad eu hunain.

ps. y Star ydi'r gore
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan S.W. » Maw 06 Ebr 2004 2:02 pm

Felly os does gennych chi ddim sgiliau i fod yn ddoctor rhaid i chi fynd yn nol adre i gael eich erlyn? Swnio'n deg iawn i fi!

Dwin gweld problem yn cael ei greu ble mae gwlad gyda ofn cymryd pobl sydd yn wirioneddol angen cymorth,ond gan eu bod yn ei weld o fel collwr pleidleisiau nawn nhw ddim. Mae'r wlad yma'n sicr wedi mynd yn fwy hiliol o ganlyniad i Medi'r 11eg a'r teimlad o xenophobia mewn cymdeithas sydd heb gael ei ddelio ag o gan y llywodraeth.

Yn bersonol nai ddim cyffwrd mewn unrhyw un o'r Tori rags mae nhw i gyd yn afiach yn y ffordd mae nhw'n gallu dweud celwyddau ac yna datblgyu barn y cyhoedd yn sgil hynny.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan S.W. » Maw 06 Ebr 2004 3:04 pm

DWI DI FFEINDIO NHW

1/ Mae'r mwyafrif o fewnfudwyr i Brydain yn wyn ac yn dod o Ewrop, Canada, yr UDA ac Awstralia

2/ 5.5% ydy canran poblogaeth lleiafrifoedd ethnig Prydain.Cafodd 80% o'r leiafrifoedd ethnig sydd yn byw yma eu geni yma. Mae hyn yn cynnwys Gwyddelod.

3/ Mae'r cyfeiriad cynharaf mewn dogfennau hanes at pobl o leiafrifoedd ethnig ym Mhrydain yn dod o'r 3ydd canrif o.c - catrawd Affricanaidd o byddin Rhufain ar wal Hadrian.

4/ Etholwyd AS o leiafrif ethnig ym Mhrydain..................... yn 1892! Yn ardal Finzbury yn Llundain.

5/ 4% ydy canran lleiafrif ethnig Cymru. Mae gan Caerdydd poblogaeth lleiafrif ethnig o tua 6%, Abertawe gyda 2%.

6/ Mae rheolau mewnfudo newydd yn golygu bod mewnfudo newydd (hy pennaeth teuluoedd yn mudo) wedi dod i ben.

7/ Mae pobl o'r Caribi yn 36 gwaith fwy tebygol nag dyn gwyn o gael ei ymosod arno, mae Asiaid yn 50 gwaith mwy tebygol.

8/ Mae pobl o lleiafrifoedd ethnig yn gorfod dilyn yr un rheolau pan maen dod at mynd ar restr aros am dy. Mewn gwirionedd mae tystiolaeth yn dangos fod pobl o leiafrifoedd ethnig yn cael eu rhoi mewn cartrefi sydd yn waeth na'r hyn sydd yn cael eu rhoi i'r pobl wyn.

9/ Mae 30 iaith gwahanol yn cael ei siarad yn ysgol Fithallan yng Nghaerdydd (heb gynnwys Cymaeg a Saesneg).

10/ Mae Cliff Richard, Tywysog Phillip, a Freddie Mercury ymysg 'mewnfudwyr' a ddaeth i Brydain. (piti am y 2 cyntaf, ond ble fyddwn ni heb Queen?)
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Dielw » Maw 06 Ebr 2004 4:01 pm

Felly os does gennych chi ddim sgiliau i fod yn ddoctor rhaid i chi fynd yn nol adre i gael eich erlyn? Swnio'n deg iawn i fi!


Ti wedi camddallt. Y criteria ar gyfer ymgeisiwr lloches dylai fod: A yw dy fywyd mewn perygl? Dylai bod cyfrifoldeb gan y Gorllewin i rannu baich y ffoaduriaid yma (nodwch: rhannu baich) oherwydd ma nhw wirioneddol mewn perygl a gyda nunlle i fyw.

Ti'n cymysgu gyda criteria ar gyfer mudwyr economaidd. Dwi'n meddwl bod ni dau yn cytuno bod angen helpu pobl sydd wirioneddol yn ffoi ond dwi ddim yn cytuno bod angen gymaint o fudwyr.

Ni ddylai fod unrhyw mudwyr anghyfreithlon yma. Dylai bod system yn bodoli er mwyn atal hyn.

9/ Mae 30 iaith gwahanol yn cael ei siarad yn ysgol Fithallan yng Nghaerdydd (heb gynnwys Cymaeg a Saesneg).

Ydi hyn yn rwbeth i ymfalchio ynddo? Ydi Cymraeg yn cael ei siarad yno? Dim peryg. Tydan ni'n wlad grêt? Ysgol sy'n siarad pob iaith dan haul ond am ein hiaith ni. :?

7/ Mae pobl o'r Caribi yn 36 gwaith fwy tebygol nag dyn gwyn o gael ei ymosod arno, mae Asiaid yn 50 gwaith mwy tebygol.

Mae person o'r Caribi 36 gwaith fwy tebygol na dyn gwyn o werthu kilo o crack cocaine hefyd, pam nad ydi hyn ar y rhestr? :lol: :lol:

Be mae'r propaganda yma i neud gyda mewnfudo?!
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan RET79 » Maw 06 Ebr 2004 5:06 pm

Mae dielw'n siarad sens (unwaith eto). I chi sy o'r farn (ryfedd) fod angen gadael mwy a mwy o bobl fewn i'r wlad, gaf i awgrymu y tro nesaf chi mewn traffig jam, mynd ar dren a methu cael set, mewn ciw mawr wrth siopa etc. i chi ofyn y cwestiwn i'ch hun y pryd hwnnw.

Mae'n ddigon hawdd eistedd yn nhawelwch cefn gwlad Cymru a dweud fod hi'n syniad da i Birmingham, Manchester, Lerpwl gael mwy o fewnfudwyr.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron