Ydi hi' n anheg ar yr illegal immigrants?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydi mewnfudwyr anghyfreithlon yn ei chael hi' n anodd ar y cyfan?

Ydi
6
46%
Na
5
38%
Weithiau
2
15%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 13

Postiogan S.W. » Maw 06 Ebr 2004 9:47 am

Does gan yr ystadegau hyn ddim iw wneud gyda'r cynllun (sydd ddim wedi dechrau'n iawn eto)gan y llywdroaeth i gael gwared o rhai ymgesiwyr lloches, mae'r rhain wdi cael eu hel ers rhai misoedd bellach.

Dwin derbyn nad wyt ti wedi ffurfio dy farn ar y pwnc yma, ond mae llawer iawn o anwybodaeth yn y wasg ac mewn gwleidyddiaeth ar y mater hwn. Dim ond newydd sylwi ar hwn i gyd o ganlyniad i fy ngwaith ydw i.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Dielw » Maw 06 Ebr 2004 10:01 am

Mae mwy o bobl yn gadael Prydain nag sydd yn dod i fyw i Brydain - Ffaith

Nac ydi dydi o ddim yn ffaith - anwiredd ydi hyn. Nes i ddarllen ddoe (yn y Times dwi'n meddwl) bod tua 300000 yn dod mewn a 100000 yn mynd allan bob blwyddyn.

Mae canran poblogaeth mewnfudwyr/ymgeiswyr lloches/ffoaduriaid Prydain yn llai na 5% cyfanswm poblogaeth Prydain.

Mae hyn yn ffwc o lot o bobl! Gei di ddisgrifio fo fel 0.00000001% o boblogaeth y byd os ti isio ond mae o dal yn ormod.

Nid mewnfudwyr sy'n creu trefysgaeth yma

Rwan ti'n bod yn hollol naive. Deffra wir!

y ffordd mae'r wladwriaeth ac elfennau o gymdeithas yn gwthio pobl 'gwahanol' i'r ymylon gan eu gwneud yn fwy agored at temptasiwn eithafiaeth crefyddol ac ati.

wrth gwrs bai cymdeithas ydi o nid yr cyfrifoldeb y terfysgwr.... :rolio:

Mae cael pobl o wahanol dras hil, crefydd ac ati yn cyfoethogi gwlad. Yn gallu gwneud i chi fwynhau eich diwylliant chi, tra'n derbyn cyfoeth diwylliannau eraill hefyd

I ryw raddau dwi'n cytuno tan y pwynt lle mae'r diwylliant cynhenid yn y lleiafrif. Mae o di digwydd yng Nghymru yn barod oherwydd mewnlifiad y Saeson. Rwan mae o'n digwydd yn Lloegr (sy'n golygu mwy o Saeson yn ffoi i Gymru), a nid yw mor brydferth a ti'n meddwl. Mae'r BNP yn ennill seddi yn y lleoedd hyn am reswm. Wrth gwrs mae nhw yn tyfu ofn a mae nhw efo agenda eu hunain (casineb). Ond nhw ydi'r unig pobl (ar wahan i'r Toriaid efallai :? ) sy'n cynrychioli'r ofnau "genuine". Creu trwbwl byddi di'n neud gyda polisi sy'n galluogi mwy o fewnfudo.

Cytuno hefyd gyda'r syniad o gael system fel yr UDA. Pa mor fawr di'r wlad yna a faint o fewnfudwyr ma nhw'n derbyn tybed? :winc:
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan S.W. » Maw 06 Ebr 2004 10:15 am

Bydde dy bwynt wedi bod yn gryf nes i ti ddenfyddio'r Times fel dy ffynhonnell! Mae'r Times yn bapus adain dde sydd yn adrodd straeon fel yma yn aml. Mae'r ystadegau sydd gennyf i (pan ffeindiai nhw) wedi dod gan waith ymchwil rhwng y Comisiwn Cydraddoldeb Hil a rhyw Brifysgolion yn Lloegr (LSE oedd un dwin cofio). Mae mwy o bobl yn gadael Prydain nag sydd yn byw yma - paid coelio popeth mae'r wasg yn ei ddweud, cymer popeth gyda pinsiad o halen!

Pan gai'r ystadegau mae croeso i ti eu gweld nhw. Mae ymgeiswyr lloches yn dod i fewn i'r wlad yma, a'u prif gwyn ydy nad ydynt yn cael gweithio - mae'r wladwriaeth gyda ofn pechu pobl middle England a pobl cul eu meddwl eraill. Mae gan y pobl hyn amryw o sgiliau sydd yn brin yma ym Mhrydain - mae ysbytai yn galw am mwy o feddygon tra bod criw o pobl sydd wedi eu hyfforddi i fod yn feddygon yn gweithio yn anghyfreithlon yng Ngogledd Cymru am llai nag £1 yr awr. Nai ddim deud yn lle.

Mae canran poblogaeth yn hynnod fach, ond yn amlwg byddai pobl fel ti ddim yn hapus eu gweld nhw yma o gwbl, ond os bydden nhw'n mynd bydd y wlad yn 'buggered'. Byddai ysbytai Gogledd Cymru yn colli hanner eu staff - a does ne dim staff gwyn iw cymryud eu lle i dy wneud di'n hapus (ac yn well).

Mae'r pobl hyn hefyd yn cwyno am nad ydynt yn cael gwybod digon am ddiwylliant Cymru - mae nhw iso gwbod mwy amdano, ond gan bod pobl lleol yn euog o'u gwthio i'r ymylon does neb wedi bothero gyda nhw. Mae'r ymgeiswyr lloches sy'n byw yn adral Wrecsam e.e yn gallu siarad e leiaf 2 iaith yn hollol hyderus felly yn deallt pwysigrwydd diwylliant/iaith ayyb.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan S.W. » Maw 06 Ebr 2004 10:37 am

O.N.

Dydw i ddim yn ymosod ar y wasg am fod 'o'r asgell dde' rydw in ymosod ar y wag sydd yn adorss straeon fel yma gan ei bod hi'n ffasiynol ac yn fodd da o werthu papurau i gael eich gweld yn neidio ar y banwagon 'Anti Immigration'.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Norman » Maw 06 Ebr 2004 11:00 am

Mae cael pobl o wahanol dras hil, crefydd ac ati yn cyfoethogi gwlad. Yn gallu gwneud i chi fwynhau eich diwylliant chi, tra'n derbyn cyfoeth diwylliannau eraill hefyd


Newyddion am loches newydd wrth Oxford

http://news.bbc.co.uk/1/hi/england/oxfo ... 602507.stm

&

http://news.bbc.co.uk/1/hi/talking_point/3603273.stm


-=Multiculturalism is Genocide=-
allan o afal dy gyrraedd dychmygol
|
Chwyliwch amdanai ar Flickr, YouTube, Ebay, Facebook, MySpace, Fotopic & Strydoedd Caerdydd!
Rhithffurf defnyddiwr
Norman
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1335
Ymunwyd: Mer 10 Medi 2003 6:44 pm
Lleoliad: Porthmadog/Caerdydd

Postiogan DAN JERUS » Maw 06 Ebr 2004 11:18 am

Norman:
-=Multiculturalism is Genocide=-


Gai awgrymu Daz ar gyfer dy hood a dy sheets gwyn di Norman? :drwg: a cofia roi digon o sunscreen ar dy war yr haf yma, rhag ofn iddo fynd yn fwy coch 'na mae o'n barod :rolio:
Ai beg ior pardyn, ai nefyr shagd iw in a rose garden!
DAN JERUS
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1086
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 3:11 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan S.W. » Maw 06 Ebr 2004 11:32 am

Oxford - un o ardaloedd mwyaf hiliol/asgell dde Prydain. Dyma YDY Middle England.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Dielw » Maw 06 Ebr 2004 11:55 am

Mae canran poblogaeth yn hynnod fach, ond yn amlwg byddai pobl fel ti ddim yn hapus eu gweld nhw yma o gwbl, ond os bydden nhw'n mynd bydd y wlad yn 'buggered'. Byddai ysbytai Gogledd Cymru yn colli hanner eu staff - a does ne dim staff gwyn iw cymryud eu lle i dy wneud di'n hapus (ac yn well).


Wyt ti'n honni rwan bod hanner staff ysbytai Gogledd Cymru yn fewnfudwyr anghyfreithlon?

Does gen i ddim problem gyda system pwyntiau er mwyn denu mewnfudwyr sy'n arbenigo lle dan ni'n brin - mae hyn yn digwydd yn barod. Mae holi pam bod ni'n brin yn gwestiwn arall, ac yn un pwysig.

Fel un o wledydd mwya dwys Ewrop dwi ddim yn gweld pam bod angen mwy o bobl. Mae hi'n ddadl reit syml.

Mae'r pobl hyn hefyd yn cwyno am nad ydynt yn cael gwybod digon am ddiwylliant Cymru - mae nhw iso gwbod mwy amdano, ond gan bod pobl lleol yn euog o'u gwthio i'r ymylon does neb wedi bothero gyda nhw. Mae'r ymgeiswyr lloches sy'n byw yn adral Wrecsam e.e yn gallu siarad e leiaf 2 iaith yn hollol hyderus felly yn deallt pwysigrwydd diwylliant/iaith ayyb.


Yn realiti dyma'r broblem. Does neb dwi'n nabod yn Wrecsam am fynd i neud ffrindiau fo'r ymgeiswyr lloches - mae llawer yn eu casau oherwydd bod eu mab ayb yn carchar am gymryd rhan mewn riot. Dydyn nhw ddim yn y pybs nac yn cymysgu, dydyn nhw ddim efo cyfle i wneud hynny. Sefyllfa sydd yn arwain at drwbl ydi hyn.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan Dr Gwion Larsen » Maw 06 Ebr 2004 12:10 pm

Wyt ti'n honni rwan bod hanner staff ysbytai Gogledd Cymru yn fewnfudwyr anghyfreithlon?
[/quote] di mewnfudwyr anghyfreithlon methu gweithio ym Mhrydain nacydi?
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan Dielw » Maw 06 Ebr 2004 12:20 pm

Yn union Gwion - dyna pam dwi ddim yn dallt pwynt SW
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron