gan S.W. » Llun 05 Ebr 2004 10:51 am
Maen anffodus iawn bod pobl yn coelio'r stwff mae nhw'n ddarllen yn y Daily Mail, y Sun, a'r Star pan maen dod at Ymgeiswyr Lloches yn dod i wledydd Prydain. Mae ne 1 pedophile oedd wedi dod o wlad arall yn cael ei garcharu am gamdrin plentyn yma, ac yn syth mae'r papurau hyn yn adrodd storiau am sut bod y person yma'n ymgeisydd lloches ac yn creu darlun bod pob un ohonynt yr un peth. Byddwn in licio gweld y papurau hyn yn cael eu cosbi am hybu trosedd hiliol.
Mae'r ymgeiswyr lloches a'r ffoduriaid dwi wedi dod ar eu draws yn Wrecsam trwy fy ngwaith yn pobl hynnod dymunol. Mae nhw yn byw yn Wrecsam gan eu bod wedi eu gorfodi o'u cartrefi (doedden nhw ddim yn eistedd yn eu tai yn Kurdistan, Rwanda a Syria yn deud
"dwin gwbod dwin meddwl nai eistedd ar gefn lori am ddyddiau a mynd i Wrecsam i gael budd-daliadau."
Mae'r pobl yma wedi symud gan bod y wladwriaeth ar eu holau - Heddlu Crefyddol Iran oedd un o'r prif resymau. Mae'r rhanfwyaf ohonynt nhw yn newyddiadurwyr oedd wedi adrodd straeon am y llywodraeth, mae ne hyd yn oed ambell i feddyg yn eu plith sydd gyda digon o gymwysterau i weithio mewn unrhyw ysbyty ond gan bod llywdraeth y wlad yma gyda gymaint o ofn pechu 'Middle England' does ganddynt nhw ddim hawl gweithio, er eu bod nhw isio gweithio ac yn barod i weithio ac i gyfrannu at y cymuned y maent ynddi.
Maen debyg nad oedd helynt Caia yn wreiddiol yn unrhywbeth iw wneud a hil, dechrau'r helynt oedd bod criw o hogian Cwrdaidd yn mynd o amgylch y dre yn edrych am ferched, a doedd y bechgyn lleol ddim yn licio hyn, wedyn o ganlyniad i'r wasg daeth hi'n Race Riot.