Tudalen 5 o 8

PostioPostiwyd: Llun 05 Ebr 2004 10:20 am
gan Dielw
Ydi mai'n od iawn pa mor hawdd ydi i'r papurau/pobl lleol twistio rwbeth. O'n i'n meddwl ymgeiswyr lloches oedden nhw. Ar y funud dwi'n byw yn yr ardal a wedi synnu gyda pa mor pissed off ydi'r bobl gyffredin am y peth. Di clywed pob math o storiau - am Cyrdiaid pidoffilig (!), tai smart, y teimlad bod y Cyrdiaid heb gael eu cosbi, a'r teimlad bod nhw'n cael hi'n hawdd. Os mai hyn yn wir neu beidio, dyma be mae pobl yn feddwl.

Wrth gwrs mae na le i ffoaduriaid go iawn (hynny yw, pobl sy'n ffoi am eu bywydau nid mudwyr economaidd) a dylai fod croeso iddyn nhw. Efallai yr unig ffordd i neud hyn ydi i ddelio a mewnfudiad mewn ffordd llym ond teg a sicrhau bod y mudwyr yn cydymffurfio â'r diwylliant cynhenid. Dydi'r llywodraeth yma ddim yn gallu neud hyn, poeni gormod am sut ma nhw'n edrych.

PostioPostiwyd: Llun 05 Ebr 2004 10:51 am
gan S.W.
Maen anffodus iawn bod pobl yn coelio'r stwff mae nhw'n ddarllen yn y Daily Mail, y Sun, a'r Star pan maen dod at Ymgeiswyr Lloches yn dod i wledydd Prydain. Mae ne 1 pedophile oedd wedi dod o wlad arall yn cael ei garcharu am gamdrin plentyn yma, ac yn syth mae'r papurau hyn yn adrodd storiau am sut bod y person yma'n ymgeisydd lloches ac yn creu darlun bod pob un ohonynt yr un peth. Byddwn in licio gweld y papurau hyn yn cael eu cosbi am hybu trosedd hiliol.

Mae'r ymgeiswyr lloches a'r ffoduriaid dwi wedi dod ar eu draws yn Wrecsam trwy fy ngwaith yn pobl hynnod dymunol. Mae nhw yn byw yn Wrecsam gan eu bod wedi eu gorfodi o'u cartrefi (doedden nhw ddim yn eistedd yn eu tai yn Kurdistan, Rwanda a Syria yn deud

"dwin gwbod dwin meddwl nai eistedd ar gefn lori am ddyddiau a mynd i Wrecsam i gael budd-daliadau."

Mae'r pobl yma wedi symud gan bod y wladwriaeth ar eu holau - Heddlu Crefyddol Iran oedd un o'r prif resymau. Mae'r rhanfwyaf ohonynt nhw yn newyddiadurwyr oedd wedi adrodd straeon am y llywodraeth, mae ne hyd yn oed ambell i feddyg yn eu plith sydd gyda digon o gymwysterau i weithio mewn unrhyw ysbyty ond gan bod llywdraeth y wlad yma gyda gymaint o ofn pechu 'Middle England' does ganddynt nhw ddim hawl gweithio, er eu bod nhw isio gweithio ac yn barod i weithio ac i gyfrannu at y cymuned y maent ynddi.

Maen debyg nad oedd helynt Caia yn wreiddiol yn unrhywbeth iw wneud a hil, dechrau'r helynt oedd bod criw o hogian Cwrdaidd yn mynd o amgylch y dre yn edrych am ferched, a doedd y bechgyn lleol ddim yn licio hyn, wedyn o ganlyniad i'r wasg daeth hi'n Race Riot.

PostioPostiwyd: Llun 05 Ebr 2004 9:27 pm
gan Lowri Fflur
Dydi o ddim chwaith yn wir mae Prydain yw un o' r gwledydd sydd mwyaf meddal ar illegal immigrants. Dwi' m hollol siwr bod gwlad Belg, Iwerddon a Norwey yn rhoi cefnogaeth gwell i illegal immigrants.

PostioPostiwyd: Llun 05 Ebr 2004 11:16 pm
gan Dr Gwion Larsen
lowri larsen a ddywedodd:Dydi o ddim chwaith yn wir mae Prydain yw un o' r gwledydd sydd mwyaf meddal ar illegal immigrants. Dwi' m hollol siwr bod gwlad Belg, Iwerddon a Norwey yn rhoi cefnogaeth gwell i illegal immigrants.
Ia ond ma gan Iwerddon lawer llai o "illegal immigrants" ag fel ti'n mynd fewn i'r porthladd mae swyddogion ei heddlu yn edrych os ydych yn dywyll!

PostioPostiwyd: Llun 05 Ebr 2004 11:32 pm
gan RET79
Lowri, pa fudd yw o i Brydain i'w gadael i fewn?

PostioPostiwyd: Maw 06 Ebr 2004 1:01 am
gan Lowri Fflur
RET79 a ddywedodd:Lowri, pa fudd yw o i Brydain i'w gadael i fewn?


Mae o, o fudd i Brydain gan bod llawr ohonynt yn dod mewn gyda sgiliau a mae' rhai sydd ddim efo sgiliau yn fodlon cymud gwaith na fysa neb arall yn fodlon eu gymud.

PostioPostiwyd: Maw 06 Ebr 2004 8:13 am
gan S.W.
Mae o fudd mawr i Prydain adael y bobl yma i fewn yn gyfreithlon. Mae gan y pobl yma nifer o wahanol sgiliau yn ymestyn o meddygon a doctoriaid i labrwyr a swyddi tebyg eraill. Heb y pobl yma fyddai prinder mawr iawn o weithwyr.

Mae'r wasg a'r Toriaid yn mynd ymlaen ac ymlaen am Illegal Immigrants a pha mor ddrud ydynt nhw - gan eu bod yn y wlad yn anghyfreithlon dydy'r wladwriaeth ddim yn cydnabod eu bodolaeth nhw (does ganddynt nhw ddim rhif social security) felly does gan nhw ddim hawl cael budd-daliadau. Mae nhw felly yn cael swyddi ar ffermydd ac ati, ond mae nhw'n cael eu talu lot llai na ni am wneud mwy o waith na ni - mae nhw'nneud y swyddi'n aml iawn does neb arall isio'i wneud.

Mae ymgeiswyr lloches hefyd heb hawl i weithio oherwydd y system 'xenophobic' sydd yn bodoli yma. Os byddai'r wlad yn gadael i nhw ddefnyddio'u sgiliau yma byddai nhw'n cael talu treth ac am eu cartrefi, gan gostio dim pres i'r wlad.

PostioPostiwyd: Maw 06 Ebr 2004 8:36 am
gan Dielw
Mae o fudd mawr i Prydain adael y bobl yma i fewn yn gyfreithlon

Ond S.W mae'r wlad yma'n llawn dop a mae llawer mwy yn dod mewn na sy'n mynd allan. Dyma un o bryderon bobl ar hyn o bryd - bod gormod yn dod i fewn. A wyt ti'n argymell ffîn agored? Beth am y llif o fudwyr economaidd fydd yn dilyn? Pa effaith bydd hyn yn cael ar ein gweithlu presennol? Beth am yr effaith ar ein diwylliant ni? Mwy o gyfleoedd i derfysgwyr? Gofyn am drwbwl.

PostioPostiwyd: Maw 06 Ebr 2004 8:56 am
gan S.W.
Dwin teimlo fel fy mod i'n darllen gewfan y BNP neu'r Daily Mail (digon agos) yma Dielw

Dydy'r wl;ad yma ddim yn llawn dop ohonynt o gwbl paid twyllo dy hun. Mi roedd gennai restr o ystadegau annibynol am ymgeiswyr llches ond dwi methu iw ffeindio fo rwan.

Dyma be dwin gofio ohono fo

Mae mwy o bobl yn gadael Prydain nag sydd yn dod i fyw i Brydain - Ffaith

Y prif mewnfudwyr sydd yn dod i fewn i Brydain ydy'r Gwyddelod - Ffaith arall. Ar ol y Gwyddelod pobl o'r hen trefedigaethau gwyn sydd yn dod yma (h.y. Awstralia, Seland Newydd, Canada, a'r UDA)

Mae canran poblogaeth mewnfudwyr/ymgeiswyr lloches/ffoaduriaid Prydain yn llai na 5% cyfanswm poblogaeth Prydain.

Nid mewnfudwyr sy'n creu trefysgaeth yma, y ffordd mae'r wladwriaeth ac elfennau o gymdeithas yn gwthio pobl 'gwahanol' i'r ymylon gan eu gwneud yn fwy agored at temptasiwn eithafiaeth crefyddol ac ati.

Pan ffeindiai'r daflen mi rhoi mwy o ystadegau.

Nid ydwyf yn arddel ffin agred, ond dwi yn credu y dylid creu system visa fel sydd yn yr UDA ble mae gan unrhyw berson hawl i weithio yma. Paid twyllo dy hun am 'Economic Migrants' mae'r broblem bychan iawn. Mae system budd daliadau gwledydd Dwyrain Ewrop yn lot gwell i pobl sydd am fyw oddi ar fudd daliadau nag ydy Prydain. Mae pryder mawr yn y gwledydd hyn y byddai eu gwledydd nhw yn cael ei 'swampio' gan mewnfudwyr o Brydain - ansawdd bywyd lot rhatach yn fanne!

Mae cael pobl o wahanol dras hil, crefydd ac ati yn cyfoethogi gwlad. Yn gallu gwneud i chi fwynhau eich diwylliant chi, tra'n derbyn cyfoeth diwylliannau eraill hefyd.

PostioPostiwyd: Maw 06 Ebr 2004 9:34 am
gan Dr Gwion Larsen
S.W. a ddywedodd:Mae mwy o bobl yn gadael Prydain nag sydd yn dod i fyw i Brydain - Ffaith
Oherwydd bo Prydain yn dechre deddfu cyfreithie i atal iddo ddigwydd. Hoffwn wneud un peth yn GLIR dwi ddim yn shwr o fy statws a'm marn ar y pwnc yma a heb leisio fy mhleidlais eto, felly peidiwch a anfon negeseuon preifat bygythiol:- Y tori uffar! Ffasgydd a.y.y.b. felly peidiwch a'm saethu i OK!