Tudalen 8 o 8

PostioPostiwyd: Maw 06 Ebr 2004 5:25 pm
gan eusebio
Ffyc Me - mae 'na ddatganiadau hiliol tu hwnt wedi eu mynegi yma :ofn:

PostioPostiwyd: Mer 07 Ebr 2004 8:00 am
gan Dielw
Mae dielw'n siarad sens (unwaith eto).

:wps: 8) :wps: diolch!

mae 'na ddatganiadau hiliol tu hwnt wedi eu mynegi yma

Gan bwy? Ddim fi mêt. Hiliaeth ydi casau person oherwydd eu hil. Dwi ddim yn casau neb.

Dyma'r broblem ar hyn o bryd - dydi pobl ddim yn gallu datgysylltu materion fatha mewnfudo oddi wrth y broblem o hiliaeth. Ydach chi'n dallt bod posib bod yn erbyn gymaint o fewnfudo gan ddiwylliannau gwahanol heb fod yn hiliol? Pan fydd pobl yn sylweddoli hynny gallwn symud ymlaen. If you see it say it, fel sa Roy Walker yn deud. Arwr 8)

PostioPostiwyd: Iau 08 Ebr 2004 9:24 am
gan S.W.
Na ti ddim yn hiliol nagwyt?

Mae person o'r Caribi 36 gwaith fwy tebygol na dyn gwyn o werthu kilo o crack cocaine hefyd, pam nad ydi hyn ar y rhestr?


Mae pobl o pob hil yn gwerthu cyffuriau - idiot!

Mae pobl yn Fitzhallan yn siarad Cymraeg hefyd wrth gwrs, efallai nad yw'n iaith gyntaf ond fel pob ysgol gwladol arall mae nhw'n cael; eu dysguCymraeg.

Dy agewdd di fydd yn arwain at farwolaeth yr iaith Gymraeg nid ei amddiffyn - gallai'r iaith ddim oroesi gyda'r un niferau o bobl yn siarad hi am byth rhaid i'r niferoedd gynyddu.

Os oes unrhyw un am sefydlu cangen Gymraeg o'r KKK gofynwch i Dielw maen siwr ellith o eich helpu. CCC fydd ei enw o wrth reswm.

Maen gas genni pobl sydd o'r agwedd mae amddiffyn pobl sydd yn siarad Cymraeg yn bresennol yw'r gamp, mae angen ei gwneud hi'n iaith iw siarad gan bawb, ond mae agwedd fel yma yn gwneud Cymru o ddwy iaith, ac yn anffodus Cymraeg neith golli allan gyda snobyddiaeth o'r math yma. Yn bersonol maen well genni fyw mewn cymdethas sydd yn gyfoethog o ran diwylliannau, gan barhau i fod a chysylltiad gref a hanes a diwylliant hanesyddol yr ardal.

PostioPostiwyd: Iau 08 Ebr 2004 11:02 am
gan Dielw
Pam nag wyt ti yn gallu trafod mewnfudo yn gall heb dod a hil mewn i'r peth? Ti di colli'r ddadl a felly y ffordd i'w ennill ydi mynd a fy ngalw i'n hiliol pam dydw i ddim. Mae hyn yn digwydd ymhobman a mae o'n neud fi'n drist ac yn flin iawn. Mor flin a hyn :crechwen: hyd yn oed.

Dwi efo rhesymau economaidd a cymdeithasol cryf dros leihau mewnfudo ac atal mewnfudwyr anghyfreithlon rhag dod i'r wlad - bydded hwy yn ddu, yn wyddelig neu yn tsieniaidd dim ots genna fi. Ti sydd isio dod a hiliaeth mewn i'r peth. :rolio: :rolio:

Mae pobl o pob hil yn gwerthu cyffuriau - idiot!

Pa hil sy'n gwerthu mwya te? Oherwydd tlodi mae hyn. Gobeithio bod galw fi yn idiot yn gwneud i ti deimlo llai anghyfforddus, gyda llaw. :lol:

Mae cymharu fi i'r CCC yn jôc. Gobeithio. Fel arall mae o'n ddatganiad trist gan fachgen/merch sydd wedi ymgolli'n llwyr yn y systemau PC ma, yn aneglur ei syniadau a fasa'n ffitio mewn yn reit dda mewn unrhyw cwango llywodraethol. A mae o'n hollol offensive i fi. Faswn i wir yn parchu rywun fasa'n deud "reit, agor y ffiniau yn gyfan gwbl oherwydd nid yw'r sefyllfa bresennol yn deg". Rwyt ti ddim isio gwneud hyn ond yn ceisio awgrymu bod mewnfudwyr anghyfreithlon o fudd i'r wlad. Sori mêt, ti yn y sôn anghywir. Tyd lawr o'r cwmwl yna a beth am dreulio ychydig o amser yn y byd go iawn efallai?

PostioPostiwyd: Iau 08 Ebr 2004 12:43 pm
gan S.W.
Y rheswm fy mod i'n dy alw di'n idiot oedd oherwydd dy fod wedi mewn modd hollol aneuddfed wedi newid y ffaith bod Pobl o dras affro caribiaidd yn 36 gwaith fwy tebygol o ddioddef ymosodiad treisiol nag person gwyn - ffaith digon trist ac anffodus byddwn i'n ei feddwl, i fod yn sylwad gennyt ti bod nhw 36 gwaith fwy tebygol o werthu crack cocaine! Byddwn yn rhoi arian mawr i lawr i ddeud bod hynny ddim yn wir - dydy gwneud ffeithiau i fyny ddim yn ffordd dda o ennill ddadl Dielw! Byddwn yn dadlau mae hynny oedd yn hiliol nid dy ddadleuon yn erbyn fewnfudwyr.

Credaf fod cryfder yn y ddadl o wneud Cymru a'r iaith Gymraeg yn wlad ble mae croeso i bawb i ategu at ei ffyniant, ei aeddfedrwydd a'i diwylliant. Byddwn i methu dioddef byw mewn gwlad ble mae pawb yn dod o'r un cefndir ac yn tarddu o'r un rhan o'r byd. Does dim o'i le mewn glynnu at dy ddiwylliant dy hun, y gamp ydy i annog y pobl hyn i fod yn hyderus yn eu diwylliant eu hunain, gan wneud yr iaith Gymraeg yn ail iaith, neu hyd yn oed yn iaith gyntaf iddynt.

Mae un mudiad rwyn ymwybodol ohonni yn y Gogledd yn gwneud hynny - helpu merched sydd yn ymgeiswyr lloches neu'n ffoaduriaid i ddysgu rhywfaint o Gymraeg.

Mae cau Cymru i ffwrdd oddi wrth pobl o wledydd eraill yn mynd i arwain at Cymru'n ddioddef yn y pendraw ac o ganlyniad i hynny'r iaith, gan na fydd pobl yn gweld hi fel iaith i bawb, ond yn hytrach criwiau bach dibwys.

PostioPostiwyd: Iau 08 Ebr 2004 1:07 pm
gan Dielw
y ffaith bod Pobl o dras affro caribiaidd yn 36 gwaith fwy tebygol o ddioddef ymosodiad treisiol nag person gwyn - ffaith digon trist ac anffodus byddwn i'n ei feddwl

Ydi mae o'n anffodus ond eto dim byd i neud gyda'r drafodaeth.

Byddwn yn rhoi arian mawr i lawr i ddeud bod hynny ddim yn wir - dydy gwneud ffeithiau i fyny ddim yn ffordd dda o ennill ddadl Dielw! Byddwn yn dadlau mae hynny oedd yn hiliol nid dy ddadleuon yn erbyn fewnfudwyr.

Sylw fflip gan fi oedd yr un am crack cocaine er mwyn adio ychydig o gydbwysedd i'r ystadegau. Mae na resymau pam fod pobl o'r Caribi mwy tebygol o cael eu brifo heblaw am hiliaeth.

Mae un mudiad rwyn ymwybodol ohonni yn y Gogledd yn gwneud hynny - helpu merched sydd yn ymgeiswyr lloches neu'n ffoaduriaid i ddysgu rhywfaint o Gymraeg.

Cwl! Pwy sy'n neud hyn?

PostioPostiwyd: Iau 08 Ebr 2004 1:29 pm
gan S.W.
Shekina sydd wedi'w selio ym Mangor ydy'r mudiad.

Doeddwn i ddim yn gweld yr ystadegau'nddibwys, ymosodiadau ble mae'r heddlu wdi nodi hil fel ffactor oedd yn cael eu nodi, yn amlwg mae pobl o pob lliw yn cael eu ymosod arnynt bob dydd, ond mae'r rhain yn edrych ar 'Incidents of Crime where race was deemed to be a factor' (dyna'r dyfyniad oddi ar yr ystadegau).

PostioPostiwyd: Gwe 30 Ebr 2004 9:11 pm
gan Bethan517
Dwi'n credu y dylid gadael mewnfudwyr mewn i Brydain. Ar ddiwedd y dydd, mae'r bobl yma yn fodlon peryglu eu bywydau eu hunain i ddod yma i ddianc rhag y bywyd uffernol y maent yn gorfod ei ddioddef yn eu gwledydd eu hun. Onid yw'r ffaith yma'n dangos pa mor desperate mae nhw i ddianc rhag eu bywydau erchyll? Mae'r bobl yma sy'n dweud bod mewnfudwyr yn dod yma ac yn dwyn ein syddi ni yn malou cachu yn llwyr...gan amlaf mae mewnfudwyr yn cael y swyddi mwya cachlyd erioed sy'n talu'n wael. Ynghyd a hyn oll, mae 'r ffaith bod mewnfudwyr yn dod i Gymru, neu i Brydain o rhan hynny yn gyfle i ni ehangu ein dealltwriaeth a'n gorwelion ynghylch diwylliannau a chrefyddau gwahanol. Dylen ni helpu mewnfudwyr i intergreiddio i mewn i'r gymdeithas.

Re: Ydi hi' n anheg ar yr illegal immigrants?

PostioPostiwyd: Llun 03 Mai 2004 11:11 pm
gan Ffion1
Dr Gwion Larsen a ddywedodd:
Ramirez a ddywedodd:
Dr Gwion Larsen a ddywedodd:A ddylid newid y cwestiwn i, a ddylai gadael mewnfudwyr i Brydain?


Ma hwnna'n gwestiwn hollol wahanol, mi dybiaf.
TITS


Iaith Dr Gwion Larsen!