A Ddyla Nhw Ddod Nol?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A Ddyla Nhw Ddod Nol?

Postiogan Cwlcymro » Maw 20 Ebr 2004 11:31 am

Ma Sbaen yn tynnu ei milwyr allan o Iraq o fewn 6 wythnos, ma Bin Laden yn cynnig heddwch i unrhyw wlad arall sy'n gwneud hynnu.Ma na poll yn y Guardian heddiw sy'n dweud fod 42% o Brydeinwyr eisiau i Blair ddod a'r milwyr adra o Iraq. Be ma pawb yn fama'n feddwl?

Er y mod i wedi bod yn erbyn y rhyfal o'r dechra, a dal yn meddwl ei fod o'n uffar o gangymeriad, dwi'm yn gweld sut all ein milwyr ni ddod adra rwan efo'r wlad fel y mai.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Ray Diota » Maw 20 Ebr 2004 12:43 pm

Amhosib gadel nawr. Cachgiaidd fyse gneud. Yr UN ddyle fod wedi mynd mewn na yn lle cynta', nid rhyw 'gynghrair' o wledydd yn g'neud fel fynna nhw...ond nawr bo nhw na, rhaid i'r diawled orffen y job.
iaaasu moses!
Rhithffurf defnyddiwr
Ray Diota
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4570
Ymunwyd: Gwe 19 Rhag 2003 3:52 pm
Lleoliad: Bow Street: It's like armageddon!

Postiogan GT » Maw 20 Ebr 2004 12:57 pm

Ray Diota a ddywedodd:Amhosib gadel nawr. Cachgiaidd fyse gneud. Yr UN ddyle fod wedi mynd mewn na yn lle cynta', nid rhyw 'gynghrair' o wledydd yn g'neud fel fynna nhw...ond nawr bo nhw na, rhaid i'r diawled orffen y job.


Mae hyn yn syml iawn. Gofyn i'r UN ddelio efo'r llanast a'i heglu hi cyn gynted ag y gall tanc fynd.
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dielw » Maw 20 Ebr 2004 1:05 pm

Fasa tynnu allan yn gynnar yn rwystredig iawn.

Gorffen y job yw'r unig beth i neud erbyn hyn er gwaetha'r anufudd-dod.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan GT » Maw 20 Ebr 2004 1:10 pm

Ia, ond beth ydi'r job?
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Maw 20 Ebr 2004 1:27 pm

GT a ddywedodd:
Ray Diota a ddywedodd:Amhosib gadel nawr. Cachgiaidd fyse gneud. Yr UN ddyle fod wedi mynd mewn na yn lle cynta', nid rhyw 'gynghrair' o wledydd yn g'neud fel fynna nhw...ond nawr bo nhw na, rhaid i'r diawled orffen y job.


Mae hyn yn syml iawn. Gofyn i'r UN ddelio efo'r llanast a'i heglu hi cyn gynted ag y gall tanc fynd.


Wel, wel, be nesa? Dwi'n cytuno efo GT! :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan GT » Maw 20 Ebr 2004 1:37 pm

Arglwydd mawr Garnet, paid a fy nrysu fi!
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Maw 20 Ebr 2004 1:40 pm

GT a ddywedodd:Arglwydd mawr Garnet, paid a fy nrysu fi!


Dwi'n meddwl bod y CU yn gorff ffantastic, yn enwedig wrth gadw'r heddwch, amddiffyn cyfraith a thref, goruwchwylio etholiadau. Dwi jysd yn meddwl bod angen iddyn nhw weithio ar yr ochr amddiffyn hawliau dynol, herio llywodraethau gormesol, a rhwystro genocide.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan S.W. » Maw 20 Ebr 2004 2:18 pm

Byddai'n anodd iawn i'r Cenhedloedd Unedig wneud unrhywbeth am hil-laddiadau (genocide). Yn anffodus mae'r term hil-ladiad yn cario gymaint o 'conotations' gyda fo prin iawn fydd gwledydd yn gawl unrhywbeth yn hil-laddiad - Rwanda yn eithriad. Pan bu i gynrychiolydd o unai'r Cenhedloedd Undedig neu'r Undeb Ewropeaidd (ddim yn cofio'n iawn) ymweld a un o safleoedd lladd Kosovo a dweud:

"What I have seen here is nothing less than genocide". Bu iddo gael ei rhoi ar yr awyren nesaf o'r wlad yn syth, gan y byddai hynny wedi gorfodi i pob wlad ymyryd, a wedi yn ei thro arwain at gymhariaethau gyda gweldydd eraill.

Yn anffodus tra fydd gweldydd yn amddiffyn eu hawliau eu hunain yn gyntaf bydd y Cenhedloedd Undeig yn cael ei chamddefnyddio gan bawb.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: A Ddyla Nhw Ddod Nol?

Postiogan Dr Gwion Larsen » Maw 20 Ebr 2004 3:06 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Ma Sbaen yn tynnu ei milwyr allan o Iraq o fewn 6 wythnos.
o fewn 15 diwrnod glywish i
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Nesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron