Tudalen 1 o 2

Plot i chwythu fyny Old Trafford

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 4:37 pm
gan RET79
Os yw'r honiadau yn wir, gallai hon fod wedi bod yn drychineb uffernol. Yn ol y son roedd y diawled yn cysidro rhoi suicide bomber ym mhob rhan o'r stadiwm yn ystod gem Lerpwl a Man Utd ddydd Sadwrn. Diolch I Dduw wnaeth yr heddlu ddal y bobl aflan yma cyn iddyn nhw wneud y ffasiwn beth.

Byw mewn siop kebab roedden nhw. Ar fater o egwyddor a iechyd dwi wedi penderfynu ers amser i beidio twllu'r siopau yma byth eto.

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 4:45 pm
gan S.W.
Achos bod pob gwerthwr Kebab a siop Kebab yr un peth awrth reswm!

Digon teg y ddadl iechyd - er fy mod i wrth fy modd gyda kebab Shish. Be ydy'r egwyddor sydd yn dy atal di?

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 4:55 pm
gan ceribethlem
S.W. a ddywedodd:Be ydy'r egwyddor sydd yn dy atal di?

Mae hyn yn hollol amlwg, mae pob perchennog ar siopau cebab ishe chwythu lan Old Trafford :winc:

PostioPostiwyd: Maw 20 Ebr 2004 4:56 pm
gan S.W.
o ia pam nes i ddim meddwl am hynny, o dan ni i gyd yn buggered then! :rolio:

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2004 9:38 am
gan Llewelyn Richards
Beth sydd yn fy mhoeni fi ydi bod llawer o bobl Islamaidd wedi cael eu harestio ym Mhrydain ar amheuaeth o fod yn derfysgwyr, ond dydwi ddim wedi gweld bod tystiolaeth gadarn yn erbyn llawer o'r bobl hyn.

e.e. pan oedd Heathrow ar 'red terror alert' mi wnaethon nhw arestio llwythi o bobl, ond does dim wedi dod hyn, neb di mynd o flaen eu gwell, a neb yn gwybod beth yw'r cyhuddiad - dim ond son am 'rocket bomb' ac ati, ond oes rhywun wedi gweld yr arfau honedig hyn (oes patrwm yn fama?)

Dwi'n cael yr argraff bod yr heddluoedd cudd jysd yn arestio llwythio o bobl Islamaidd i wneud i bobl eraill deimlo'n saff, a gwneud i bobl feddwl bod nhw'n gwneud rhywbeth amdan y peth.

Dydw'i ddim digon twp i feddwl nad oes na bobl ym Mhrydain a'i bryd ar chwythu eu hunain, pobl eraill ac adeiladau i fyny, ond dydan ni ddim yn cael gwybod ei hanner hi.

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2004 9:49 am
gan S.W.
Be sy'n digwydd dwin meddwl ydy eu bod yn cael 'tipoff' bod rhywbeth am ddigwydd mewn ardal ac yn cael enw wrach un neu ddau a allai fod yn gyfrifol ac oherwydd bod terfysgwyr o ran eu natur yn gylchoedd cyfrinachol iawn gyda neb yn gwybod yn iawn pwy sydd yn gyfrifol, gyda gwybodaeth amdano, a allai gymryd drosodd os oes rhai yn cael eu arestio mae nhw'n dueddol o lunio cylch eithaf eang o'u amgylch a gweithio ar y syniad fod arestio gormod yn mwy nag arestio dim digon.

Mae hyn yn honnod berryglus oherwydd wrth reswm gallai hyn gael ei gamddefnyddio - pryderaf fod hyn yn wir am Prydain sydd yn hanesyddol wedi gwendu hyn yn erbyn y Gwyddelod. Ond gallai ymddygiad fel hyn greu mwy o derfysgaeth gan greu'r teimlad bod hil/cenedl arbennig yn cale eu pigo arnynt nhw.

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2004 12:37 pm
gan Sleepflower
Fi'n gwneud disseratation ar Al-Qaeda -
Oeddwch chi'n gwbod fod Osama Bin Laden yn cefnogi Arsenal?

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2004 12:45 pm
gan Macsen
Sleepflower a ddywedodd:Oeddwch chi'n gwbod fod Osama Bin Laden yn cefnogi Arsenal?


Ac oni'n meddwl bod o'n foi iawn cynt.

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2004 8:28 pm
gan Dylan
'Dw i'n edrych ymlaen i gael gwybod beth ydi egwyddor Ret.

(fy egwyddor i ydi bod cibabs yn afiach - hyd yn oed tra'n feddw gaib)

PostioPostiwyd: Mer 21 Ebr 2004 8:47 pm
gan RET79
Dylan a ddywedodd:'Dw i'n edrych ymlaen i gael gwybod beth ydi egwyddor Ret.

(fy egwyddor i ydi bod cibabs yn afiach - hyd yn oed tra'n feddw gaib)


Wel Dylan, yn syml iawn, pan ti'n gwario dy arian yn rywle ti'n helpu i'w cadw'n agored. Yn bersonol sgen i ddim awydd gweld y llefydd budr yma'n aros yn agored, felly dwi ddim yn mynd yno bellach, hyd yn oed am chips.