Dydy unrhywun sydd eisiau cadw'r teulu brenhinol wirioneddol ddim yn gall o gwbwl. O gwbwl gwbwl.
Mae 'Prince' William yn cael ei eni, felly fo fydd Tywysog Cymru (NACI!!!!!) a Brenin Prydain. Heb orfod gwneud dim na phrofi dim byd. Ellith y tri sydd wedi deud na plis ddeud ble mae'r cyfiawnder a thegwch yn hyn? Pwy sydd wedi ei ddewis o fod yn dywysog ar Gymru? Pam fod y teulu brenhinol yn cael mynd drwy fywyd heb orfod wneud dim byd, ond dal yn disgwyl teyrngarwch oddi wrth y bobl am ddim rheswm? Pam fod rhywun yn erbyn y drefn yma yn anarchydd?
A mae'r ddadl fod y teulu brenhinol yn dod a mwy o bres i fewn na maent yn gymeryd oddi ar y wlad yn chwerthinllyd. Does na NEB o dwristiaid yn mynd i weld unrhyw un o'r teulu brenhinol - mynd i weld yr artefacts a'r adeiladau hynafol y maent. Dydynt ddim yn mynd i loegr i gael paned efo Princess Anne for f*ck sakes...
GT a ddywedodd:Pan mae'r tylwyth Macsen yn eistedd o gwmpas y bwrdd yn edrych ar lenyddiaeth gwyliau ym mis Ionawr neu Chwefror yn cynllunio ar gyfer eu gwyliau ydi'r sgwrs yn mynd rhywbeth fel hyn?
Macsen 1 Beth am Sbaen?
Macsen 2 Ia, swnio'n iawn i fi, mae yna frenin yn fana.
Macsen 1 Ffrainc?
Macsen 3 No we, mae'r lle yn crap - dim brenin ar gyfyl y lle.
Macsen 1 Saudi Arabia?
Macsen 2 Ia ella, mae yna uffar o frenin da yn y fan yna.
Etc, etc.
Superb!