A ddylai cael gwared a' r teulu brenhinol?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A ddylai cael gwared a' r teulu brenhinol?

Dylia
32
84%
Na ddylia
6
16%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 38

Postiogan Annibyniaeth RWAN » Mer 05 Mai 2004 2:19 pm

Blydi hel, pwy ff*c ydi'r tri sydd wedi pleidleisio 'na'?

Dydy unrhywun sydd eisiau cadw'r teulu brenhinol wirioneddol ddim yn gall o gwbwl. O gwbwl gwbwl.

Mae 'Prince' William yn cael ei eni, felly fo fydd Tywysog Cymru (NACI!!!!!) a Brenin Prydain. Heb orfod gwneud dim na phrofi dim byd. Ellith y tri sydd wedi deud na plis ddeud ble mae'r cyfiawnder a thegwch yn hyn? Pwy sydd wedi ei ddewis o fod yn dywysog ar Gymru? Pam fod y teulu brenhinol yn cael mynd drwy fywyd heb orfod wneud dim byd, ond dal yn disgwyl teyrngarwch oddi wrth y bobl am ddim rheswm? Pam fod rhywun yn erbyn y drefn yma yn anarchydd?

A mae'r ddadl fod y teulu brenhinol yn dod a mwy o bres i fewn na maent yn gymeryd oddi ar y wlad yn chwerthinllyd. Does na NEB o dwristiaid yn mynd i weld unrhyw un o'r teulu brenhinol - mynd i weld yr artefacts a'r adeiladau hynafol y maent. Dydynt ddim yn mynd i loegr i gael paned efo Princess Anne for f*ck sakes...

GT a ddywedodd:Pan mae'r tylwyth Macsen yn eistedd o gwmpas y bwrdd yn edrych ar lenyddiaeth gwyliau ym mis Ionawr neu Chwefror yn cynllunio ar gyfer eu gwyliau ydi'r sgwrs yn mynd rhywbeth fel hyn?

Macsen 1 Beth am Sbaen?

Macsen 2 Ia, swnio'n iawn i fi, mae yna frenin yn fana.

Macsen 1 Ffrainc?

Macsen 3 No we, mae'r lle yn crap - dim brenin ar gyfyl y lle.

Macsen 1 Saudi Arabia?

Macsen 2 Ia ella, mae yna uffar o frenin da yn y fan yna.

Etc, etc.


Superb!
Rhithffurf defnyddiwr
Annibyniaeth RWAN
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 352
Ymunwyd: Maw 09 Rhag 2003 3:08 pm
Lleoliad: Cymru

Postiogan Cwlcymro » Mer 05 Mai 2004 2:20 pm

trio gwrthbrofi hynny yda ni.

Wel ti heb wrthbrofi hynna o gwbl.

Wel ella ma dyna pam ddudis i TRIO ret!

Diddorol gweld cymaint o'r 'Royal town of Caernarvon' yn erbyn y teulu brenhinol. Bob tro mae'r teulu brenhinol yn ymweld a Chaernarfon mae pobl di ri allan yn y stryd yn chwifio jac yr undeb. Anodd gen i gredu fod cofis maes-e yn siarad dros eu tref.

Sbia ar o bobl di ri ma sy'n chwifio jac yr undeb yn Gaernarfon a mi nei di sylwi ei bod nhw'i gyd yn ffitio i dri grwp.

1. Plant dan 8

2. Hen bobl dros 70

3. Pobl ifanc tua 12 yn dwyn o bocedi'r hen ledis :lol:

Sgenaim clem be ydi barn 'y dre', swn i'n eitha sypraisd os sgenddu nhw un barn rhyngthynt RET, Ond swn i'n dyfalu nad ydi y rhan fwya ohonu nhw yn rhoi dau gachiad am y teulu brenhinol, a'r hannar arall wedi ei rhannu rhwng rheini sy'n offended fod gan bobl ddiffyg parch at y Frenhines ac yn gyrru llythr i'r Herald yn cwyno fod na siop ar y maes yn gwerthu crys 'Twll Tin i'r Cwin', a pobl sy'n prynnu'r crysa yna!
Ond cyn i chdi benderfynnu fod pobl Caernarfon i gyd yn caru'r teulku brenhinol, cofia fod y Frenhines wedi sgipio y dre ar sawl taith drwy Ogledd Cymru am i'r Cyngor beidio boddran rhoi gwahoddiad iddi.

Dwi'n edrach ymlaen i William bach gael ei goroni, y son ydi nad ydy nhw am ddod a'r seromoni i Gaernarfon, am
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan S.W. » Mer 05 Mai 2004 2:25 pm

rheini sy'n offended fod gan bobl ddiffyg parch at y Frenhines ac yn gyrru llythr i'r Herald yn cwyno fod na siop ar y maes yn gwerthu crys 'Twll Tin i'r Cwin', a pobl sy'n prynnu'r crysa yna!


Dwi wedi prynnu un wythnos dwetha! :D
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Macsen » Mer 05 Mai 2004 2:40 pm

GT a ddywedodd:Pan mae'r tylwyth Macsen yn eistedd o gwmpas y bwrdd yn edrych ar lenyddiaeth gwyliau ym mis Ionawr neu Chwefror yn cynllunio ar gyfer eu gwyliau ydi'r sgwrs yn mynd rhywbeth fel hyn?

Macsen 1 Beth am Sbaen?

Macsen 2 Ia, swnio'n iawn i fi, mae yna frenin yn fana.

Macsen 1 Ffrainc?

Macsen 3 No we, mae'r lle yn crap - dim brenin ar gyfyl y lle.

Macsen 1 Saudi Arabia?

Macsen 2 Ia ella, mae yna uffar o frenin da yn y fan yna.

Etc, etc.


Be ffwc ti'n siarad amdano GT? Dwi'n cyfeirio at y ffaith bod nifer o bobl o wledydd eraill yn gweld y teulu brenhinol fel rhan o ddiwylliant Prydain ac yn dod yma er mwyn mwynhau'r diwylliant hwnnw. Mae'r dyfyniad na jyst yn fabiaidd o wirion. Gyda llaw, dwi'n mynd i'r Aifft, lle mae'r brenhinoedd i gyd wedi' hen gladdu. :winc:

Blydi hel, pwy ff*c ydi'r tri sydd wedi pleidleisio 'na'?


Dwi'n un. Da ni'r Cymru yn cwyno gymaint am y saeson yn dinistro'n diwylliant ni, mae'n uffernol o hypocritical dweud ein bod ni am ddinitro'i diwylliant nhw. Mi fyswn i'n hapus i weld y Teulu Brenhinol yn gadael fynd ar i gafael ar Gymru, ond os ydy pobl Lloegr isho nhw gallai' ddim dadlau.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan GT » Mer 05 Mai 2004 3:16 pm

Macsen a ddywedodd:Be ffwc ti'n siarad amdano GT?


Cwl hed Macsen bach, doeddwn i ddim yn tynnu dy goes mewn ffordd gas, 'mond gwneud pwynt nad yw presenoldeb neu absenoldeb teulu brenhinol yn ffactor mawr pan mae pobl yn dewis gwyliau. 'Dwi'n sylwi dy fod wedi colli dy goron yn rhywle. Hyn sydd yn dy wneud ti mor flin?

Macsen a ddywedodd:Dyfyniad:
Blydi hel, pwy ff*c ydi'r tri sydd wedi pleidleisio 'na'?


Dwi'n un.


Dyna fo ta rydym yn gwybod rwan - RET 79 a Pogon ydi'r ddau arall.

Macsen a ddywedodd:Da ni'r Cymru yn cwyno gymaint am y saeson yn dinistro'n diwylliant ni, mae'n uffernol o hypocritical dweud ein bod ni am ddinitro'i diwylliant nhw.


Wyt ti'n meddwl dy fod yn bod mymryn bach yn nawddoglyd tuag at y Saeson yma? - siawns bod mwy i'w diwylliant na'r teulu rhyfedd yma. Beth bynnag - mae'n debyg bod mwy ohonyn nhw yn wrth frenhiniaeth na sydd ohonom ni.

Gan fy mod yn cyfranu yn fy nhrethi tuag at gadw'r teulu estynedig yma mewn moethusrwydd, efallai bod gennyf rhyw fath o hawl i fynegi barn, ynteu oes yna bethau na chaiff Cymro ddweud ei ddweud ynglyn a nhw?
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Mer 05 Mai 2004 3:25 pm

GT a ddywedodd:Cwl hed Macsen bach, doeddwn i ddim yn tynnu dy goes mewn ffordd gas, 'mond gwneud pwynt nad yw presenoldeb neu absenoldeb teulu brenhinol yn ffactor mawr pan mae pobl yn dewis gwyliau.


Dwi'n flin am fod geni 9,500 o eiriau traethawd iw sgwennu erbyn dydd gwener.

GT a ddywedodd:Wyt ti'n meddwl dy fod yn bod mymryn bach yn nawddoglyd tuag at y Saeson yma? - siawns bod mwy i'w diwylliant na'r teulu rhyfedd yma. Beth bynnag - mae'n debyg bod mwy ohonyn nhw yn wrth frenhiniaeth na sydd ohonom ni.


Dim o gwbwl. Wrth gwrs bod mwy iw diwylliant nhw (dim ond ryw 3,000 o flynyddoedd) ond mae y teulu brenhinol yn rhan ohonno run fath. Os fysai pobl y wlad yn erbyn cael teulu brenhinol fyswn i ddim yn meindio ei gweld nhw'n mynd.

GT a ddywedodd:Gan fy mod yn cyfranu yn fy nhrethi tuag at gadw'r teulu estynedig yma mewn moethusrwydd, efallai bod gennyf rhyw fath o hawl i fynegi barn, ynteu oes yna bethau na chaiff Cymro ddweud ei ddweud ynglyn a nhw?


Fel dw i wedi dweud, dwi'n erbyn y teulu yn cael unrhyw fath o gysylltiad a Cymru.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan GT » Mer 05 Mai 2004 4:21 pm

Macsen a ddywedodd:Dwi'n flin am fod geni 9,500 o eiriau traethawd iw sgwennu erbyn dydd gwener.


Wyt ti'n meddwl ei bod yn syniad da i ti fod yn dadlau efo fi ar maes-e dan yr amgylchiadau?

Macsen a ddywedodd:Dim o gwbwl. Wrth gwrs bod mwy iw diwylliant nhw (dim ond ryw 3,000 o flynyddoedd) ond mae y teulu brenhinol yn rhan ohonno run fath. Os fysai pobl y wlad yn erbyn cael teulu brenhinol fyswn i ddim yn meindio ei gweld nhw'n mynd.


Mae gen i ofn eu bod yn rhan o dy ddiwylliant dithau hefyd - hoffi'r peth neu beidio. Mae gen ti hawl i ddweud dy ddweud.

Mae mynd a'th resymeg i'w eithaf yn achosi problemau. Mae rhyfela yn rhan o ddiwylliant Prydeinig. Oes gen i hawl i feirniadu'r rhyfel yn Irac felly, ynteu ydw i yn bygwth 'difa' diwylliant y Saeson?
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Mer 05 Mai 2004 4:25 pm

GT a ddywedodd:Mae mynd a'th resymeg i'w eithaf yn achosi problemau. Mae rhyfela yn rhan o ddiwylliant Prydeinig. Oes gen i hawl i feirniadu'r rhyfel yn Irac felly, ynteu ydw i yn bygwth 'difa' diwylliant y Saeson?


Cwestiwn sy'n headdu edefyn ei hun. Ydi diwylliant yn iawn pam fod o'n achosi gofid i eraill? Ond dwi'm yn gweld pa ofid mae'r teulu brenhinol yn ei achosi chwaith.

GT a ddywedodd:Mae gen i ofn eu bod yn rhan o dy ddiwylliant dithau hefyd - hoffi'r peth neu beidio.


Os fysai'r mwyafrif o bobl Cymru yn teimlo bod y teulu brenhinol yn rhan bwysig o'i diwylliant nhw yna mi fyswn i o blaid ei cadw nhw fan hyn hefyd. Ond tydw i ddim yn meddwl ei bod nhw.

Macsen a ddywedodd:Wyt ti'n meddwl ei bod yn syniad da i ti fod yn dadlau efo fi ar maes-e dan yr amgylchiadau?


Mae Lexis-Nexis yn cymeryd ei amser i lwytho.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan ceribethlem » Mer 05 Mai 2004 4:42 pm

Brenin: I order you to be quiet.
Serf 1: Order ey, who does he think he is?
Brenin: I am your king.
Serf 1: Well, I didn't vote for you.
Brenin: You don't vote for kings!
Serf 1: Well how do you become king then?
Brenin: The lady of the lake, her arm clad in the purest shimmering satin, held aloft Excalibur; proving, by divine providence, that I, Arthur, was to carry Excalibur. THAT is why I am your king.
Serf 2: Listen mate, strange women lying in ponds, distributing swords is no basis for a system of government. Supreme executive power derives from a mandate of the masses, not from pharcical aquatic seremony. If I went round declaring myself Emperor just because some moistened bint lobbed a scimitar at me, they'd put me away!
:lol:
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan GT » Mer 05 Mai 2004 4:53 pm

Macsen a ddywedodd:Ond dwi'm yn gweld pa ofid mae'r teulu brenhinol yn ei achosi chwaith.


Mae ceribethlem yn rhoi rhan o'r ateb uchod. Mi geisiaf i roi pethau mewn ffordd llai barddonol (barddonllyd?):

1 Mae brenhiniaeth yn gwneud pobl yn daeogion yn hytrach na dinasyddion. Mae'r gwahaniaeth i mi yn arwyddocaol. Dyliai'r awdurdod eithaf fod gyda dinasyddion gwlad - ddim efo unigolyn sydd yn ei swydd oherwydd pwy oedd ei thad.

2 Mae grym gwleidyddol gan y frenhiniaeth o hyd. Nid yw hyn yn briodol mewn gwladwriaeth, ddemocrataidd fodern.

3 Nid yw trefn lle mae pobl yn cael eu hunain mewn sefyllfa o rym oherwydd eu genedigaeth yn hytrach nag oherwydd eu gallu yn iach - yn arbennig pan fod y drefn yn bodoli ar binacl cymdeithas.

4 Mae'r frenhiniaeth yn niweidiol i'r unigolion sydd yn perthyn i'r teulu brenhinol.
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron