Ond mae gan y llywodraeth yr opsiwn i anwybyddu ei hawdurdod yn gyfan gwbwl. Felly os nad ydi hi yn licio'r peth does gen hi ddim dewis ond arwyddo'r 'cymaint o bapurau'.
Hollol anghywir Macsen. Does gan y llywodraeth ddim y fath opsiwn. Os nad ydi'r Frenhines yn arwyddo deddf yna dydi hi ddim yn gyfraith, mor syml a hynny. Mae gan y llywodraeth yr opsiwn o sgipio Ty'r Arglwyddi os du nhw'n desbryt ond mai'n hollol amhosib iddy nhyw sgipio'r Frenhines.
Yn dechnegol gan y Frenhines ma'r holl bwer. Ond mae confensiynau yn golygu erbyn hyn ei bod hi'n actio ar 'gyngor' (i.e. orders) y Prif Weinidog. Ond os ydi hi'n coilio ddigon cryf yn rhywbeth, mi all ddefnyddio ei pwer.
Fel ddudodd GT does na neb yn gwybod be fysa'n digwydd os y bysa hi'n gwrthod arwyddo deddf, mi fysa hi'n 'constitutional crisis'.
Yn dechnegol fysa'r llywodraeth ddim yn gallu gwneud dim, ond mewn reality mi fysa nhw'n gallu dewis rhwng refferendwm i gael gwared o'r teulu (er na fysa refferndwm felly a dim effaith yn gyfreithiol, sw'n i'n meddwl y bysa Liz yn derbyn pleidlais yn ei herbyn ac yn arwyddo deddf i orffen y teulu brenhinol)
Er cyn lleiad o bwer mae'r Frenhines yn ei ddefnyddio o ddydd i ddydd, gwirion iawn ydi meddwl nad oes ganddi unrhyw bwer bellach.
Does gan y Frenhines ddim mwy o siawns o newid meddwl Tony Blair na ti neu fi.
Dwi'n meddwl fod gan y Frenhines LOT mwy o siawns o newid meddwl Blair na chdi a fi Macsen. Er nad os na'r un ona ni'n gwybod be sy'n mynd ymlaen rhwng y ddau, ti'n clywed lot o son fod y Frenhines yn mynnu cael llaw ym mhopeth pwysig, a gan fod Balir yn goro sgwrsio efo hi am faterion gwlad bob wythnos, swn i'n eitha shocd os fysa hi'n cael dim effaith.