A ddylai cael gwared a' r teulu brenhinol?

Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Ynysoedd y Cewri, Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A ddylai cael gwared a' r teulu brenhinol?

Dylia
32
84%
Na ddylia
6
16%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 38

Postiogan GT » Mer 05 Mai 2004 8:16 pm

Macsen a ddywedodd:Mi fysai'r llywodraeth yn newid y rheolau, a mi fysat ti'n cael dy ffordd; dim mwy o Mrs Queenie. Yn fyr, fysa hi'm yn meiddio.


Feddyliodd neb y byddai Siarl y Cyntaf yn marchio efo milwyr i Dy'r Cyffredin i geisio arestio ASau ond mi wnaeth. Os nad ydi'r Cwin yn arwyddo'r papurau, fedri di ddim newid y rheolau.

Macsen a ddywedodd:Does gan y Frenhines ddim mwy o siawns o newid meddwl Tony Blair na ti neu fi. Mae Blair yn 'gwarndo' arni, ond tydi o'm yn gwrando arni. Mae hi wedi bod yn gynyddol yn erbyn y rhyfel yn Irac, er engraifft. Dwi'm yn gweld Mr. Blair yn newid ei feddwl.


Barn Macsen ydi'r uchod. Dwyt ti na fi ddim yn gwybod faint o sylw mae'r Prif Weinidog presenol nag unrhyw un arall yn ei gymryd. Y pwynt yw ei bod yn cael y cyfle, does na neb arall.

Macsen a ddywedodd:Dwi di gweld lot o bobl clefar yn cael ei trechu gan egwyddorion twp. Os wyt ti'n meddwl y gallet ti wir wneud da drwy fod yn aelod syneddol, mi ddylsat ti wneud hynny llw ai beidio. Dod a'r lle lawr o'r tu mewn lot haws na't tu allan.


Nid beth wyt ti'n feddwl o bobl sy'n gwrthod cymryd eu seddi yn y senedd ydi'r pwynt. Y pwynt ydi bod y drefn bresenol yn achosi i bobl gymryd y cam yma. Mae rhai yn cymryd eu hegwyddirion mwy o ddifri nag eraill.

Macsen a ddywedodd:Pigo tyllau mewn cyfalafiaeth ydw i. Ie, fi ydi 'dyn y chwith'.


Amcan sosialaeth ydi creu tegwch cymdeithasol. Mae 'Croeso i'r bydysawd go iawn' yn ateb pob dadl sosialaidd.
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Mer 05 Mai 2004 8:20 pm

27/31 hyd yn hyn eisiau cael gwared o'r teulu brenhinol.

Hoffwn bwyntio allan fod hyn yn dweud mwy am y bobl sy'n dod ar maes-e yn hytrach na barn wirioneddol y Cymry Cymraeg neu bobl Cymru yn gyffredinol.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Dr Gwion Larsen » Mer 05 Mai 2004 8:25 pm

Wel hoffwn i bwyntio allan bo 'chydig mwy na 50% o Gymru yn erbyn y teulu brenhinol, a nid jyst ar maes -e
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan RET79 » Mer 05 Mai 2004 8:27 pm

Dr Gwion Larsen a ddywedodd:Wel hoffwn i bwyntio allan bo 'chydig mwy na 50% o Gymru yn erbyn y teulu brenhinol, a nid jyst ar maes -e


Pryd wnaethoch chi'r ymchwiliad yna Dr Larsen?
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Macsen » Mer 05 Mai 2004 8:33 pm

Dachi'ch dau yn siarad dros 50% o gachu. Does neb wedi gwneud yr ymchwiliad yna, byth, ac mae deud bod 'pobl Cymru' o blaid hyn a'r llall yn wirion.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dr Gwion Larsen » Mer 05 Mai 2004 8:36 pm

Paid a bod yn goc wan RET, di pawb ddim yn cynnal ymchwil ei hunan fatha ti! Dwi'n meddwl mai'r BBC nath yr ymchwil ai i sbio yn munud pam fo "Bad Girls" wedi gorffen! :wps: :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Dr Gwion Larsen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2332
Ymunwyd: Gwe 26 Rhag 2003 12:58 am
Lleoliad: Llanllyfucocnoeth

Postiogan Macsen » Mer 05 Mai 2004 8:39 pm

Mi fysai'r teulu brenhinol yn medru cael ei hethol os fysan nhw eisio... wel, efallai yn America. :winc:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan GT » Mer 05 Mai 2004 8:41 pm

RET79 a ddywedodd:27/31 hyd yn hyn eisiau cael gwared o'r teulu brenhinol.

Hoffwn bwyntio allan fod hyn yn dweud mwy am y bobl sy'n dod ar maes-e yn hytrach na barn wirioneddol y Cymry Cymraeg neu bobl Cymru yn gyffredinol.


Ti'n iawn - ond nid yw'r pwynt yn un arbennig o dreiddgar. Mae pol piniwn wedi ei gymryd ar Faes e am ddangos barn maeswyr, mae pol piniwn wedi ei gymryd yn walton am ddangos barn carcharorion (Oes yna rhyw arwyddocad i'r gyffelybiaeth dwi heb sylwi arni yma?)
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan GT » Mer 05 Mai 2004 8:44 pm

RET79 a ddywedodd:Dwi'n meddwl fod rhywbeth eitha sefydlog mewn cael brenhiniaeth. Mae'r gwleidyddion yn mynd a dod ond mae'r frenhiniaeth yn gyson. Mewn achos o argyfwng neu thristwch mae pobl yn edrych am rywun i grynhoi teimladau'r wlad - gall brenhines, sydd yn wleidyddol niwtral, uno'r bobl mewn ffordd allai gwleidyddion byth wneud.


Sefydlogrwydd oedd y syniad efo 1000 year Reich Hitler.

Roedd rhaid i Alistair Campell 'sgwennu araith i'r Cwin pan wnaeth ei mherch yng nghyfraith ei hun farw. Mae'r Tywysog Philip efo enw am wneud jocs ar drael gwahaniaethau hiliol, trychinebau etc.
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan GT » Mer 05 Mai 2004 9:00 pm

RET79 a ddywedodd:Mae'r teulu brenhinol yn boblogaidd ac yn sicr mae nhw'n denu twristiaid i Brydain. Edrychwch ar y miloedd eith allan i Lundain pan mae digwyddiad mawr yn eu teulu fel marwolaeth neu phriodas, heb anghofio'r miliynau wneith wylio'r peth ar y teledu o gwmpas y byd.


Wyt ti o ddifri yn meddwl bod pobl yn dod o wledydd pell i sefyll y tu allan i Balas Buckingham yn y glaw? Meddylia cymaint mwy fyddai'n dod petai'r palasau yma yn agored i'r cyhoedd, petai pobl yn cael gweld casgliadau lluniau y Frenhines. 'Dwyt ti ddim angen Teulu Brenhinol ar gyfer hynny.

Mae son am bobl yn dod i angladdau braidd fel cyfiawnhau'r IRA am bod aeth 100,000 neu beth bynnag i gynhebrwng Bobby Sands.
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Prydain

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai

cron