GT a ddywedodd:1 Mae brenhiniaeth yn gwneud pobl yn daeogion yn hytrach na dinasyddion. Mae'r gwahaniaeth i mi yn arwyddocaol. Dyliai'r awdurdod eithaf fod gyda dinasyddion gwlad - ddim efo unigolyn sydd yn ei swydd oherwydd pwy oedd ei thad.
2 Mae grym gwleidyddol gan y frenhiniaeth o hyd. Nid yw hyn yn briodol mewn gwladwriaeth, ddemocrataidd fodern.
3 Nid yw trefn lle mae pobl yn cael eu hunain mewn sefyllfa o rym oherwydd eu genedigaeth yn hytrach nag oherwydd eu gallu yn iach - yn arbennig pan fod y drefn yn bodoli ar binacl cymdeithas.
4 Mae'r frenhiniaeth yn niweidiol i'r unigolion sydd yn perthyn i'r teulu brenhinol.
Dwi'n cytuno'n chwyrn efo pwyntia 3 a 4, ond pwynt 1 - mae'r awdurdod eithaf ym Mhrydain gan y Senedd, nid y frenhines, gan mai'r bobl wnaeth ethol y Senedd. Dydi'r Senedd ddim yn atebol i'r frenhiniaeth. A pwynt 2 - pa rym gwleidyddol sydd gan y frenhiniaeth? (Blaw sgwrs wsnosol y frenhines efo Tone )