Gan nad ydi y Frenhines a Blair yn barod i ni fynd draw i'r palas a gwrando, fedra ni byth wybod yn iawn.
Ond ma'n ffaith fod Liz yn cymeryd llawer mwy o ddiddordeb yn ei llywodraeth na y rhan fwya o frenhinoedd o'i blaen, a mi yda ni'n clywed yn ddigon aml fod y Frenhines wedi deud ei barn am yr hyn neu'r llall wrth Blair.
Mi fyswn i yn eitha sypraisd os ti'n iawn ma siarad am Leo bach ma nhw bob wsos.
"Dy ddewis di ydi o, ond os nad wyt ti'n cytuno a ni mi gei di y sack a mi wnawn ni ei wneud o beth bynnag." Ai dy ddewis di fysa fo wir wedyn?
We swn i'm yn meddwl y bysa Blair yn deud hunna wrthi yli. Does gan Blair DDIM pwer dros y Frenhines. Yr unig ffordd fysai'n bosib iddo feddwl am roi'r 'sac' iddi fysa refferndwm, a hyd yn oed os fysa hwnnw o blaid rhoi sac iddi (a ma hynnu yn bell o fod yn sicrwydd) wedyn mi fysa'n rhaid i'r Frenhines gytuno i fynd, mi fysa dal yn basib iddi wrthod mynd a cario ymlaen i fod yn Fren hines (ond fel ddudis i, y siawns ydi y bysa hi'n derbyn refferendwm)
Fe gafodd Heath ei wneud yn Brif Weinidog er nad ei barti o oedd y mwyafrif (nath hynna ddim para'n hir, fe golapsiodd y senedd a mi oedd yn rhaid cael etholiad arall). Dewis y Brenin oedd hynnu.